Mae cwmni o Gasnewydd yng Nghymru, sydd wedi dyfeisio mat gweddïo rhyngweithiol cyntaf y byd, wedi rhoi ei fryd ar ehangu i bedwar ban byd, gyda chymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, ar ôl iddo weld ei gynhyrchion yn mynd yn feirol yn y Dwyrain Canol.
Sefydlwyd y cwmni sy’n gyfrifol am My Salah Mat gan Kamal Ali, tad i ddau o blant. Matiau gweddïo arloesol yw’r matiau hyn a’u bwriad yw helpu plant ac oedolion i ddysgu sut i wneud Salah – y weddi ddyddiol sy'n cael ei harfer gan Fwslimiaid.
Ers iddo gael ei sefydlu bedair blynedd yn ôl, mae'r busnes wedi ennill enw iddo’i hun yn fyd-eang am ei fatiau cwbl unigryw ac mae wedi datblygu portffolio rhyngwladol helaeth, ac mae ei gynhyrchion yn cael eu gwerthu bellach mewn dros 25 o wledydd ar draws pedwar cyfandir.
Mae'r cwmni wedi gweld gwerthiant yn cynyddu 15% yn y Dwyrain Canol dros y tair blynedd diwethaf ar ôl i'w fat ar gyfer plant fynd yn feirol ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn y rhanbarth, gan arwain at gytundebau gyda manwerthwyr rhyngwladol mawr, gan gynnwys Virgin Megastores yn yr UAE a Dabdoob, un o'r manwerthwyr mwyaf i blant yn Kuwait.
Erbyn hyn, mae My Salah Mat yn gobeithio sicrhau cynnydd o 15% yn ei allforion byd-eang dros y tair blynedd nesaf drwy ehangu ei rwydweithiau dosbarthwyr ar draws y byd a chanolbwyntio ar hybu gwerthiant yn Awstralia ac India – sy'n farchnadoedd targed allweddol i'r cwmni.
Bu Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, yn ymweld â chanolfan y cwmni yng Nghasnewydd er mwyn ei longyfarch ar ei lwyddiant.
Dywedodd Kamal Ali, sylfaenydd a dyfeisiwr My Salah Mat:
"Mae allforio’n rhan sylweddol o'n busnes ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn ein twf dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r galw byd-eang am ein cynhyrchion wedi bod yn enfawr, wrth i rieni Mwslimaidd ledled y byd chwilio am help i ddysgu'r technegau gweddïo cywir i'w plant. Mae hynny’n cynnig llawer o gyfleoedd inni gynyddu’n gwerthiant rhyngwladol.
"Mae Awstralia ac India yn farchnadoedd targed allweddol inni wrth i'n presenoldeb rhyngwladol barhau i dyfu. Mae’r boblogaeth Fwslimaidd yn cynyddu yn y ddwy wlad ac mae rhagor o blant ac oedolion am ddysgu'r dechneg weddïo gywir. Ar ôl siarad â chwsmeriaid a manwerthwyr newydd posibl yn y ddwy wlad, rydyn ni’n gwybod bod galw am ein cynhyrchion, felly mae cael troedle yn y farchnad honno yn brif ffocws inni ar hyn o bryd.”
Cafodd y cwmni o Gymru ei sefydlu’n wreiddiol gan Kamal ar ôl iddo sylwi bod ei fab yn cael trafferth gyda'i dechneg weddïo. Gan fod ganddo gefndir ym maes dylunio cynhyrchion, aeth Kamal ati i ddyfeisio ateb – mat gweddïo rhyngweithiol sy’n gweithio drwy gyffwrdd ac sy’n dysgu’r symudiadau gwahanol sy’n rhan o Salah i blant, gan gynnwys lle i roi eu traed, eu pengliniau, eu dwylo a'u pen, yn ogystal â beth i'w ddweud yn ystod y symudiadau gwahanol. Ar ôl dwy flynedd o ddatblygu prototeipiau, lansiodd Kamal ei gynnyrch cyntaf yn 2018, gan gael adolygiadau gwych.
Ar ôl y llwyddiant hwnnw, ysgogwyd My Salah Mat i ddatblygu fersiwn o'r mat ar gyfer oedolion yn fuan wedyn, ar ôl cael miloedd o geisiadau yn sgil cynnydd mawr ym mhoblogrwydd y cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ers hynny, mae agenda’r cwmni yn un ryngwladol ac erbyn hyn, mae allforion yn cyfrif am 40% o'i fusnes. Mae gan y cwmni dros 75 o ddosbarthwyr a manwerthwyr ledled y byd, yn ogystal ag is-gwmni yn yr Almaen, sef My Salah Mat Deutschland, a sefydlwyd er mwyn dal i fyny â’r galw cynyddol am ei gynhyrchion yn y wlad, ar ôl i’r cwmni fod yn Ffair Deganau Ryngwladol Nuremberg – un o arddangosfeydd masnach mwyaf Ewrop ar gyfer teganau.
