Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Bydd cyfradd treth incwm Cymru yn cael ei gosod, bob blwyddyn, drwy Benderfyniad a gaiff ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) ar sail cynnig a wneir gan Weinidogion Cymru. Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am osod y cyfraddau a’r effaith gysylltiedig ar refeniw. Bydd pwerau i osod cyfraddau yn cael eu datganoli o fis Ebrill 2019 ond nid treth wedi’i datganoli yw CTIC. Bydd yn rhan o system treth incwm y DU a chaiff ei gweinyddu ochr yn ochr â gweddill y system treth incwm gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).

CThEM fydd yn gyfrifol am ryngweithio â’r trethdalwyr hynny sy’n agored i dalu CTIC, gan gynnwys darparu gwybodaeth, hysbysiadau codio, casglu treth, cydymffurfiaeth a cheisio treth ddyledus. Mater rhwng trethdalwyr Cymreig a CThEM fydd unrhyw anghydfod ynglŷn â’r dreth. Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am osod cyfraddau’r dreth ond nid am unrhyw elfen arall o’r dreth na’r broses o’i gweinyddu. Fodd bynnag, cyllideb Llywodraeth Cymru fydd yn dwyn y costau y cytunir arnynt mewn cysylltiad â sefydlu a gweithredu CTIC ac yn cael y refeniw a gesglir fel y bydd llinell fuddiant glir rhwng Gweinidogion Cymru ac effeithlonrwydd y system casglu a rheoli treth yn ogystal â data ar dreth incwm er mwyn helpu i lywio eu penderfyniadau ynglŷn â gosod cyfraddau.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn nodi’r trefniadau rhwng CThEM a Llywodraeth Cymru ar gyfer sefydlu a gweithredu CTIC. Nid contract yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ac nid yw’n gyfreithiol gyfrwymol; mae’n nodi’r prosesau a’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt rhwng y sefydliadau.

1.1 Cyfradd treth incwm Cymru

Mae Deddf Cymru 2014 (“Deddf 2014”) yn rhoi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) osod cyfradd sylfaenol, uwch ac ychwanegol treth incwm Cymru i’w chodi ar drethdalwyr Cymreig fel y’u diffiniwyd yn adran 116E o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Ddeddf 2006"). Bydd CTIC yn dechrau o ddyddiad sydd i’w bennu gan Lywodraeth y DU. Disgwylir mai mis Ebrill 2019 fydd y dyddiad hwnnw. Caiff ei gweinyddu gan CThEM fel rhan o system treth incwm y DU gyfan a’i chymhwyso at incwm nad yw’n gynilion. Bydd y Cynulliad yn gallu gosod cyfraddau Cymru o sero i unrhyw nifer o geiniogau neu hanner ceiniogau yn y bunt. Bydd y cyfraddau hyn yn cael eu hychwanegu at bob un o brif fandiau cyfraddau’r DU ar ôl i ddeg ceiniog yn y bunt gael eu didynnu o bob cyfradd.

1.2 Diben y ddogfen hon

Cytunwyd ar y ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae’n nodi priod gyfrifoldebau CThEM a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â sefydlu a gweithredu CTIC yn effeithlon ac yn effeithiol. Mae’r ddogfen yn darparu’r fframwaith ar gyfer gwaith rhynglywodraethol ar lefel Gweinidogion a swyddogion er mwyn goruchwylio’r broses o sefydlu a gweithredu CTIC. Nid oes iddo rym cyfreithiol ffurfiol. Serch hynny, mae’r naill Lywodraeth a’r llall yn disgwyl i’w thelerau gael eu dilyn. Nodir trefniadau ar gyfer ymdrin ag anghydfodau yn y ddogfen.

1.3 Swyddogion Cyfrifyddu a swyddogion cyfrifol

Mae CThEM wedi penodi Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am CTIC sy’n atebol am berfformiad CThEM wrth iddo sefydlu a gweithredu CTIC. Nodir cyfrifoldebau’r swydd hon yn Atodiad A i’r ddogfen hon. Yr uwch-swyddogion sy’n gyfrifol am y materion y mae’r ddogfen hon yn ymdrin â hwy yw’r Cyfarwyddwr, Cyfrifoldeb Trysorlys Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a’r Dirprwy Gyfarwyddwr, Datganoli ar ran CThEM. Hefyd, bydd Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) (Swyddogion) yn goruchwylio’r gwaith o gynllunio darpariaethau ariannol Deddf 2014, gan gynnwys CTIC, a’u rhoi ar waith. Bydd y pwyllgor anweinidogol hwn yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Gyfarwyddwr Trysorlys Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus Trysorlys EM gyda chynrychiolaeth o uwch-swyddogion o Drysorlys EM, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cymru, a CThEM. Mae Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) yn rhoi trosolwg Gweinidogol o’r rhaglen waith.

