Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gweithgynhyrchydd llwyddiannus o Abertawe yn dychwelyd yr hydref hwn am yr 11eg tro yn olynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd DTR Medical yn ymuno ag ugain o gwmnïau eraill sydd eisoes wedi cofrestru i arddangos ar stondin Llywodraeth Cymru ym Medica 2016 - y nifer uchaf erioed.

Medica (14-17 Tachwedd) yw’r prif ffair fasnachol feddygol y byd, a gynhelir yn flynyddol yn Dusseldorf, ac mae’n ddyddiad allweddol yng nghalendr cwmnïau gwyddorau bywyd yng Nghymru er mwyn arddangos ystod o wasanaethau a chynnyrch arloesol llwyddiannus.

Anogir unrhyw gynrychiolwyr sy’n bwriadu ymuno â thaith fasnachol Llywodraeth Cymru i wneud cais cyn gynted ag y bo modd gan mai’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15 Gorffennaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates: 

“Medica yw un o brif ddigwyddiadau cwmnïau gwyddorau bywyd yng Nghymru ac mae’n sicr yn creu canlyniadau. Dyma’r arddangosfa fwyaf poblogaidd o raglen masnachu tramor Llywodraeth Cymru o bell ffordd, gyda nifer o gwmnïau fel DTR Medical yn cofrestru tro ar ôl tro.”

“Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i gefnogi twf busnesau, ac mae digwyddiadau fel Medica yn chwarae rhan hanfodol o ran helpu busnesau i gael mynediad at farchnadoedd newydd drwy fasnachu’n rhyngwladol. Cefnogir hyn gan ein rhaglen cymorth allforio helaeth sy’n cynnig ystod eang o gymorth a chyngor i gwmnïau.”

Yn ogystal â sicrhau gwerthiannau o tua £388,000 ym Medica 2015, cynhaliodd DTR Medical hefyd dros 90 o gyfarfodydd yn ystod y digwyddiad,  gyda’u cwsmeriaid, dosbarthwyr, cyflenwyr a’r cyfranogwyr.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Andrew Davidson fod DTR Medical wedi arddangos ym Medica bob blwyddyn ers ei sefydlu yn 2005, ac fe ddisgrifiodd y cyfuniad o arddangosfa a man cyfarfod a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel lle ardderchog.

“O ganlyniad i’r gefnogaeth a gawsom yn ystod y deng mlynedd ers i ni fod yn rhan o hyn, gallwn weld enillion sylweddol o ran gwerth, sy’n cyfrannu at ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.” 

Bydd cwmni Frio Ltd o Hwlffordd yn arddangos am y pumed flwyddyn yn olynol, ac yn hyrwyddo eu hamrywiaeth unigryw o waledi meddyginiaeth sydd â’u patent eu hunain ac sy’n cadw inswlin, pinnau sioc anaffylactig a meddyginiaeth arall sy’n sensitif i dymheredd, yn oer am ddyddiau.

Wedi iddynt arallgyfeirio i’r farchnad awyr agored a hamdden y llynedd, fe enillodd y ‘Zipper Cooling Wallet’ ar gyfer y rhai sy’n defnyddio inswlin,  wobr cynnyrch cyffredinol y flwyddyn yng Ngwobrau Diwydiant Awyr Agored y Deyrnas Unedig 2016 yn ddiweddar.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Chris Wolsey: 

“Mae ein presenoldeb ym Medica wedi bod yn ffactor bwysig yn ein datblygiad ni fel busnes, ac mae wedi trawsnewid Frio i fod yn gwmni rhyngwladol sy’n allforio ar draws y byd. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru a’n rheolwr datblygu busnes wedi ein helpu ni i dorri tir newydd o safbwynt marchnadoedd byd-eang, ac o hynny wedi sicrhau dyfodol y cwmni a’i holl weithwyr."