Neidio i'r prif gynnwy

1. Cefndir

1.1 Mae’r Memorandwm hwn yn amlinellu’r berthynas waith rhwng Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) (“y corff”) a Llywodraeth Cymru (“y Llywodraeth”). Ei bwrpas yw galluogi’r Comisiynydd a’r Llywodraeth i gydweithio’n effeithiol ac yn adeiladol i weithredu Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’r ddau gorff hefyd yn ymrwymo i gyd-gyfrannu at wireddu amcanion Rhaglen Lywodraethu’r Llywodraeth, a Cymraeg 2050. Strategaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg. Wrth ymgymryd â’u gwaith bydd y ddau gorff yn gweithio tuag at saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig y nod o greu ‘Cymru a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu'. 

1.2 I gyflawni hyn bydd y ddau gorff yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion sydd wedi’u gosod allan trwy’r pum dull o weithio (Meddwl yn yr Hirdymor, Integreiddio, Cynnwys, Cydweithio, Atal). Mae’r Memorandwm hwn a’r trefniadau sydd ynddo wedi eu cytuno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Gyllid a'r Gymraeg ar ran Gweinidogion Cymru, a chan Gomisiynydd y Gymraeg. 

1.3 Nid yw’r Memorandwm wedi’i rwymo mewn cyfraith, ond mae’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn cytuno i weithredu yn unol ag ef. Nid yw’r Memorandwm ychwaith yn disodli nac yn cymryd blaenoriaeth dros ddarpariaethau’r Mesur. 

1.4 Mae’r Memorandwm hwn yn sefydlu trefniadau gwaith sy’n dangos aliniad clir rhwng gwaith y Comisiynydd a rhaglen lywodraethu’r Llywodraeth a strategaeth Cymraeg 2050. Dylai’r Comisiynydd ystyried Rhaglen Lywodraethu’r Llywodraeth a Cymraeg 2050 wrth baratoi ei Gynllun Strategol a Chynllun Gweithredol blynyddol.

2. Deddfwriaeth

2.1 Sefydlwyd y Comisiynydd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Rhan 2, Paragraff 3, y Mesur yn nodi mai prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Mae’r camau y mae’n rhaid i’r Comisiynydd eu cymryd wrth arfer swyddogaethau yn unol ag isadran (1) yn cynnwys gweithio tuag at gynyddu’r canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)

  • (a) defnyddio’r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a
  • (b) cyfleoedd eraill i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg.

2.2 Wrth arfer swyddogaethau’n unol ag isadran (1), rhaid i’r Comisiynydd roi sylw: 

  • (a) i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru,
  • (b) i’r dyletswyddau i ddefnyddio’r Gymraeg sydd wedi eu gosod (neu a all gael eu gosod) drwy gyfraith, a’r hawliau sy’n deillio o allu gorfodi’r dyletswyddau hynny,
  • (c) i’r egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, ac
  • (d) i’r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

3. Egwyddorion

3.1 Mae’r Llywodraeth yn parchu’r angen i Gomisiynydd y Gymraeg weithredu’n annibynnol ar Weinidogion Cymru er mwyn gweithredu ei swyddogaethau statudol yn effeithiol.

3.2 Mae darpariaethau ym Mharagraff 1(4) Atodlen 1 i’r Mesur yn diogelu annibyniaeth y Comisiynydd i weithredu yn annibynnol ar Weinidogion Cymru drwy sicrhau bod rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i’r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo’n rhesymol. Yn gysylltiedig, mae Adran 16 y Mesur yn nodi pryd mae gan Weinidogion bwerau i gyfarwyddo’r Comisiynydd.


3.3 Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod angen i’r Comisiynydd weithredu’n annibynnol er mwyn bod yn llais annibynnol a chryf dros y Gymraeg, ac i fedru craffu ar waith y Llywodraeth. Mae’r Mesur yn rhoi pwerau i’r Comisiynydd gyflwyno argymhellion a chyngor i Weinidogion Cymru ac mae’n bwysig bod ganddi’r hyder i wneud hynny heb i Weinidogion ddylanwadu arno.
 

3.4 Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfarwyddo’r Comisiynydd. Mae Adran 16 y Mesur yn nodi’r eithriadau i’r pwerau hynny:

Pŵer Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i’r Comisiynydd.

(2) Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiynydd mewn perthynas â’r materion canlynol:

  • (a) rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i’w roi i berson);
  • (b) Rhan 5 (gorfodi safonau);
  • (c) Rhan 6 (rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg).

