Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Gorffennaf 2020 i Fehefin 2021.

Amcangyfrifon dros dro CThEM yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Gorffennaf 2020 i Mehefin 2021 a chânt eu diwygio fel mater o drefn dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr.

Mae’r data'n ymdrin â chyfnod parhaus y pandemig coronafirws (COVID-19) yn ogystal â masnach am ddau chwarter ers ymadael y UE. Mae'r data yn cwmpasu allforion a mewnforion.  

Oddi 31 Rhagfyr 2020, mae'r ffordd y mae CThEM yn casglu data masnach nwyddau wedi’u newid. Golygir toriad yn y gyfres amser ar gyfer ystadegau masnach gyhoeddedig y DU i'r UE ers mis Ionawr 2021, felly dylid trin cymariaethau hanesyddol yn ofalus (gweler Nodiadau).

Ebrill i Fehefin 2021 (dros dro)

Gall newidiadau tymor byr fod yn gyfnewidiol, cyflwynir y data dros dro yma o ystyried y diddordeb yn effeithiau Ymadael yr UE ar fasnach ers mis Ionawr 2021. Bydd cyfyngiadau COVID-19 a'r galw is oherwydd y dirywiad economaidd byd-eang hefyd wedi cael effaith sylweddol ar fasnach yn ystod y cyfnod hwn.

Allforion

  • Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021, amcangyfrifwyd gwerth allforion nwyddau oddi Gymru yn £3.6 biliwn.
  • Yng Nghymru, cynyddodd allforion i’r UE gan 17.4% a chynyddodd allforion i weddill y byd gan 11.5% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y cynydd ledled y DU ar gyfer allforion yr UE oedd 18.1% a chynyddodd allforion gweddill y byd gan 2.9%.
  • Gwelodd pob un o'r pedair gwlad cynydd mewn allforion i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cymru welodd y cynydd mwyaf o 15.1% ac yna Lloegr 10.1%, Gogledd Iwerddon 9.6% a’r Alban 3.7%.

Mewnforion

  • Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021, amcangyfrifwyd gwerth mewnforion nwyddau i Gymru yn £3.7 biliwn.
  • Cynyddodd mewnforion o’r UE i Gymru gan 3.4% tra cynyddodd mewnforion oddi gweddill y byd gan 6.3% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y cynydd ledled y DU mewn mewnforion o'r UE oedd 4.4% a chynyddodd mewnforion oddi gweddill y byd gan 9.6%.
  • Gwelodd tair gwlad y DU cynydd mewn mewnforion i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gogledd Iwerddon welodd y cynydd mwyaf o 23.6% ac yna Lloegr 8.4%, Cymru 5.1%. Welodd yr Alban gostyngiad o 1.4%.

Y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2021

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £13.5 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2021, i lawr £2.0 biliwn (13.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn yn gorffen Mehefin 2020.
  • Gwelwyd gostyngiadau o £1.1 biliwn (11.9%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gostyngiad o £0.9 biliwn (14.8%) i wledydd y tu hwnt i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 60.2% o allforion Cymreig o’i gymharu â 48.8% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 44.1% o allforion.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £14.4 biliwn yn y flwyddyn yn gorffen Mehefin 2021, i lawr £1.7 biliwn (10.5%) gymharu â'r yn gorffen Mehefin 2020.
  • Buodd cynydd o £0.2 biliwn (2.8%) mewn mewnforion o wledydd yr UE a gostyngiad o £1.8 biliwn (18.3%) mewn mewnforion o wledydd y tu hwnt i'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Mewnforion o'r UE oedd 42.5% o holl fewnforion Cymru o'i gymharu â 51.0% ar gyfer y DU.
  • Mae mewnforion i Gymru yn cael eu dominyddu gan 'Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth', sef 35.7% o fewnforion.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM (UK Trade Info) ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach rhyngwladol nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Mae canlyniadau allweddol yn cael eu cyhoeddi yn chwarterol, a mi fydd StatsCymru wedi’u diweddaru gyda’r ffigurau.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn adolygu ei ddadansoddiad a'i gyhoeddiad o ddata masnach Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gan gynnwys cynnwys y bwletin masnach nwyddau blynyddol.  Os hoffech fod yn rhan o adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.