Daeth yr ymgynghoriad i ben 9 Rhagfyr 2014.
Crynodeb o’r canlyniad
Caiff gweld crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ar DEFRA.GOV.UK
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru yn gofyn am farn ar fater cyfreithiol sy'n ymwneud â meddu ar wyau adar gwyllt.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Yng Nghymru a Lloegr mae'n drosedd o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gymryd neu ddinistrio wy aderyn gwyllt yn fwriadol. Mae hefyd yn drosedd i gael wy aderyn gwyllt neu unrhyw ran o wy o'r fath yn eich meddiant neu o dan eich rheolaeth.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y drosedd o ran bod ag wyau adar gwyllt yn eich meddiant yng Nghymru a Lloegr. Ei nod yw nodi'r mater deddfwriaethol cyfredol o ran wyau sydd wedi'u cymryd o'r gwyllt ers 1954. Mae'n nodi dau opsiwn i fynd i'r afael â'r mater. Mae'r ymgynghoriad yn gyfle i unrhyw un sydd â diddordeb ymateb i'r opsiynau hyn er mwyn ein helpu i ddewis pa un fydd yn cael ei ddefnyddio.
Mae hwn yn ymgynghoriad cyhoeddus ac mae'n agored i unrhyw un sy'n dymuno mynegi sylwadau. Dylai'r ymgynghoriad fod o ddiddordeb arbennig i'r rheini sy'n ymwneud â gwarchod wyau gwyllt awdurdodau gorfodi a'r rheini sy'n meddu ar gasgliadau o wyau.
Yn Saesneg yn unig y cafodd y ddogfen ymgynghori ei gyhoeddi.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar DEFRA.GOV.UK