1.4 Cyd-destun

Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu:

  • Y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru;
  • Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r Cytundebau Atodol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban a Phwyllgor Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;
  • nodiadau canllaw Swyddfa’r Cabinet ar ddatganoli.

Mae’r ddogfen yn nodi sut y caiff y dull gweithredu cyffredin yn y dogfennau hyn ei gymhwyso at sefydlu a gweithredu CTIC.

Mae egwyddor bod yn agored hefyd yn sail i’r ddogfen hon. Bydd gwybodaeth mewn perthynas â’r materion sydd o fewn cwmpas y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cael ei rhannu’n rhydd rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM, yn ddarostyngedig i amodau cyfreithiol neu gytundebol perthnasol, gan gynnwys y Ddeddf Diogelu Data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Bydd gwybodaeth a gwmpesir gan rwymedigaethau CThEM i ddiogelu cyfrinachedd trethdalwyr yn parhau i gael ei chwmpasu.

1.5 Dyddiadau ac amser

Daeth y ddogfen hon i rym ar ddyddiad y llofnod isod. Nid oes i’r ddogfen hon ddyddiad dod i ben, ond bydd yn peidio â bod yn weithredol os diddymir CTIC. Caiff y ddogfen ei dirwyn i ben drwy gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM. Bydd yn cael ei hadolygu ar gais y naill barti neu’r llall. Bydd unrhyw newidiadau i’w chynnwys sy’n deillio o adolygiad o’r fath, neu o newidiadau sylweddol yn y dogfennau a restrir yn 1.4, yn cael eu nodi drwy gyhoeddi rhif fersiwn dyddiedig, newydd, a bydd CThEM a Llywodraeth Cymru yn cytuno arnynt.

Daeth darpariaethau CTIC i rym ar 17 Rhagfyr 2014. Bydd CThEM yn cydgysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r canlynol:

  • y darpariaethau cychwyn yn Rhan 4, adran 29 o Ddeddf 2014 (fel y’i diwygiwyd),
  • amseriad y Gorchymyn Trysorlys a’r broses o’i wneud o dan adran 14 o Ddeddf 2014 i bennu’r flwyddyn dreth gyntaf y gall penderfyniad ynghylch cyfradd i Gymru fod yn gymwys iddi.

1.6 Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a CThEM

Bydd Llywodraeth Cymru a CThEM yn sefydlu trefniadau llywodraethu i ddatblygu CTIC. Mae Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) (Swyddogion) (y cyfeirir ato yn 1.3 uchod) wedi cael ei sefydlu i sicrhau y caiff darpariaethau ariannol Deddf 2014 eu rhoi ar waith yn llwyddiannus: bydd yn sicrhau ansawdd y broses o roi CTIC ar waith ar sail rynglywodraethol ac yn cytuno ar y ffordd y dylai cynnydd tuag at gerrig milltir y broses gael ei ysgogi a’i fesur ac yn adolygu hynny.

Bydd CThEM yn datblygu ac yn profi’r systemau TG a’r systemau eraill ar gyfer gweinyddu CTIC, mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, fel y’i nodir ym mharagraff 2 isod.

Ar ôl profion llwyddiannus arnynt, bydd CThEM yn gweinyddu CTIC, fel y’i nodir ym mharagraff 3 isod, fel rhan o system dreth y DU.
Bydd CThEM yn anfonebu Llywodraeth Cymru am eitemau o wariant y cytunir arnynt mewn perthynas â datblygu a gweithredu CTIC yn unol â’r telerau a nodir ym mharagraff 4 isod.

Bydd Llywodraeth Cymru yn talu i’r CThEM y symiau yr anfonebir yn eu cylch ar gyfer yr eitemau o wariant y cytunir arnynt, fel y’i nodir ym mharagraff 4 isod.

Bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi penderfyniad ynghylch cyfradd Cymru fel y’i disgrifir yn adran 116D o Ddeddf 2006, ac yn sicrhau y caiff hwn ei osod gerbron y Cynulliad (gweler hefyd baragraff 5 isod).