Mae cymorth a gafodd oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i dwf a llwyddiant My Salah Mat. Roedd y cymorth hwnnw’n cynnwys ymchwil i'r farchnad ar dueddiadau defnyddwyr mewn marchnadoedd newydd posibl, helpu'r cwmni i ddeall dewisiadau rhanbarthol amrywiol, a'i annog i addasu'r mat fel ei fod ar gael mewn 20 o ieithoedd. Mae'r cwmni blaengar wedi rhoi strategaeth farchnata eang ar waith hefyd, gan ganolbwyntio ar lwyfannau fel TikTok, lle mae ei fideos yn cael eu gwylio gan filiynau o bobl, ac mae wedi bod yn gweithio gyda dylanwadwyr o bob cwr o'r byd er mwyn creu brand rhyngwladol cryf.
Ychwanegodd Kamal:
"Mae meithrin gwell dealltwriaeth o sut mae’n marchnadoedd targed yn gweithredu a sut i fynd i mewn iddyn nhw’n effeithiol wedi chwarae rhan fawr yn ein twf allforio. Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn teithiau masnach rhithwir sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, a hynny yn Qatar, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Maleisia, ac mae hynny wedi’n helpu i benderfynu sut orau i gael troedle yn y tiriogaethau hynny.
"Mae'r teithiau hynny wedi bod yn fodd hefyd inni atgyfnerthu’n hygrededd ac i feithrin perthynas â darpar gwsmeriaid a chleientiaid, gan ein helpu i gael gwell amcan o’r hyn maen nhw'n chwilio amdano a’n galluogi i greu cyfleoedd busnes newydd."
Mae'r cwmni wedi llofnodi contract breindal gydag un o'r stiwdios cartwnau animeiddiedig mwyaf ym Maleisia, sef Omar a Hana, gan helpu i gynyddu ei bresenoldeb yn Ne-ddwyrain Asia – marchnad allweddol arall i'r cwmni. Yn rhan o'r cytundeb hwnnw, mae My Salah Mat wedi ffurfio partneriaeth gyda'r cwmni animeiddio ar ddylunio cynhyrchion, lle mae lleisiau cymeriadau o raglen Omar a Hana i’w clywed ar rai o’r cynhyrchion i blant. Mae'r mat wedi ymddangos mewn penodau diweddar hefyd.
Ar ôl llai na phum mlynedd o lwyddiant aruthrol wrth allforio’n rhyngwladol, mae My Salah Mat bellach yn enw brand mewn cartrefi Mwslimaidd ledled y byd oherwydd ei boblogrwydd ac ar ôl ennill lle blaenllaw yn y farchnad. Mae'r cwmni wrthi'n datblygu hyd yn oed yn rhagor o gynhyrchion addysgol ac addasiadau er mwyn iddo fedru parhau i ymateb i’r tueddiadau a’r galw ymhlith defnyddwyr.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
"Mae neges Llywodraeth Cymru i fusnesau yn un glir – gallwch dyfu yng Nghymru a gwerthu i'r byd. Rydyn ni'n gweithio'n galed i helpu busnesau i wneud hynny.
"Mae My Salah Mat yn gynnyrch arloesol gwych ac yn enghraifft berffaith o’r meddwl dyfeisgar sy’n cyflawni ar gyfer cynifer o bobl ar draws y byd.
"Rwy'n falch o weld plant Mwslimaidd ym mhedwar ban byd yn mwynhau manteision My Salah Mat, sydd wedi'i ddylunio yng Nghymru. Mae’n rhywbeth sy'n helpu i’w haddysgu ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu am eu crefydd a sut i weddïo eu Salah.
"Dyma'r union fathau o gynhyrchion arloesol sy'n arddangos y gorau o entrepreneuriaeth, busnes a mentergarwch Cymru.
"Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod wedi gallu cefnogi'r cwmni, a’i helpu i gael llwyddiant ysgubol, gan wneud hynny drwy’r gefnogaeth gynhwysfawr sydd ar gael i fusnesau drwy Gynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru. Rwy'n dymuno'r gorau i My Salah Mat ar gyfer y dyfodol."