(3) Rhaid i’r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

3.5 Mae Atodlen 1 Mesur y Gymraeg yn disgrifio statws y Comisiynydd a’r gydberthynas rhwng y statws hwnnw a’r angen i Weinidogion Cymru ymatal rhag gosod cyfyngiadau ar waith y Comisiynydd:

Statws

(1) Mae’r Comisiynydd yn gorfforaeth undyn.

(2) Nid yw’r Comisiynydd i’w ystyried yn was neu’n asiant i’r Goron neu’n un sy’n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(3) Nid yw eiddo’r Comisiynydd i’w ystyried yn eiddo’r Goron neu’n eiddo sy’n cael ei ddal gan neu ar ran y Goron.

(4) Wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r Comisiynydd, rhaid i Weinidogion Cymru roi ystyriaeth i’r ffaith ei bod yn ddymunol sicrhau bod y Comisiynydd o dan gyn lleied o gyfyngiadau ag y bo’n rhesymol bosibl wrth iddo benderfynu:

  • (a) ar ei weithgareddau,
  • (b) ar ei amserlenni, ac
  • (c) ar ei flaenoriaethau

3.6 Mewn perthynas â phrosesau cyflwyno safonau (Rhan 4 Mesur y Gymraeg), bydd y Comisiynydd ac Is-adran Cymraeg 2050 y Llywodraeth (“Is-adran Cymraeg 2050”) yn rhannu gwybodaeth ffeithiol â’i gilydd yn brydlon a dilyffethair gan fod yn rhagweithiol wrth wneud hynny i’r graddau y bo’n briodol rhyddhau gwybodaeth. 

3.7 Mewn perthynas â’r ddyletswydd a roddwyd ar Weinidogion Cymru i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg, bydd y Comisiynydd yn trin y Llywodraeth fel unrhyw sefydliad arall y mae’n ei reoleiddio.

3.8 Mae’r Llywodraeth yn ystyried y Comisiynydd yn bartner allweddol o ran gweithredu strategaeth y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg (Cymraeg 2050). Mae’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth er mwyn cwrdd ag amcanion a thargedau Cymraeg 2050.

3.9 Mae cydweithio tuag at wireddu amcanion Cymraeg 2050 yn ganolog i’r berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Comisiynydd, felly hefyd sicrhau bod y ddau gorff yn deall yn union beth yw cyfraniad y naill a’r llall tuag at hynny. Dau brif darged Cymraeg 2050 yw:

  • Nifer siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050
  • Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10% (yn 2013–15) i 20% erbyn 2050. 

3.10 Mae’r Comisiynydd yn ystyried y Llywodraeth yn bartner allweddol. Mae’r Comisiynydd yn cytuno i ddarparu gwybodaeth reolaidd ar ei rhaglen waith, ac ar unrhyw fater arall o bwys, fel bod Gweinidogion Cymru yn gallu cael eu diweddaru mewn modd amserol a phriodol. Yn yr un modd, mae’r Llywodraeth yn ymrwymo i ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i waith y Comisiynydd yn amserol, ac unrhyw fater arall o bwys i’r Gymraeg, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â phrosiectau a pholisïau’r Llywodraeth a materion ariannol a chyllidol sy’n effeithio ar y Comisiynydd. Mae Adran 5 yn rhoi mwy o fanylion ynglŷn â rhannu dogfennau a datganiadau.

4. Llywodraethiant

4.1 Mae’r adran hon yn amlinellu trefniadau llywodraethiant y Comisiynydd:

Swyddogaeth Swyddog Cyfrifyddu

4.2 Mae’r Comisiynydd yn cael ei benodi gan y Prif Weinidog o dan ddarpariaethau’r Mesur. Mae paragraff 16 (1) o Atodlen 1 i’r Mesur yn datgan mai’r Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.

4.3 Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am gynnal system gadarn o reolaeth fewnol sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni polisïau, nodau ac amcanion ei swydd.

4.4 Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol, ymysg pethau eraill, am lofnodi’r cyfrifon, ac yn bersonol gyfrifol am briodoldeb a rheoleidd-dra gwario’r cyllid cyhoeddus y mae’n gyfrifol amdano. Mae’r swyddog cyfrifyddu hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio yn ddarbodus, effeithiol ac effeithlon. Gwneir hyn gan ddiogelu’r arian cyhoeddus a’r asedau y mae’n bersonol gyfrifol amdanynt, yn unol â’r cyfrifoldebau a neilltuwyd yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru. Rhaid i’r defnydd o adnoddau fod yn rheolaidd, gan ystyried yr angen am briodoldeb a cheisio sicrhau gwerth am arian.

