Neidio i'r prif gynnwy

Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Mae'r data diweddaraf Masnach Rhanbarthol CThEM yn yr adroddiad yma ar gyfer y y flwyddyn y gorffen Mawrth 2021. Mae’r data'n ymdrin â chyfnod parhaus y pandemig coronafirws (COVID-19) yn ogystal â masnach chwarter gyntaf y blwyddyn yn dilyn ymadael y UE. Mae'r data yn cwmpasu allforion a mewnforion.  

Oddi 31 Rhagfyr 2020, mae'r ffordd y mae CThEM yn casglu ystadegau masnach mewn nwyddau wedi newid, gan arwain at doriad yn y gyfres amser ar gyfer ystadegau masnach cyhoeddedig y DU i'r UE o fis Ionawr 2021, felly dylid trin cymariaethau hanesyddol yn ofalus (gweler nodiadau).

Ionawr i Fawrth 2021 (dros dro)

Gall newidiadau tymor byr, chwarterol fod yn gyfnewidiol, er eu bod yn cael eu cyflwyno yma o ystyried y diddordeb yn effeithiau Gadael yr UE ar fasnach o fis Ionawr i fis Mawrth 2021, fodd bynnag bydd cyfyngiadau COVID-19 a'r galw is oherwydd y dirywiad economaidd byd-eang hefyd wedi cael effaith sylweddol ar fasnach yn yr adeg yma.

Allforion

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, gwerth allforion nwyddau oddi Gymru oedd £3.1 biliwn.
  • Yng Nghymru, gostyngodd allforion yr UE 8.3% a gostyngodd allforion nad ydynt yn rhan o'r UE 12.6% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y gostyngiad ledled y DU ar gyfer allforion yr UE oedd 15.8% a gostyngodd allforion gweddill y byd gan 8.1%.
  • Gwelodd pob un o'r pedair gwlad ostyngiadau mewn allforion o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gogledd Iwerddon welodd y gostyngiad mwyaf o 14.2% ac yna'r Alban 11.3%, Lloegr 11.0% a Chymru 10.0%.

Mewnforion

  • Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, buodd mewnforion nwyddau i Gymru gwerth £3.5 biliwn.
  • Gostyngodd mewnforion yr UE i Gymru gan 20.4% tra cynyddodd mewnforion gweddill y byd gan 3.5% o gymharu â'r chwarter blaenorol. Dros yr un cyfnod, y gostyngiad ledled y DU mewn mewnforion o'r UE oedd 26.3% a gostyngodd mewnforion gweddill y byd gan 8.0%.
  • Gwelodd pob un o'r pedair gwlad ostyngiadau mewn mewnforion o gymharu â'r chwarter blaenorol. Lloegr welodd y gostyngiad mwyaf o 16.3% ac yna Cymru 7.6%, Gogledd Iwerddon 4.5% a'r Alban 2.8%.

Y flwyddyn yn gorffen Mawrth 2021

Allforion

  • Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £12.6 biliwn, i lawr £4.7 biliwn (27.1%) o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
  • Gwelwyd gostyngiadau o £3.0 biliwn (28.6%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a gostyngiad o £1.7 biliwn (24.9%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 58.8% o allforion Cymreig o’i gymharu â 47.7% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 43.9% o allforion.

Mewnforion

  • Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £13.4 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, i lawr £4.4 biliwn (24.7%) gymharu â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020.
  • Bu gostyngiad o £0.8 biliwn mewn mewnforion o wledydd yr UE (12.1%) a gostyngiad o £3.6 biliwn (32.0%), mewn mewnforion o wledydd y tu allan i'r UE o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mewnforion o'r UE oedd 42.9% o allforion Cymru o'i gymharu â 51.9% ar gyfer y DU.
  • Mae mewnforion i Gymru yn cael eu dominyddu gan 'Offer Peiriannau a Thrafnidiaeth', sef 34.8% o fewnforion.

Nodiadau

Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEM ar yr ystadegau hyn.

Fe all rhywfaint o'r data allforion a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEM fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach rhyngwladol nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Cyhoeddir y canlyniadau allweddol bob chwarter. O ganlyniad i broblemau a nodwyd yn y data crai, bydd StatsCymru nawr yn cael ei ddiweddaru erbyn dydd Gwener 16 Mehefin. Yn y cyfamser mae'r data hefyd ar gael ar ‘UK Trade Info’.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn adolygu ei ddadansoddiad a'i gyhoeddiad o ddata masnach Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gan gynnwys cynnwys y bwletin allforio nwyddau blynyddol. Os hoffech fod yn rhan o adolygiad, neu roi unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, anfonwch e-bost at ystadegau.masnach@llyw.cymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.