Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Ebrill 2023 i Mawrth 2024, gyda diwygiadau i'r data yn ôl hyd Ch1 2023. Cânt y data eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr. 

Mae'r data yn cwmpasu gwerthoedd (prisiau cyfredol) o allforion a mewnforion nwyddau.  

Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.

Y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024 (dros dro)

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £19.1 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, i lawr £1.8 biliwn (8.4%) o gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, gostyngodd gwerth allforion ar draws holl wledydd y DU, ac eithrio'r Gogledd Iwerddon ble cynyddodd gwerthoedd.
  • Gwerth allforion nwyddau ag eithrio 'Olew' (SITC 33) am Gymru oedd £16.0 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, gostyngiad o £0.5 biliwn (2.8%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE gan £0.7 biliwn (6.1%) i £11.2 biliwn, tra gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE gan £1.0 biliwn (11.4%) i £7.9 biliwn, o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 58.7% o allforion Cymreig o’i gymharu â 50.1% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd gwerthoedd allforion o Gymru i gael eu dominyddu gan 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth'[troednodyn 1] gwerth £8.3 biliwn (43.2%), cynnydd o £0.3 biliwn (3.4%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023. Mae 'Tanwydd mwynau' yn parhau i fod yr ail gategori mwyaf, gwerth £3.4 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, sef 17.6% o holl allforion o Gymru.
    • 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer’ oedd y cynnyrch gwerth mwyaf yn y categori ‘Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth' gyda £3.2 biliwn (16.5%) o allforion Cymreig. Mae hyn yn gostyngiad o £37.5 milliwn (1.2%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
    • Yn y categori Tanwydd Mwynau, gwerth 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd yr uchaf - gwerth £3.2 biliwn (16.6%) o allforion Cymru. Gostyngiad gwerth £1.3 biliwn (29.1%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.9 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, gostyngiad o £3.0 biliwn (12.6%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, profodd holl wledydd y DU ostyngiad yng ngwerth mewnforion.
  • Gwerth mewnforion nwyddau ag eithrio ‘Olew' (SITC 33) ar gyfer Cymru oedd £15.1 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, gostyngiad o £1.5 biliwn (9.1%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
  • Yn y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2024, bu gostyngiad o £0.5 biliwn (6.0%) gwerthoedd mewnforion nwyddau o’r UE hyd at £7.5 biliwn. Am wledydd y tu allan i'r UE, roedd gostyngiad o £2.5 biliwn (15.9%) hyd at £13.4 biliwn, o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
  • Cyfrifodd gwerthoedd mewnforion o'r UE am 36.1% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion Cymru, o'i gymharu â 54.5% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd 'Peiriannau ac Offer Thrafnidiaeth' fel y categori mewnforio gwerth mwyaf £7.9 biliwn - sy'n cyfrif am 37.9% o gyfanswm gwerthoedd mewnforion - cynnydd o £0.2 biliwn (2.2%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023. Yr ail gategori mwyaf oedd 'Tanwyddau mwynol' gwerth £6.4 biliwn (30.6%). o gyfanswm mewnforion.
    • ‘Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer ‘oedd y cynnyrch gwerth mwyaf o fewn y categori 'Peiriannau ac Offer Trafnidiaeth’ - gwerth £3.3 biliwn (15.8%) o allforion Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o £49.5 miliwn (1.5%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.
    • Yn y categori 'Tanwyddau Mwynol', 'Petrolewm, Cynhyrchion Petroliwm a Deunyddiau Cysylltiedig' (SITC 33) oedd y cynnyrch gwerth uchaf gyda £5.8 biliwn (27.9%) o fewnforion Cymru. Mae hyn yn gostyngiad gwerth £1.5 biliwn (20.4%) o'i gymharu â’r flwyddyn yn gorffen Mawrth 2023.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Mae'r ystadegau arbrofol diweddaraf (2021) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm allforion yng Nghymru, a 20% o gyfanswm fewnforion. 

Cyhoeddir canlyniadau allweddol bob chwarter, ac maent ar gael ar dudalennau CThEF ‘UK Trade Info’, ein dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain yn ogystal â StatsCymru.

Troednodiadau

[1] Mae hyn yn cynnwys Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer, Peiriannau Arbenigol ar gyfer Diwydiannau Penodol, Peiriannau Gwaith Metel, Peiriannau Diwydiannol Cyffredinol ac Offer a Rhannau Peiriant nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Peiriannau Swyddfa a pheiriannau ADP, Telathrebu a Recordio Sain ac Offer a Chyfarpar Atgynhyrchu, Peiriannau Trydan, Cyfarpar ac Offer a rhannau trydan nad ydynt wedi'u pennu mewn mannau eraill, Cerbydau Ffordd (gan gynnwys Cerbydau Clustogau Aer), Offer trafnidiaeth eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Cerys Ponting
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image