4.5 Mae deddfwriaeth a thelerau penodi’r Comisiynydd fel Swyddog Cyfrifyddu yn darparu i’r Dirprwy Gomisiynydd weithredu fel Swyddog Cyfrifyddu mewn amgylchiadau penodol (os yw’r swydd yn wag neu os nad yw’r Comisiynydd yn gallu gweithredu). Dylai’r Comisiynydd neu’r Dirprwy Gomisiynydd gynghori Isadran Cymraeg 2050 cyn gynted â phosibl, os bydd amgylchiadau o’r fath yn codi. 

4.6 Mae cyfrifoldebau llawn y Swyddog Cyfrifyddu wedi’u pennu gan Trysorlys y DU. 

Llywodraethiant Swyddfa’r Comisiynydd

Panel Cynghori’r Comisiynydd

4.7 Mae Adran 23 y Mesur yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru benodi aelodau panel o gynghorwyr i’r Comisiynydd. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3 ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg. Wrth benodi aelodau bydd Gweinidogion Cymru yn gweithredu yn unol â rheoliadau – y rhai cyfredol (pan arwyddwyd y memorandwm hwn) yw Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012.

4.8 Caiff y Comisiynydd ymgynghori â’r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater (Rhan 3, Cymal 24(1) o’r Mesur). Rôl y Panel Cynghori yw cynghori’r Comisiynydd mewn perthynas â swyddogaethau’r Comisiynydd yn unol â’r Mesur. Os bydd y Comisiynydd, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau, yn ymgynghori â’r Panel Cynghori rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i’r cyngor wrth arfer y swyddogaethau (Rhan 2, Adran 17 o’r Mesur). Nid yw’r Panel Cynghori yn ymwneud â gwaith o ddydd i ddydd y Comisiynydd.

4.9 Bydd y Comisiynydd yn ymgynghori â’r Panel Cynghori yn unol â darpariaethau’r Mesur. 

4.10 Pan fydd tymor aelodau’r Panel Cynghori yn dod i ben, bydd Gweinidogion Cymru yn trafod â’r Comisiynydd er mwyn adnabod anghenion am arbenigedd y Panel Cynghori cyn mynd ati i ddechrau proses penodiadau cyhoeddus (gall hynny gynnwys ail-benodi aelodau pe bai hynny’n briodol).

Pwyllgor Archwilio a Risg y Comisiynydd 

4.11 Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am sicrhau bod swyddfa’r Comisiynydd yn cael ei rhedeg mewn ffordd ddarbodus, effeithiol ac effeithlon er mwyn sicrhau gwerth am arian cyhoeddus. Mae gan y Comisiynydd bwyllgor archwilio a risg er mwyn rhoi sicrwydd o hynny i Weinidogion Cymru, y Senedd a’r cyhoedd. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cynghori’r Comisiynydd ar brosesau strategol ar gyfer risg, rheolaeth a llywodraethiant. Mater i’r Comisiynydd yw pennu nifer yr aelodau, penodi aelodau, a threfnu cyfarfodydd.

Tîm Arwain y Comisiynydd

4.12 Mater i’r Comisiynydd fydd penderfynu ar aelodaeth y Tîm Arwain ac ar amlder a ffurf y cyfarfodydd. Prif bwrpas y Tîm Arwain yw cynnig cefnogaeth a chyngor i’r Comisiynydd ar gyfeiriad strategol a rhaglen waith y corff. Y Tîm Arwain sy’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol y corff, a rheoli’r corff o ddydd i ddydd.

5. Rhannu Gwybodaeth

Dogfennau

5.1 Pan fydd y Comisiynydd yn cyhoeddi adroddiad neu ddogfen ynglŷn â’r Llywodraeth, neu adroddiad neu ddogfen yn ymwneud â maes polisi mae’r Llywodraeth yn gyfrifol amdano, bydd y Comisiynydd yn rhannu copi drafft o flaen llaw ac yn rhoi cyfle i’r Llywodraeth roi sylwadau ac yn eu hystyried cyn cyhoeddi copi terfynol.

5.2 Pan mae gan Weinidogion Cymru rôl i gymeradwyo neu gydsynio i ddogfen sy’n cael ei llunio gan y Comisiynydd, bydd y Comisiynydd yn rhannu drafft cynnar â Gweinidogion Cymru ac yn ystyried sylwadau cyn ymgynghori ymhellach ar y ddogfen. Bydd Gweinidogion Cymru yn ymateb i unrhyw gais am gymeradwyaeth neu gydsyniad cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib, a thrwy drafodaeth â'r Comisiynydd.

