Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Hydref 2023 i Fedi 2024, gyda diwygiadau i'r data yn ôl hyd 2020. Bydd data 2024 yn cael eu diwygio yn rheolaidd dros y 18 mis nesaf gan gymryd ffurflenni hwyr i ystyriaeth. 

Mae'r data yn cwmpasu gwerthoedd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.

Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.

Y flwyddyn yn gorffen Medi 2024 (dros dro)

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £18.0 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, i lawr £1.9 biliwn (9.5%) o gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, gostyngodd gwerth allforion ar draws holl wledydd y DU, ac eithrio'r Gogledd Iwerddon ble cynyddodd gwerthoedd.
  • Gwerth allforion nwyddau ag eithrio 'Olew' (SITC 33) am Gymru oedd £16.0 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, gostyngiad o £0.2 biliwn  (1.1%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE gan £0.9 biliwn (8.0%) i £10.7 biliwn, tra gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE gan £1.0 biliwn (11.6%) i £7.3 biliwn, o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 59.3% o allforion Cymreig o’i gymharu â 50.1% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd gwerthoedd allforion o Gymru i gael eu dominyddu gan 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth'[troednodyn 1] gwerth £8.4 biliwn (46.8%), cynnydd o £0.2 biliwn (2.3%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023. 'Nwyddau a Weithgynhyrchir' oedd yr ail gategori mwyaf, gwerth £2.6 biliwn, sef 14.7% o holl allforion o Gymru.
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ oedd y cynnyrch gwerth mwyaf yn y categori ‘Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £3.1 biliwn (17.5%) o allforion Cymreig. Mae hyn yn cynnydd o £83.0 miliwn (2.6%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.
    • Yn y categori 'Nwyddau a Weithgynhyrchir', gwerth 'Haearn a Dur' (SITC 67) oedd yr uchaf - gwerth £1.1 biliwn (5.9%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gynnydd o ran gwerth £0.1 biliwn (8.7%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.9 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, cynnydd o £1.2 biliwn (5.2%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, profodd holl wledydd y DU ostyngiad yng ngwerth mewnforion.
  • Gwerth mewnforion nwyddau ag eithrio ‘Olew' (SITC 33) ar gyfer Cymru oedd £15.1 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, gostyngiad o £0.5 biliwn (3.4%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2024, bu gostyngiad gwerthoedd mewnforion nwyddau o’r UE o £0.2 biliwn (2.3%) hyd at £7.6 biliwn. Am wledydd y tu allan i'r UE, roedd gostyngiad o £1.0 biliwn (6.8%) hyd at £13.3 biliwn, o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.  
  • Cyfrifodd gwerthoedd mewnforion o'r UE am 36.2% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion Cymru, o'i gymharu â 54.1% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth' fel y categori mewnforio gwerth mwyaf £8.0 biliwn - sy'n cyfrif am 38.5% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion - cynnydd o £0.3 biliwn (4.0%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023. Yr ail gategori mwyaf oedd 'Tanwyddau mwynol' gwerth £6.2 biliwn, sef 29.7% o holl mewnforion i Gymru.  
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer ‘oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth’ - gwerth £3.4 biliwn (16.4%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn cynnydd o £0.2 biliwn (5.1%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023.
    • Yn y categori 'Tanwyddau Mwynol', 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £5.7 biliwn (27.5%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn gostyngiad gwerth £0.6 biliwn (9.8%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Medi 2023. 

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys diwygiadau a drefnwyd ar gyfer data a gyhoeddwyd yn flaenorol (chwarter cyntaf ac ail chwarter 2024). Mae hefyd yn cynnwys chywiriadau heb eu trefnu ar gyfer data 2020 i 2023 sy’n gyson gyda chywiriadau a wnaed i ystadegau masnach dramor nwyddau y DU (CThEF). Mae hyn wedi arwain at newidiadau i'r gwerthoedd masnach ar gyfer rhanbarth Dwyrain Lloegr ac SITC 34 - Nwy, naturiol a weithgynhyrchir ar gyfer masnach â Gwlad Belg. Nid effeithir ar unrhyw ranbarthau eraill, ond mae cyfansymiau y DU wedi'u haddasu yn unol â hynny. Am fwy o fanylion, lawrlwythwch y cywiriadau i ystadegau masnach dramor mewn nwyddau 2020 i 2023 (CThEF).

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (2021) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm allforion yng Nghymru, a 20% o gyfanswm fewnforion.

Cyhoeddir canlyniadau allweddol bob chwarter, ac maent ar gael ar dudalennau CThEF ‘UK Trade Info’ ac ein dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain.

Troednodiadau

[1] Mae hyn yn cynnwys Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer, Peiriannau Arbenigol ar gyfer Diwydiannau Penodol, Peiriannau Gwaith Metel, Peiriannau Diwydiannol Cyffredinol ac Offer a Rhannau Peiriant nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Peiriannau Swyddfa a pheiriannau ADP, Telathrebu a Recordio Sain ac Offer a Chyfarpar Atgynhyrchu, Peiriannau Trydan, Cyfarpar ac Offer a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Cerbydau Ffordd (gan gynnwys Cerbydau Clustogau Aer), Offer trafnidiaeth eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Cerys Ponting
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099