Dysgwch am y tarfu ar gyflenwadau meddyginiaethau HRT a sut i gael eich presgripsiwn.
Cynnwys
Beth yw'r broblem?
Ar ôl cyfnod hir o alw cymharol isel am therapi adfer hormonau (HRT), mae nifer y presgripsiynau sy'n cael eu rhoi yng Nghymru bob blwyddyn wedi bod yn cynyddu.
Mae llawer o bobl sydd â phresgripsiynau wedi profi trafferthion wrth geisio cael rhai mathau o HRT.
Mae rhai cymysgeddau HRT wedi dod i ben ond mae rhan fwyaf o'r tarfu ar gyflenwadau bellach wedi'i ddatrys. Fodd bynnag, rydym yn dal i fonitro tarfu ar gyflenwad patsys FemSeven Sequi a thabledi Indivina 1mg/2.5mg.
Pam mae yna brinder?
Yng Nghymru, mae nifer y presgripsiynau ar gyfer HRT wedi cynyddu mwy na 40% yn y 5 mlynedd diwethaf.
Yn anffodus, wrth i nifer y presgripsiynau gynyddu, nid yw gweithgynhyrchwyr wedi gallu cynhyrchu niferoedd digonol o gymysgeddau HRT i ateb y galw.
Pryd mae disgwyl i'r prinder gael ei ddatrys?
Ar hyn o bryd rydym yn disgwyl i'r tarfu ar y cyflenwadau sy'n effeithio ar batsys FemSeven Sequi a thabledi Indivina 1mg/2.5mg gael ei ddatrys ym mis Ionawr 2025.
Wedi i hyn gael ei ddatrys gall gymryd ychydig o amser i'r cyflenwadau lleol sefydlogi oherwydd bod angen i'r stoc gyrraedd y cyfanwerthwyr a'r fferyllfeydd cymunedol gan y gweithgynhyrchwr. Yn ogystal, mae angen i'r fferyllfeydd hynny ddosbarthu unrhyw bresgripsiynau a gadwyd yn ôl yn ystod y cyfnod pan oedd cyflenwadau yn brin.
Beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y prinder?
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal parhad cyflenwadau meddyginiaethau i'r DU. Hoffem sicrhau bod unrhyw darfu ar gyflenwadau yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y mwyafrif o bobl sy'n cael y meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gweithio gyda:
- Llywodraeth y DU
- Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
- gweithgynhyrchwyr
- byrddau iechyd
- meddygon teulu
- fferyllfeydd cymunedol
Rydym yn rhoi ystod o gamau gweithredu ar waith i liniaru effeithiau'r tarfu ar gyflenwadau meddyginiaethau HRT. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor clinigol i bresgripsiynwyr ar wybodaeth ynghylch pa gymysgeddau HRT sydd ar gael a pha rai o'r cynhyrchion hyn sy'n cyfateb i'w gilydd.
Yn flaenorol, rydym hefyd wedi caniatáu i fferyllwyr roi cymysgedd HRT gwahanol ond cyfwerth os nad yw'r un a roddwyd ar bresgripsiwn ar gael, gan ddefnyddio protocol prinder difrifol heb yr angen i gleifion ddychwelyd at eu presgripsiynydd. Mae'r protocolau prinder difrifol hyn bellach wedi'u tynnu'n ôl gan adlewyrchu argaeledd gwell meddyginiaethau HRT yn gyffredinol.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael trafferth cael fy mhresgripsiwn?
Yn y lle cyntaf, dylech geisio cysylltu â fferyllfeydd gwahanol i'r un yr ydych fel arfer yn ei defnyddio.
Ym mhob achos, mae'n well ffonio'r fferyllfa cyn ymweld â hi. Mae gwybodaeth am gysylltu â fferyllfeydd yn eich ardal ar gael ar GIG 111 Cymru.
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i gyflenwad ar ôl cysylltu â fferyllfeydd gwahanol, efallai y bydd angen i chi siarad â'ch meddyg teulu ynghylch rhoi presgripsiwn am gymysgedd HRT arall.