5.3 Bydd y Comisiynydd yn rhoi gwybod i’r Llywodraeth o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw, gan amgáu copi, os bydd yn bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad arwyddocaol neu ddogfen (gan gynnwys adroddiadau neu ddogfennau y mae’r Llywodraeth wedi rhoi sylwadau arnynt eisoes). Ni fydd y Llywodraeth yn trafod nac yn rhannu’r rhain yn allanol cyn i’r Comisiynydd wneud cyhoeddiad. 

5.4 Yn yr un modd, bydd y Llywodraeth yn rhoi gwybod i’r Comisiynydd o leiaf ddau ddiwrnod gwaith o flaen llaw, gan rannu copi, os yw’n bwriadu cyhoeddi unrhyw adroddiad neu ddogfen sy’n effeithio’n uniongyrchol ar waith y Comisiynydd. Ni fydd y Comisiynydd yn trafod nac yn rhannu’r rhain yn allanol cyn i’r Llywodraeth wneud cyhoeddiad.

5.5 Mae adroddiadau sydd wedi eu llunio o dan Rhan 5 o’r Mesur (gorfodi safonau), ac adroddiadau sy’n ymwneud â materion yn Adran 16(2) y Mesur (gweler pwynt 3.4 o’r Memorandwm), wedi’u heithrio o’r trefniant uchod.

5.6 Pan fydd y Comisiynydd yn ymateb i ymgynghoriad sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru, bydd copi o’r ymateb yn cael ei anfon at Isadran Cymraeg 2050.

Ystadegau ac ymchwil

5.7 Bydd y Comisiynydd a’r Llywodraeth yn rhannu gwybodaeth ac yn adnabod cyfleoedd i weithio ar y cyd ym maes ystadegau ac ymchwil gymdeithasol â’r nod o hyrwyddo’r egwyddorion canlynol:

  • datblygu sail tystiolaeth gadarn a chynhwysfawr ynghylch anghenion y Gymraeg a’i siaradwyr
  • blaengynllunio’n strategol ac osgoi dyblygu gwaith
  • osgoi gosod baich diangen ar randdeiliaid, ymatebwyr a phartneriaid ymchwil
  • gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

5.8 Bydd y Comisiynydd a’r Llywodraeth yn rhannu gwybodaeth am ystadegau ac ymchwil gymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys: 

  • rhoi gwybod am waith ymchwil sydd eisoes ar y gweill gan y ddau sefydliad 
  • rhoi gwybod am waith ymchwil sy’n cael ei gynllunio gan y ddau sefydliad
  • rhannu neu roi gwybod am gynlluniau o ran cyhoeddi ystadegau neu gynnyrch gwaith ymchwil (er enghraifft, adroddiadau, seminarau) 
  • rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau ymchwil ehangach a allai fod o ddiddordeb i’r sefydliad arall.

5.9 Mae paragraff 5.1 i 5.4 yr un mor berthnasol yng nghyswllt dogfennau ac adroddiadau sy’n ymwneud â maes ystadegau ac ymchwil gymdeithasol.

5.10 Bydd y Llywodraeth a’r Chomisiynydd yn rhannu gwybodaeth am waith ymchwil sydd ar y gweill neu sydd wedi ei gwblhau trwy’r dulliau isod, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt chwaith:

  • Cyfarfodydd rhwng swyddogion y Llywodraeth sydd â chyfrifoldeb am ystadegau ac ymchwil gymdeithasol a’r Comisiynydd o leiaf bob chwe mis. 
  • Cyfarfodydd Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru. 
  • Seminarau, cynadleddau a fforymau eraill a drefnir i hybu cydweithio â phartneriaid ym maes ymchwil a gwerthuso. 
  • Cynlluniau gwaith ymchwil ac ystadegau am y Gymraeg y Llywodraeth. 

5.11 Bydd yr egwyddor o rannu gwybodaeth a data yn ddibynnol ar hawl gyfreithiol a bod cytundebau priodol yn eu lle, ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â gofynion cyrff proffesiynol perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion cydymffurfio Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) a Chod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR). (Mae hyn yn cynnwys y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, a’r Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.) Bydd achosion yn codi hefyd pan na fydd yn briodol i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth rannu gwybodaeth.

