Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Hydref 2020 i Fedi 2021.

Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Hydref 2020 i Medi 2021 a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr. Ynghyd â'r diweddariadau cynlluniedig yma, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) hefyd yn cyhoeddi cywiriadau i'r data masnach Ystadegau Masnach Rhanbarthol am y cyfnod 2015 i 2019 ochr wrth ochr â’r cyhoeddiad yma. Mae rhagor o wybodaeth am y cywiriadau hyn ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Mae’r data'n ymdrin â chyfnod parhaus y pandemig coronafirws (COVID-19) yn ogystal â masnach am dri chwarter ers ymadael y Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r data yn cwmpasu allforion a mewnforion.

Oddi 31 Rhagfyr 2020, mae'r ffordd y mae CThEM yn casglu data masnach nwyddau wedi’u newid. Golygir toriad yn y gyfres amser ar gyfer ystadegau masnach gyhoeddedig y DU i'r UE ers mis Ionawr 2021, felly dylid trin cymariaethau hanesyddol yn ofalus (gweler Nodiadau).

Gorffenaf i Fedi 2021 (dros dro)

Gall newidiadau tymor byr fod yn gyfnewidiol, cyflwynir y data dros dro yma o ystyried y diddordeb yn effeithiau Ymadael yr UE ar fasnach ers mis Ionawr 2021. Bydd cyfyngiadau COVID-19 ynghyd â materion sy’n ymwneud â'r gadwyn gyflenwi fyd-eang bydd wedi cael effaith sylweddol ar fasnach yn ystod y cyfnod hwn.

Allforion

  • Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, amcangyfrifwyd gwerth allforion nwyddau oddi Gymru yn £4.1 biliwn.
  • Yng Nghymru, cynyddodd allforion i’r UE gan 4.0% a chynyddodd allforion i weddill y byd gan 26.9% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod ledled y DU, gostyngodd allforion i’r UE gan 1.6% a gostyngodd allforion gweddill y byd gan 1.9%.
  • Yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd cyfrannol mwyaf mewn allforion ar draws holl ranbarthau'r DU o'i gymharu â'r chwarter blaenorol, sef 12.7%, ac yna'r Alban gyda chynnydd o 4.3%. Gwelodd Gogledd Iwerddon ostyngiad o 0.6% a Lloegr yn ostyngiad o 3.3%.

Mewnforion

  • Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, amcangyfrifwyd gwerth mewnforion nwyddau i Gymru yn £4.2 biliwn.
  • Cynyddodd mewnforion o’r UE i Gymru gan 1.6% tra cynyddodd mewnforion oddi gweddill y byd gan 22.7% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y cynnydd ledled y DU mewn mewnforion o'r UE oedd 4.2% a chynyddodd mewnforion oddi gweddill y byd gan 6.5%.
  • Gwelodd pedair gwlad y DU gynnydd mewn mewnforion o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gogledd Iwerddon welodd y cynnydd mwyaf o 18.9%, ac yna Cymru 14.4%, yr Alban 11.7% a Lloegr 3.6%.

Hydref 2020 i Fedi 2021

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £14.3 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2021, i lawr £66 miliwn (0.5%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Medi 2020, ac i lawr £3.5 biliwn (19.7%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen mis Medi 2019.
  • Gwelwyd cynnydd o £117 miliwn (1.4%) yn yr allforion i wledydd yr UE a gostyngiad o £184 miliwn (3.1%) i wledydd y tu hwnt i’r UE, i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 60.0% o allforion Cymreig o’i gymharu â 49.1% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 42.7% o allforion.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £15.3 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Medi 2021, cynnydd o £249 miliwn (1.7%) i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Medi 2020, ac i lawr £3.2 biliwn (17.2%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen mis Medi 2019.
  • Buodd cynnydd o £344 miliwn (5.9%) mewnforion o wledydd yr UE a gostyngiad o £94 miliwn (1.0%) mewnforion o wledydd y tu hwnt i'r UE i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Mewnforion o'r UE oedd 40.3% o holl fewnforion Cymru o'i gymharu â 49.8% ar gyfer y DU.
  • Mae mewnforion i Gymru yn cael eu dominyddu gan 'Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth', sef 35.0% o fewnforion.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM (UK Trade Info) ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach rhyngwladol nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Mae canlyniadau allweddol yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn adolygu ei ddadansoddiad a'i gyhoeddiad o ddata masnach Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gan gynnwys cynnwys y bwletin masnach nwyddau blynyddol.  Os hoffech fod yn rhan o adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.