Bydd CThEM yn talu derbyniadau CTIC i Gronfa Gyfunol y DU yn yr un modd â derbyniadau treth eraill. Mater rhwng Trysorlys EM a Llywodraeth Cymru fydd y trefniadau ar gyfer ariannu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â derbyniadau CTIC, ac ar gyfer cysoni rhwng derbyniadau CTIC a ragwelwyd a derbyniadau CTIC gwirioneddol. Er gwybodaeth, disgrifir y rhain ar wahân ym mharagraff 6 isod.

Nodir cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a CThEM mewn perthynas â chyfnewid gwybodaeth ym mharagraff 7 isod.

Ceir crynodeb o’r cylch blynyddol o weithgareddau mewn perthynas â CTIC (gan gynnwys camau gweithredu Llywodraeth Cymru a CThEM) yn Atodiad B.

2.1 Datblygu systemau TG a systemau gweinyddol ar gyfer CTIC

Bydd CThEM yn datblygu ac yn profi’r systemau TG a’r systemau gweinyddol ar gyfer CTIC o fewn rhaglen gyffredinol Deddf Cymru a reolir gan Fwrdd y Rhaglen y mae gan Lywodraeth Cymru gynrychiolaeth arno, gydag uwch drosolwg gan Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Swyddogion) a gadeirir ar y cyd. Bydd CThEM yn hysbysu Llywodraeth Cymru am gynlluniau, amserlenni, costau amcangyfrifedig a chynnydd ac yn ymgynghori â hi yn eu cylch. Pan fo opsiynau ar gyfer datblygu systemau o’r fath, bydd CThEM yn trafod y rhain, ynghyd â chost, risg, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd neu ffactorau sy’n effeithio ar gwsmeriaid, â Llywodraeth Cymru cyn i opsiwn gael ei ddewis.

Yn amodol ar y rhaglen gyffredinol y cytunir arni rhwng CThEM a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r broses trosolwg rhynglywodraethol y cyfeirir ati uchod, caiff y broses o ddarparu’r elfennau TG ei hamseru yn unol ag amserlenni systemau TG ehangach, ac er mwyn sicrhau bod nodweddion cywir ar gael i gynnal y broses o gyflwyno CTIC yn amserol. Bydd CThEM yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflwyno system CTIC sy’n gweithio sydd, erbyn y dyddiad a bennir gan Drysorlys EM o dan adran 14 o Ddeddf 2014, yn gallu casglu’r swm cywir o dreth oddi wrth drethdalwyr Cymreig fel y’u diffiniwyd yn adran 116E o Ddeddf 2006 ac yn darparu rheolaeth a gwybodaeth gyfrifyddu briodol, er mwyn cynnal y broses o archwilio a llunio cyfrifon blynyddol CThEM a galluogi proses dryloyw o gyfrifyddu ac adrodd ar dderbyniadau CTIC a delir i mewn i Gronfa Gyfunol y DU yn unol â’r Papur Gorchymyn a gyflwynwyd ar y cyd â Deddf Cymru 2014.

2.2 Systemau TG

Bydd CThEM yn datblygu ac yn profi systemau TG drwy ei gyflenwyr TG a gontractiwyd ac yn unol â’i ymarfer datblygu TG arferol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei hysbysu am gost a nodweddion pob rhan o’r systemau TG ymlaen llaw ac yn fanwl, yn amodol ar unrhyw reolau ynglŷn â chyfrinachedd yng nghontractau TG CThEM. Bydd Llywodraeth Cymru a CThEM yn craffu ar gost pob eitem gyda’r nod o asesu gwerth am arian. Os erys unrhyw bryderon o hyd ynglŷn â chost eitem benodol, caiff Llywodraeth Cymru – neu CThEM ar ran Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â hi – ofyn am asesiad annibynnol o’r costau amcangyfrifedig am gost ychwanegol. Bydd yr asesiad hwn yn rhoi dadansoddiad o’r gweithgarwch sydd ei angen i sicrhau’r nodweddion angenrheidiol a’r costau cysylltiedig, a bydd yn rhoi barn ar b’un a yw’r amcangyfrif o gostau yn ymddangos yn rhesymol o dan yr amgylchiadau ac a yw’n cynnig y gwerth gorau am arian i’r ddwy Lywodraeth.