5.12 Pan fo’n briodol, bydd y Llywodraeth a’r Comisiynydd yn gweithio ar ystadegau ac ymchwil ar y cyd. Bydd y Llywodraeth a’r Chomisiynydd yn cytuno trefniadau cydweithio o flaen llaw. Bydd achosion yn codi hefyd pan na fydd yn briodol i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth i weithio ar y cyd.

5.13 Mae’r Comisiynydd yn Gynhyrchydd Ystadegau Swyddogol, a bydd y Llywodraeth yn cynnig cyngor a chefnogaeth i’r Comisiynydd ar faterion penodol.

5.14 Ar gais y Comisiynydd, bydd y Llywodraeth yn rhannu data â’r Comisiynydd, i’w dadansoddi a’u cynnwys gan y Gomisiynydd yn yr adroddiad 5-mlynedd. Bydd hyn yn ddibynnol ar hawl gyfreithiol, â chytundebau priodol yn eu lle. Bydd y Llywodraeth yn cynnig cyngor a gwybodaeth i’r Comisiynydd ar faterion yn ymwneud â’r adroddiad, i sicrhau cywirdeb ffeithiol yr adroddiad neu i gadarnhau bod ffynonellau perthnasol wedi eu harchwilio.

Datganiadau

5.15 Bydd y Comisiynydd a’r Llywodraeth yn rhoi blaenrybudd i’w gilydd pan fydd bwriad gan y naill neu’r llall i gyhoeddi datganiad i’r wasg sy’n ymwneud â gwaith y llall. Bydd copi o’r datganiad yn cael ei rhannu mor fuan ag sy’n ymarferol bosibl.

5.16 Bydd y Llywodraeth yn rhoi blaenrybudd i’r Comisiynydd pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad llafar neu ysgrifenedig sy’n ymwneud â gwaith y Comisiynydd i Aelodau’r Senedd ac yn rhannu copi wedi i’r datganiad gael ei wneud i Aelodau.

Ceisiadau gwybodaeth

5.17 Rhaid i bobsefydliad ddilyn yDdeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth (FoI) aDiogelu Data (DPA)angenrheidiol. Bydd y ddau sefydliad yn hysbysu’r llallo dderbyncais Rhyddid Gwybodaeth neu Diogelu Data sy’n ymwneud â’rsefydliad arall.

6. Cyfarfodydd

6.1 Cyfarfodydd rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am y Gymraeg a’r Comisiynydd: 

Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cyfarfod â’r Comisiynydd yn chwarterol er mwyn rhannu gwybodaeth am weithgareddau’r cyrff a’r hyn a gyflawnwyd yn erbyn eu hamcanion, gan gynnwys yng nghyd-destun gweithio tuag at gyflawni amcanion Cymraeg 2050. Bydd agenda yn cael ei chytuno wythnos cyn dyddiad y cyfarfod.

6.2 Cyfarfodydd rhwng y Comisiynydd ag Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion eraill: 


O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y bydd y Comisiynydd eisiau cwrdd ag Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion sy’n gyfrifol am feysydd polisi eraill. Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet sy’n gyfrifol am y Gymraeg yn cael ei hysbysu ymlaen llaw o gyfarfodydd o’r fath drwy swyddfa’r Comisiynydd yn rhannu gwybodaeth ag Isadran Cymraeg 2050, ond mater i’r Comisiynydd drefnu yn uniongyrchol â swyddfeydd Ysgrifenyddion Cabinet/Gweinidogion eraill yw’r cyfarfodydd hynny.

6.3 Cyfathrebu rhwng y Comisiynydd a Swyddogion:

Y pwynt cyswllt o ddydd i ddydd i’r Comisiynydd a’i swyddfa wrth ddelio â’r Llywodraeth yw’r gangen partneriaethau o fewn Isadran Cymraeg 2050 (“y tîm partneriaeth”). Bydd y tîm partneriaeth yn cefnogi Swyddfa’r Comisiynydd i ateb ymholiadau ac ar gael i drafod a darparu cyngor i’r Comisiynydd. Bydd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn i hwyluso hyn.

7. Egwyddorion ar gyfer cydweithio

7.1 Wrth arfer eu swyddogaethau, mae’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn gytûn y dylid gweithredu yn y modd canlynol.

7.2 Bydd aelodau o Dîm Rheoli Isadran Cymraeg 2050 y Llywodraeth a Thîm Arwain y Comisiynydd yn cael cyfarfodydd ffurfiol ar y cyd o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Pwrpas y cyfarfodydd fydd cynllunio rhaglenni gwaith a sicrhau cyd-ddealltwriaeth am sut mae gweithgareddau’r cyrff yn cyfrannu at gyflawni amcanion Cymraeg 2050. 

