Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch am y tarfu ar gyflenwadau meddyginiaethau PERT, Creon®, Pancrease HL®, Nutrizyme®, a sut i gael eich presgripsiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw'r broblem?

Ers mis Chwefror 2024, mae llawer o bobl sydd â phresgripsiwn ar gyfer therapi amnewid ensymau pancreatig (PERT) wedi wynebu trafferthion wrth geisio cael gafael ar y meddyginiaethau hyn. Mae'r broblem â'r cyflenwad yn effeithio ar nifer o gynhyrchion gan gynnwys capsiwlau Creon®, Nutrizym® a Pancrease HL®.

Pam mae yna brinder?

Ym mis Tachwedd 2023, rhoddodd gwneuthurwr Pancrease HL® y gorau i'w gynhyrchu. Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y bobl a oedd yn cael presgripsiwn ar gyfer paratoadau Creon® a Nutrizym®.

Gwnaeth y penderfyniad i roi'r gorau i gynhyrchu capsiwlau Pancrease HL® ddigwydd yr un pryd â phroblemau â gweithgynhyrchu capsiwlau Creon® a Nutrizym®. Roedd hyn cynnwys y ffaith mai lefel gyfyngedig o'r cynhwysyn fferyllol actif oedd ar gael. Mae'r problemau hyn, ynghyd â'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael presgripsiwn ar gyfer Creon® a Nutrizym® yn golygu nad yw gweithgynhyrchwyr ar hyn o bryd yn gallu cynhyrchu digon o gynhyrchion i ateb y galw.

Pryd mae disgwyl i'r prinder gael ei ddatrys?

Disgwyliwn i brinder capsiwlau Nutrizym® gael ei ddatrys erbyn mis Medi 2024. Ond ni ddisgwyliwn i hyn ond arwain at gyflenwadau digonol o Nutrizym® ar gyfer y cleifion hynny a gafodd bresgripsiwn ar ei gyfer cyn y prinder.

Ni ddisgwylir i brinder capsiwlau Creon® gael ei ddatrys tan ddechrau 2026.

Beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y prinder?

Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal parhad cyflenwadau meddyginiaethau i'r DU. Hoffem sicrhau bod unrhyw darfu ar gyflenwadau yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y mwyafrif o bobl sy'n cael y meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gweithio gyda:

  • Llywodraeth y DU
  • Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
  • byrddau iechyd
  • ymarferwyr cyffredinol
  • fferyllfeydd cymunedol

Mae hyn yn cynnwys:

  • rhoi cyngor i bresgripsiynwyr ynglŷn â pheidio â phresgripsiynu mwy na chyflenwad un mis o gapsiwlau Creon® ar y tro
  • awdurdodi Protocolau Prinder Difrifol sy'n galluogi fferyllwyr i gyfyngu ar faint o gapsiwlau Creon® y maent yn eu cyflenwi i gyflenwad un mis fesul claf

Rydym hefyd wedi rhoi canllawiau i feddygon a fferyllwyr ynglŷn â sut y gallant bresgripsiynu ac archebu stoc ddidrwydded, wedi'i mewnforio o fathau eraill o PERT. Mae hyn dim ond os byddai'r rhain yn briodol yn glinigol ac nad oes stoc yn y DU ar gael.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael trafferth cael fy mhresgripsiwn?

Yn y lle cyntaf, dylech geisio cysylltu â fferyllfeydd gwahanol.

Mae Viatris, gwneuthurwr Creon®, wedi sefydlu llinell gymorth i gwsmeriaid er mwyn rhoi gwybodaeth am y fferyllfeydd yn eich ardal sydd wedi cael cyflenwad o Creon® yn ddiweddar. Gallwch gysylltu â'r llinell gymorth drwy ffonio 0800 808 6410. Mae'r llinell gymorth ar gael yn rhad ac am ddim ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9yb a 5yp.

Efallai y bydd rhai fferyllfeydd mwy yn darparu gwirwyr stoc ar-lein. Mae hyn yn eich galluogi chi i chwilio am fferyllfeydd yn eich ardal chi a allai fod â stoc.

Ym mhob achos, byddai'n ddoeth ichi ffonio'r fferyllfa cyn mynd. Gellir cael gwybodaeth am gysylltu â fferyllfeydd yn eich ardal yn GIG 111 Cymru.

Os ydych chi'n parhau i gael trafferth cael cyflenwad o feddyginiaeth, a hynny ar ôl cysylltu â fferyllfeydd eraill, efallai y bydd angen ichi siarad â'ch arbenigwr neu feddyg teulu ynghylch meddyginiaethau neu gamau eraill y gallwch chi eu cymryd i helpu i reoli unrhyw symptomau.

Mae rhagor o gyngor a chymorth ar gael gan grwpiau cleifion gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Ffeibrosis Systig. Mae'r cyngor hwn ar gael yn diweddariad am y cyflenwad o Creon.