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, bydd CThEM yn adolygu cynlluniau ar gyfer profi’r systemau TG, a bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyfle i adolygu deunydd profi a chanlyniadau’r profion drwy Fwrdd y Rhaglen. Er mwyn rhoi’r sicrwydd mwyaf posibl, caiff Llywodraeth Cymru ofyn am i waith archwilio ychwanegol gael ei wneud ar brofi systemau a chanlyniadau profion. Pan fo tystiolaeth yn codi sy’n awgrymu bod angen rhagor o sicrwydd ynglŷn â gweithrediad cywir a dibynadwy’r system, bydd y profion ychwanegol angenrheidiol a’r gwaith cysylltiedig yn cael eu cynnal gan CThEM a’i gontractwr TG.

Systemau gweinyddol (nad ydynt yn rhai TG)

Bydd CThEM yn datblygu ac yn profi’r prosesau gweinyddol ar gyfer CTIC yn unol â’i ymarfer arferol. Caiff dadansoddiad o’r costau a’r gweithgareddau disgwyliedig ei rannu â Llywodraeth Cymru cyn yr eir i gostau o’r fath. Bydd Llywodraeth Cymru a CThEM yn craffu ar gost pob eitem gyda’r nod o sicrhau ei bod mor isel â phosibl.

3.1 Gweithrediadau parhaus

Ar ôl i newidiadau TG gael eu gwneud er mwyn cyflwyno CTIC, bydd CThEM yn cynnal ei systemau TG a’i systemau gweinyddol o flwyddyn i flwyddyn fel y bydd CTIC yn parhau i weithredu’n effeithiol.

3.2 Trethdalwyr Cymreig

Bydd CThEM yn nodi trethdalwyr Cymreig, fel y’u diffiniwyd yn adran 116E o Ddeddf 2006, o wybodaeth ar ei systemau a thrwy ryngweithio â’r trethdalwyr eu hunain. Bydd hyn yn cael ei gofnodi ar systemau CThEM drwy ddynodydd trethdalwr Cymreig ar gyfer pob unigolyn.

Bydd CTIC yn cadw cofnod cywir o drethdalwyr Cymreig drwy ddiweddaru’r dynodydd wrth i gyfeiriadau gael eu newid a thrwy ryngweithio â’r trethdalwyr eu hunain.

Cyn dechrau’r flwyddyn dreth gyntaf y bydd CTIC yn gymwys iddi (sef 2019-20 yn ôl y disgwyl) bydd CThEM yn rhoi codau treth ‘C’ Cymru i bob trethdalwr Cymreig o fewn Talu wrth Ennill (TWE) a’u cyflogwyr. Mewn blynyddoedd dilynol, bydd CThEM yn anfon hysbysiadau codio diwygiedig fel y bo’n briodol, naill ai yn ystod y flwyddyn neu fel rhan o’r ymarfer codio blynyddol sy’n dechrau ar ddechrau pob blwyddyn galendr fel arfer.

Caiff CThEM, yn amodol ar ei rwymedigaethau ynglŷn â chyfrinachedd trethdalwyr, hysbysu trydydd partïon priodol, megis darparwyr pensiwn, p’un a yw person yn drethdalwr Cymreig.

Caiff y system Hunanasesu ei haddasu fel y bydd trethdalwyr Cymreig o fewn Hunanasesu yn datgan eu statws fel rhan o’u datganiad blynyddol.

3.3 Safonau gwasanaeth

Bydd Llywodraeth Cymru a CThEM yn gweithio gyda’i gilydd i gytuno ar gyfres o safonau (Cytundeb Lefel Gwasanaeth) ar gyfer gweithredu CTIC, gan gynnwys lefelau gwasanaeth i drethdalwyr Cymreig mewn perthynas â CTIC.

3.4 Cydymffurfiaeth

Bydd CThEM yn cynnal dadansoddiad ac asesiad risg, a gweithgarwch cydymffurfio ac atal osgoi trethi datganoledig, ar drethdalwyr Cymreig yn unol â’i flaenoriaethau targedu arferol mewn perthynas â threth incwm. Caiff dull CThEM o ymdrin â risg ei drafod â Llywodraeth Cymru a bydd yn ystyried penderfyniadau Gweinidogion Cymru ar gyfradd Cymru, a fydd yn effeithio ar ddosbarthiad risg, ac na fydd yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd, bunt am bunt, rhwng treth incwm a godir gan Senedd y DU a threth incwm a godir gan y Cynulliad.

Bydd CThEM hefyd yn cynnal dadansoddiad ac asesiad risg, a gweithgarwch cydymffurfio ac atal osgoi trethi datganoledig, ar unigolion mewn perthynas â statws trethdalwyr Cymreig, ac ar gyflogwyr er mwyn sicrhau bod systemau TWE yn cael eu gweithredu’n briodol wrth gyfrifyddu am CTIC.

Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid ymgymryd â rhagor o weithgarwch mewn perthynas â CTIC ac y cytunir bod hyn yn ddichonadwy ac y byddai’n lleihau risg i refeniw ac yn gwella cydymffurfiaeth, bydd CThEM yn ymgymryd â gweithgarwch o’r fath. Byddai’n codi am hyn ar y sail a nodir yn 4.2 isod.

4.1 Ariannu

Pan fo CThEM yn codi tâl am ei wasanaethau, mae’n gwneud hynny (yn unol â pholisi Trysorlys EM) ar gost economaidd lawn darparu’r gwasanaeth, gan geisio nodi’n glir sut y’i cyfrifwyd. Mae cost economaidd lawn yn seiliedig ar gost cyflog cyfartalog ar gyfer y radd berthnasol ynghyd â gorbenion y pen megis, costau pensiwn, adnoddau dynol, swyddfeydd a chyllid sy’n cynnwys costau sy’n gysylltiedig â gweinyddu’r broses anfonebu a monitro ac olrhain taliadau cysylltiedig i CThEM gan Lywodraeth Cymru. Pan fo trydydd partïon yn mynd i gostau o dan gontract, gan gynnwys cyflenwr TG CThEM, codir am y rhain ar sail cost. Caiff y costau hyn eu hadolygu a’u hasesu’n allanol fel y’i disgrifir ym mharagraff 2.2 uchod.

Ar ôl ystyried yr opsiwn gwerth gorau am arian, Llywodraeth Cymru a CThEM fydd yn dwyn y costau fel y’i nodir ym mharagraff 4.2 a 4.3 isod.

4.2 Costau a ddygir gan Lywodraeth Cymru

Yn amodol ar y trefniadau a nodir ym mharagraffau 2 a 3 uchod, gan gynnwys ystyriaethau gwerth am arian, bydd Bwrdd y Rhaglen yn cymeradwyo costau Prosiectau a Rhaglenni y bydd CThEM yn anfonebu Llywodraeth Cymru yn eu cylch, gan gynnwys:

  • Costau cyfalaf newidiadau TG er mwyn nodi trethdalwyr Cymreig, a chyfrifo a rhoi cyfrif am CTIC
  • Cost unrhyw asesiad annibynnol o gostau TG y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano, neu ar ôl ymgynghori â Llywodraeth Cymru
  • Costau cynnal a chadw systemau TG, pan fo angen darpariaeth benodol ar gyfer CTIC
  • Cost elfen CTIC o waith gwella ac uwchraddio systemau, pan fo angen darpariaeth benodol ar gyfer CTIC
  • Costau cyfalaf nad ydynt yn rhai TG sy’n ymwneud yn benodol â CTIC
  • Costau prosiect paratoi ar gyfer cyflwyno CTIC
  • Cost adnoddau ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud yn benodol â gweinyddu CTIC
  • Costau adnoddau sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth a sicrwydd ynghylch sylfaen trethdalwyr Cymreig
  • Costau adnoddau cydymffurfiaeth cyflogwyr pan fônt yn ymwneud yn benodol â gweinyddu CTIC
  • Costau adnoddau unrhyw gydymffurfiaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn gofyn amdani.

4.3 Costau a ddygir gan CThEM

Ni fydd CThEM yn codi tâl ar Lywodraeth Cymru am y canlynol:

  • Cost newidiadau i systemau TG pan nad oes angen gwneud darpariaeth benodol ar gyfer CTIC (hyd yn oed os yw’r systemau yn ymwneud â chyfrifyddu ar gyfer CTIC neu nodi trethdalwyr Cymreig)
  • Cost newidiadau i systemau TG pan na ellir yn rhesymol gostio’r agweddau sy’n ymwneud â CTIC ar wahân
  • Cost newidiadau i systemau TG sy’n deillio o fentrau polisi Llywodraeth y DU, hyd yn oed pan fo angen darpariaeth benodol ar gyfer CTIC
  • Cost achosion cydymffurfiaeth sy’n ymwneud â threthdalwyr Cymreig os nad statws trethdalwyr Cymreig yw’r prif ffactor
  • Cost achosion cydymffurfiaeth sy’n ymwneud â threthdalwyr y DU pan ystyrir statws trethdalwyr Cymreig ond nad y prif ffactor yn yr achos ydyw
  • Cost cydymffurfiaeth gyffredinol cyflogwyr i gyflogwyr yng Nghymru neu sy’n ymwneud â threthdalwyr Cymreig.

4.4 Anfonebu

Bydd CThEM yn anfonebu Llywodraeth Cymru am gostau yr eir iddynt bob mis ar y mwyaf ac nid yn llai aml na phob chwarter. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu CThEM o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr anfoneb, neu o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr anfoneb os bydd oedi o fwy na 5 diwrnod rhwng dyddiad yr anfoneb a’r dyddiad y daw i law.

4.5 Canllawiau ar reoli ariannol

Nodir polisi Llywodraeth y DU ynglŷn â rheoli ariannol yn nogfennau Trysorlys EM “Consolidated Budgeting Guidance” a “Managing Public Money”, sydd ar gael ar wefan y Trysorlys.

4.6 Datrys anghydfod

Pan fo anghydfod yn codi ynglŷn â thaliad mewn perthynas â’r materion a nodir yn yr adran hon, neu ynglŷn ag agweddau eraill ar roi CTIC ar waith, bydd yn cael ei drafod ar lefel Bwrdd y Rhaglen sy’n cynnwys cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Os na fydd cytundeb rhwng CThEM a Llywodraeth Cymru ar lefel Bwrdd y Rhaglen, caiff y mater ei drosglwyddo i Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) (Swyddogion) i’w ddatrys. Os na ellir, mewn achos eithriadol, ddatrys y mater yna, caiff ei gyflwyno i Gyd-bwyllgor y Trysorlysoedd er mwyn i Weinidogion, y bydd eu penderfyniad ar y cyd yn derfynol, ei drafod a chytuno arno.

5.1 Gosod y gyfradd

Mae adran 116D o Ddeddf 2006 yn ei gwneud yn ofynnol, er mwyn i gyfradd Cymru gael ei gosod, i’r Cynulliad basio Penderfyniad cyn dechrau’r flwyddyn dreth y mae’n ymwneud â hi, sef erbyn 5 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn benodol. Bydd Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad yn gwneud trefniadau i gynnwys y broses o osod y gyfradd drwy Benderfyniad yn y cylch cyllidebol blynyddol. Mater i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad ydyw. O ran gweinyddu, bydd CThEM yn gwneud paratoadau trefnus ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf, gan gynnwys rhoi gwybodaeth godio gywir mewn modd amserol i holl drethdalwyr y DU (gan gynnwys trethdalwyr Cymreig).

Bydd Llywodraeth Cymru a CThEM yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau, wrth baratoi ar gyfer 2019-20 a thu hwnt, y caiff y camau gweinyddol hyn eu cynllunio a’u cymryd yn effeithlon ac mewn modd amserol (gan ystyried cylchoedd cyllidebol y ddwy Lywodraeth) er mwyn lleihau costau i’r eithaf, gan gynnwys costau i gyflogwyr. Bydd hyn yn cynnwys cytuno ar ragdybiaeth i’w defnyddio yn y brif broses o ddyroddi codau treth, os nad yw’r gyfradd wedi’i phenderfynu erbyn diwedd mis Tachwedd.

5.2 Hysbysiad o’r gyfradd

Bydd penderfyniadau ynghylch cyfradd Cymru sy’n cael eu pasio gan y Cynulliad yn wybodaeth gyhoeddus.