7.3 Bydd pwyllgorau o swyddogion rhwng y ddau gorff yn cael eu sefydlu er mwyn trafod gwaith penodol yn ôl y galw. Bydd rhai ohonynt yn cael eu sefydlu yn barhaol ac eraill dros dro i ddelio â mater neu brosiect penodol.

7.4 Bydd y Comisiynydd a’r Llywodraeth ill dau yn cofleidio cydweithio, cyd-gynhyrchu, rhannu gwybodaeth a rhannu arbenigedd.

7.5 Bydd y Comisiynydd yn gorff sy’n creu partneriaethau ar draws gwahanol sectorau, ac yn ysbrydoli eraill i weithredu er lles y Gymraeg.

7.6 Bydd y Comisiynydd yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac arweiniad i gynorthwyo cyrff sy’n dod o dan y drefn Cynlluniau Iaith neu Safonau’r Gymraeg i gynyddu’r defnydd a wneir o’u gwasanaethau Cymraeg.

7.7 Bydd Swyddfa’r Comisiynydd a Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 yn rhannu manylion cysylltiadauallweddol a strwythurau staff, gan gyflenwifersiynau wedi’u diweddaruyn dilynunrhyw newidiadau istaff.

8. Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg

8.1 Mae Adran 18(2) y Mesur yn gosod gofynion o ran Adroddiad Blynyddol, ac mae Adran 19(3) yn nodi bod rhaid cyhoeddi’r Adroddiad erbyn 31 Awst yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. 

8.2 Mae Adran 18(2) yn gwneud y ddarpariaeth ganlynol:


(2)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys y materion a ganlyn:

  • (a)crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd;
  • (b)adolygiad o faterion sy’n berthnasol i’r Gymraeg;
  • (c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd;
  • (d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol;
  • (e)crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan adran 14.

9. Ariannu Comisiynydd y Gymraeg

9.1 Mae paragraff 17 o Atodlen 1 i’r Mesur yn gwneud darpariaethau ar gyfer y Comisiynydd yn paratoi amcangyfrifon blynyddol. Yn unol â pharagraff 17(2) rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno’r amcangyfrif i Weinidogion Cymru o leiaf 5 mis cyn dechrau’r flwyddyn ariannol mae’r amcangyfrif yn ymwneud â hi. Bydd Gweinidogion Cymru yn archwilio’r amcangyfrif ac yn ei osod gerbron y Senedd.

9.2 Yn dilyn cymeradwyaeth cyllideb y Llywodraeth gan y Senedd, bydd y Comisiynydd yn cael ei hysbysu o’r gyllideb fydd ar gael i’r Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol mor fuan ag sy’n bosibl.

9.3 Mae’n bosibl bydd y Llywodraeth o bryd i’w gilydd yn trosglwyddo cyllid i’r Comisiynydd at ddibenion penodol. Pan fydd hynny’n digwydd bydd yr amodau yn cael eu hamlinellu’n glir mewn llythyr.

9.4 Bydd y Comisiynydd yn hysbysu’r Llywodraeth pan fydd angen derbyn cyllid o’r dyraniad blynyddol gan ddefnyddio’r ffurflen briodol. Dylid caniatáu 10 diwrnod gwaith rhwng cyflwyno ffurflen yn hawlio cyllid, a dyddiad derbyn cyllid yng nghyfrif banc y Comisiynydd. Wrth hawlio cyllid bydd angen i’r Comisiynydd nodi a ydynt yn tynnu cyllid i lawr o’r dyraniad refeniw neu o’r dyraniad cyfalaf. 

9.5 Mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod gan yr Ysgrifennydd Parhaol, fel Prif Swyddog Cyfrifyddu y Llywodraeth, ddyletswydd i roi trefniadau digonol yn eu lle er mwyn sicrhau bod y dyraniad blynyddol yn cael ei ddefnyddio o ran yr angen am reoleidd-dra, priodoldeb, a gwerth am arian. Yn hynny o beth, bydd y Comisiynydd yn darparu unrhyw wybodaeth berthnasol i Lywodraeth Cymru y gall fod arni ei hangen ymlaen llaw drafodaeth mewn cyfarfodydd perthnasol. 

9.6 Bydd y Llywodraeth yn hysbysu’r Comisiynydd mor fuan â phosibl o unrhyw archwiliad neu adolygiad y bydd yn ei gynnal a allai effeithio ar y Comisiynydd. Bydd y Llywodraeth yn darparu gwybodaeth am yr archwiliad neu’r adolygiad, a’r adroddiad terfynol i’r Comisiynydd mor fuan ag sy’n bosibl. Mae’r Comisiynydd yn ymrwymo i ddarparu pob cymorth phosibl wrth baratoi at, a chynnal adolygiadau ac archwiliadau.

10. Cynllunio Cyllidebol

10.1 Mae trefniadau cynllunio cyllidebol y Llywodraeth yn cael eu llywodraethu gan ofynion Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog y Senedd.

10.2 Rhaid i'r corff gydweithio â'r tîm partneriaeth drwy ddarparu'r holl gymorth a gwybodaeth angenrheidiol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi fwrw ymlaen â'i phenderfyniadau cynllunio cyllidebol. 

10.3 Bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cadarnhau'r gyllideb refeniw net a'r gyllideb adnoddau cyfalaf a faint o gyllid cymorth grant (arian parod) a roddir i'r corff ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Fel rhan o ddyraniad y gyllideb adnoddau net, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn cadarnhau lefel yr incwm y caiff y corff ei gadw er mwyn ariannu gweithgarwch yn y flwyddyn ariannol. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd o fewn mis i'r dyddiad y cytunodd y Senedd ar y gyllideb derfynol. Rhaid i unrhyw gyllid ar gyfer y flwyddyn dan sylw gael ei awdurdodi gan y Senedd yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol. 

10.4 Pan yn bosibl, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd yn darparu cyllidebau adnoddau refeniw a chyfalaf dangosol ar gyfer blynyddoedd dilynol er mwyn llywio gwaith cynllunio cyllidebol. Fodd bynnag, gall manylion cyllidebau ar gyfer blynyddoedd dangosol ostwng neu gynyddu yn ôl blaenoriaethau'r Llywodraeth, newidiadau i bortffolios Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion, amrywiadau mewn cyllidebau a/neu bryderon ynghylch effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd y corff. Efallai y bydd angen i'r corff fodelu gwahanol opsiynau ar gyfer gweithgarwch yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael. 

10.5 Wrth bennu cyllidebau adnoddau refeniw a chyfalaf a gofynion o ran cymorth grant (arian parod), ystyried lefelau'r cronfeydd wrth gefn (os oes rhai) a ddelir gan y corff a'r incwm a ddisgwylir o ffynonellau eraill.

11. Staffio

11.1 Y Comisiynydd sy'n gyfrifol am benderfyniadau staffio y corff. Mae hyn yn cynnwys polisïau yn ymdrin â thelerau ac amodau staff; cynnig cynllun pensiwn; a sicrhau bod arferion gwerthuso swyddi a recriwtio cadarn, priodol a theg yn cael eu dilyn. Fodd bynnag, dylai’r Llywodraeth gael ei hysbysu am gynigion penodol ar gyfer newidiadau i'r gweithlu, gan gynnwys trefniadau ar gyfer dileu swyddi.

12. Talu trydydd parti am wasanaethau

12.1 Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg bŵer i wneud unrhyw beth sy’n briodol mewn cysylltiad â thalu ffi i drydydd parti am wasanaethau. Wrth i Lywodraeth Cymru ysgwyddo swyddogaeth darparu gofod gweithio hybrid i sefydliadau cyhoeddus, ystyrir ei bod yn briodol i Gomisiynydd y Gymraeg rentu gofod sector cyhoeddus mewn adeiladau y mae’r Llywodraeth yn berchennog arnynt. Nid yw gwneud hynny’n cyfaddawdu ar farn y Comisiynydd, ei gyfrifoldebau, dyletswyddau nac ar weithrediad ei swyddogaethau. Ni fydd trefniant o’r fath yn effeithio ar y berthynas waith sy’n bodoli rhwng swyddogion y Comisiynydd a’r Llywodraeth neu, sefydliadau eraill y mae’n eu rheoleiddio.

13. Diogelwch Technoleg Gwybodaeth

13.1 Mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am gynnal systemau TG swyddfa’r Comisiynydd, meddu ar bolisi diogelwch, a sicrhau amgylchedd TG diogel ar gyfer gweithredu ei swyddfa a thrin data, gan gynnwys data personol. Os bydd swyddfa’r Comisiynydd yn canfod digwyddiad mawr yn ymwneud â diogelwch, er enghraifft ymosodiad drwy faleiswedd neu dor diogelwch data, sylweddol bydd angen i’r Comisiynydd roi gwybod am y digwyddiad i’r canlynol:

  • y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol i gyflwyno adroddiad ar-lein am y digwyddiad (neu linell gymorth digwyddiadau’r NCSC – 0300 200 973 os nad oes mynediad at TGCh); 
  • yr Heddlu (Twyll Gweithredu); 
  • Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth; 
  • cwmnïau yswiriant perthnasol; a
  • chyfeirio at ganllaw’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. 