6.1 Rhagweld a thalu derbyniadau treth

Bydd y trefniadau ar gyfer rhagweld derbyniadau treth a gaiff eu hymgorffori yn y broses o gyfrifo cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru bob blwyddyn, a’r dull o ddarparu cyllid i Lywodraeth Cymru, yn faterion i Lywodraeth Cymru a Thrysorlys EM gytuno arnynt, a chânt eu nodi mewn dogfen ar wahân. Caiff Llywodraeth Cymru ddefnyddio rhagolygon a baratoir ar gyfer Llywodraeth y DU gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol neu caiff roi trefniadau rhagweld annibynnol amgen ar waith. Er mwyn gallu paratoi rhagolygon (sy’n gymaradwy â’r rhai a baratoir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol) a helpu Gweinidogion Cymru i ddatblygu polisïau cadarn, bydd CThEM a Llywodraeth Cymru yn ymchwilio ac yn gwneud cynigion sy’n ei gwneud yn bosibl i ddata amserol o safon gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

6.2 Cyfrifyddu, archwilio a sicrwydd

Caiff gwariant a derbyniadau sy’n ymwneud â CTIC eu nodi ar wahân yng nghyfrifon blynyddol CThEM, sy’n cael eu harchwilio gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Ar ôl i gyfrifon CThEM gael eu harchwilio, bydd y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol (gweler para 1.3 uchod) yn rhoi crynodeb, sy’n cwmpasu pob mater sy’n ymwneud â CTIC, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd ar gael i roi tystiolaeth i Bwyllgorau’r Cynulliad yn ôl y gofyn.

At hynny, mae adran 23 o Ddeddf 2014 yn gosod dyletswydd ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru i roi adroddiad bob blwyddyn ar y dyddiad cynharaf posibl cyn pen-blwydd y diwrnod y pasiwyd Deddf Cymru 2014 – a fydd yn cynnwys adroddiad ar roi CTIC ar waith a’i gweithredu – ac yn anfon copi o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a fydd, yn eu tro, yn gosod copi gerbron y Cynulliad. Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a gosod adroddiad tebyg bob blwyddyn. Mae’n rhaid i’r adroddiadau hyn gynnwys adroddiad ar gynnydd o ran rhoi’r darpariaethau ariannol yn Neddf 2014 ar waith ac wedyn eu gweithredu.

6.3 Adroddiadau yn ystod y flwyddyn i Weinidogion Cymru

Unwaith y bydd CTIC yn weithredol, bydd CThEM yn rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ar ffurf ac ar amlder i gytuno arnynt drwy gydol y flwyddyn dreth gan nodi derbyniadau treth gwirioneddol ac unrhyw faterion sy’n codi mewn perthynas â chydymffurfiaeth neu faterion eraill sy’n berthnasol i’r broses o gasglu CTIC.

7.1 Rhannu gwybodaeth

Mae’n rhaid I CThEM roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru a swyddogion i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas ag atebolrwydd Seneddol, craffu, gosod cyfraddau a rhagolygon mewn perthynas â CTIC. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â gofynion adrodd adran 23 o Ddeddf 2014. Lle y byddai darparu gwybodaeth yn golygu cryn amser dadansoddi, bydd CThEM yn hysbysu Llywodraeth Cymru o’r gost debygol a’r cyfnod o amser dan sylw. Os bydd Llywodraeth Cymru yn awdurdodi’r gwaith ac yn cytuno i dalu, bydd CThEM yn ymgymryd â’r gwaith hwn.

7.2 Cyfyngiadau

Fel y’i crybwyllir ym mharagraff 1.4 uchod, mae CThEM yn gweithredu o fewn cyfyngiadau cyfreithiol ynglŷn â chyfrinachedd trethdalwyr. Mae Deddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 yn gwahardd datgelu gwybodaeth a ddelir gan CThEM, ond yn y rhestr o eithriadau i hyn, mae adran 18(2)(a) yn caniatáu i CThEM ddatgelu gwybodaeth at ddiben un o swyddogaethau CThEM (y mae treth incwm yn un ohonynt). Ond ni all CThEM roi unrhyw ddadansoddiad sy’n nodi trethdalwyr unigol, nac a fyddai’n ei gwneud yn bosibl i ddod i gasgliad ynglŷn â’r symiau o dreth sy’n ymwneud â threthdalwyr unigol.

8.1 Adolygu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth

Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu unrhyw newidiadau y cytunir arnynt mewn ffyrdd o weithio neu drefniadau llywodraethu a rheoli ehangach.

Llofnodwyd ar ran eu sefydliadau perthnasol:

Andrew Jeffreys
Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
ar ran Llywodraeth Cymru

Sarah Walker
Dirprwy Gyfarwyddwr, Datganoli
ar ran Cyllid a Thollau EM

Atodiad A: Cyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol CThEM

Ceir y sail gyfreithiol dros Swyddogion Cyfrifyddu yn:

  • Neddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000
  • Deddf Cronfeydd Masnachu’r Llywodraeth 1973, (fel y’i diwygiwyd yn Neddf Masnachu’r Llywodraeth 1990 a Deddfau Cyllid 1991 a 1993)

Mae gweinyddu CTIC yn un o swyddogaethau CThEM ac felly mae’n rhan o gyfrifoldeb cyffredinol Prif Swyddog Cyfrifyddu CThEM, ei Brif Weithredwr, Jon Thompson.

Cyhoeddodd y Papur Gorchymyn, “Pwerau at bwrpas: Tuag at setliad datganoli sy’n para i Gymru”, y bydd Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn cael ei benodi a fydd yn atebol yn benodol am gasglu CTIC, gan gynnwys yr asedau, y rhwymedigaethau a’r llifau arian parod cysylltiedig. Ni fydd y penodiad hwn yn lleihau cyfrifoldeb cyffredinol y Prif Swyddog Cyfrifyddu am gyfrifon adrannol CThEM.

Bydd y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn gyfrifol am bob mater sy’n ymwneud â llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheoli ariannol mewn perthynas â CTIC. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo a diogelu rheoleidd-dra, priodoldeb, fforddiadwyedd, cynaliadwyedd, risg a gwerth am arian o ran CTIC; a chyfrifyddu’n gywir, ac yn dryloyw ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â hi. Bydd y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn cyflwyno crynodeb CTIC o gyfrifon archwiliedig CThEM i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler para 6.2).

Bydd Pwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gofyn i Swyddog Cyfrifyddu CThEM roi tystiolaeth. Bydd y Swyddogion Cyfrifyddu ar gael i roi tystiolaeth yn ôl y gofyn.

Dangosir manylion llawn cyfrifoldeb Swyddogion Cyfrifyddu ym Mhennod 3 o ddogfen Trysorlys EM, Rheoli Arian Cyhoeddus.

Atodiad B: Gweithredu CTIC

Cylch Blynyddol o Weithgareddau (mae eitemau penodol nad ydynt yn ymwneud â CTIC yn yr atodiad hwn yn adlewyrchu’r amserlen gyffredinol ar gyfer treth incwm).

Amser Gweithgaredd
Erbyn 30 Tachwedd cyn y flwyddyn dreth Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth i CThEM ynglŷn â’r gyfradd arfaethedig i Gymru ar gyfer y flwyddyn dreth sydd i ddod (gweler sylwadau cysylltiedig ar bara 5)
Mis Ionawr cyn y flwyddyn dreth Mae CThEM yn cyflwyno hysbysiadau codio TWE i drethdalwyr Cymreig yn seiliedig ar ddynodydd Trethdalwr Cymreig
Cyn y flwyddyn dreth Mae Llywodraeth Cymru yn gosod cynnig ynglŷn â chyfradd Cymru gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn pryd i benderfyniad ynghylch cyfradd Cymru gael ei basio erbyn 5 Ebrill.
Yn ystod y flwyddyn dreth Mae cyflogwyr yn cyflwyno ffurflenni TWE ac yn gwneud taliadau mewn perthynas â threthdalwyr Cymreig
Mae CThEM yn defnyddio data gan gyflogwyr i ddiweddaru systemau.
Mae bloc Cymru yn seiliedig ar ragolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol o dreth incwm Cymru; Mae Llywodraeth Cymru yn hawlio cyllid o’r Grant Bloc
Cydymffurfiaeth cyflogwyr CThEM
Mae CThEM yn diweddaru dynodydd Trethdalwr Cymreig fel y bo’n briodol
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth Mae CThEM yn cyflwyno ffurflenni Hunanasesu
31 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth Terfyn amser trethdalwyr ar gyfer ffurflenni hunanasesu â llaw
31 Ionawr ar ôl y flwyddyn dreth Terfyn amser trethdalwyr ar gyfer ffurflenni hunanasesu ar-lein
Mis Chwefror ymlaen ar ôl y flwyddyn dreth Cydymffurfiaeth trethdalwyr CThEM
Hyd at 12 mis ar ôl y flwyddyn dreth Cysoni elfen CTIC yng ngrant bloc Cymru drwy gyfeirio at yr atebolrwydd gwirioneddol i dalu treth a ddatgenir