13.2 Dylai’r Comisiynydd hefyd gysylltu cyn gynted â phosibl â’r Llywodraeth a’r tîm partneriaeth ar ôl canfod problem, gan ddefnyddio dull diogel, er enghraifft, defnyddio dyfais heblaw dyfais waith neu ffonio’r tîm partneriaeth yn Is-adran 2050. 

14. Llywodraeth Cymru a Strategaeth Cymraeg 2050

14.1 Mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd trwy Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i baratoi strategaeth yn nodi sut mae’n bwriadu hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Ar hyn o bryd, Cymraeg 2050 yw’r strategaeth honno. Y Llywodraeth felly sy’n gyfrifol am bennu polisïau cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg, ac am sefydlu cynllun blynyddol, strwythurau a systemau ar gyfer gweithredu’r strategaeth honno.

14.2 Bydd y Llywodraeth yn defnyddio’r holl offer polisi sydd ar gael iddi i fwrw amcanion strategaeth Cymraeg 2050 yn eu blaen. I’r perwyl hwn, bydd Isadran Cymraeg 2050, yn gweithredu ar draws y Llywodraeth er mwyn prif-ffrydio’r Gymraeg drwy bob agwedd ar weithgarwch y Llywodraeth. 

14.3 Mae cyfrifoldebau’r Llywodraeth a’r Comisiynydd wedi cael eu hamlinellu yn Atodiad 1. Bydd y rhaniad hwn yn cael ei adolygu yn ôl y gofyn i sicrhau bod amcanion Cymraeg 2050 yn cael eu gweithredu’n effeithiol. 

Llofnodwyd gan:

Image

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Image

Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg

Atodiad 1

Fel y nodir yn 14.3, uchod, bydd y rhaniad hwn o gyfrifoldebau yn cael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau bod amcanion Cymraeg 2050 yn cael eu gweithredu. 

1.1 Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gweithredu swyddogaethau statudol Mesur y Gymraeg gan gynnwys gosod, monitro a gorfodi safonau’r Gymraeg, yn ogystal â gweithredu trefn Cynlluniau Iaith Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Bydd y Comisiynydd hefyd yn gyfrifol am weithredu yn y meysydd canlynol:

  • cefnogi’r trydydd sector: gweithio gydag elusennau a mudiadau gwirfoddol i gynyddu darpariaeth Cymraeg ac i gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg
  • gweithio â banciau, archfarchnadoedd, a busnesau mawr a chanolig i gynyddu darpariaeth Cymraeg ac i gynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg
  • darparu cyngor i Awdurdodau Lleol ac eraill ar enwau lleoedd
  • darparu cyngor i Awdurdodau Lleol ar ddatblygu strategaethau hybu 5 mlynedd yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg 
  • datblygu adnoddau a darparu cyngor i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn gweithleoedd, ac i gynorthwyo cyrff i gynllunio’u gweithluoedd 
  • craffu’n annibynnol ar bolisïau a deddfwriaeth y Llywodraeth o ran y Gymraeg.

1.2 Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod egwyddorion cynllunio ieithyddol yn cael eu dilyn wrth arwain ar bolisi yn unol â rhaglen waith Cymraeg 2050. Mae hyn yn cynnwys:

  • trosglwyddo’r Gymraeg
  • cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymhlith plant a phobl ifanc
  • technoleg a'r Gymraeg 
  • corpws a therminoleg
  • y Gymraeg mewn busnes
  • cynnal ‘Helo Blod’, er mwyn cyfeirio unigolion a busnesau at ffynonellau priodol o gymorth er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg 
  • ymyraethau cynllunio ieithyddol ar lefel rhanbarthol/ardal: er enghraifft Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg; cynllunio gwlad a thref; datblygu economaidd; mentrau iaith ayb
  • arwain ar ymchwil, data a gwerthuso
  • gwaith Ymwybyddiaeth Iaith (fel rhan o raglen Deall dwyieithrwydd ac Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog) a naratif/ negeseuon priodol i’w defnyddio i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg 
  • defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau.