Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cyllideb yr Hydref yn cynnwys tua £1bn o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gymru rhwng 2017-18 a 2020-21 - ond bydd yn rhaid ad-dalu mwy na hanner y cyllid hwnnw i Drysorlys y DU.

Mae Cyllideb y DU hefyd yn cynnwys £215m o gyllid refeniw ychwanegol ar gyfer y cyfnod o 2017-18 i 2019-20.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:

"Er ein bod yn croesawu'r cynnydd bach hwn mewn adnoddau i helpu i gefnogi'n blaenoriaethau yng Nghymru, ychydig iawn gall y cyllid ychwanegol hwn ei wneud i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen, sydd wedi bod yn cael trafferth ymdopi o ganlyniad i'r toriadau a welwyd i'n cyllideb, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ers 2010-11. 

“Hyd yn oed gyda'r cyllid ychwanegol hwn, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 5% yn is mewn termau real yn 2019-20 nag ydoedd yn 2010-11.”

O ganlyniad i'r mesurau a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw, bydd y cyllid y mae Cymru'n ei gael o'r grant bloc yn cynyddu. 

Ond bydd dros hanner y cynnydd hwn yn gyllid y mae'n rhaid ei ad-dalu i Drysorlys y DU. 

Mae £650m o'r cyllid cyfalaf ychwanegol ar ffurf trafodiadau ariannol - math o gyllid cyfalaf y mae'n rhaid ei ad-dalu i'r Trysorlys yw hwn, ac mae cyfyngiadau caeth ar ei wariant.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid bod y gyllideb hefyd wedi colli cyfle i ddarparu mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith i gefnogi'r economi yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cadarnhau bod economi'r DU wedi arafu'n sylweddol ac mae ei rhagolygon twf wedi'u hadolygu tuag at i lawr unwaith eto. 

“Yn fy llythyr diweddar at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, anogais Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar safbwynt y Gronfa Ariannol Ryngwladol a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i fanteisio ar gyfraddau llog isel a buddsoddi yn y seilwaith economaidd.

"Dyma'r rheswm dros alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymrwymo i brosiectau seilwaith pwysig yng Nghymru, gan gynnwys morlyn llanw Bae Abertawe. Unwaith eto, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu ag amddiffyn buddiannau Cymru drwy beidio â buddsoddi mewn prosiectau allweddol."

Ychwanegodd mai ychydig o fanylion a gafwyd yng Nghyllideb y DU ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i dorri'r cap ar gyflogau sector cyhoeddus a rhoi codiad cyflog haeddiannol i'r gweithwyr.

“Mae Llywodraeth Cymru, wrth ochr gweithwyr cydwybodol y sector cyhoeddus a'r undebau llafur, wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared â'r cap ar gyflogau sector cyhoeddus a gadael i weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig gael y codiad cyflog y maen nhw'n ei haeddu. Dywedais yn glir bod rhaid i hyn gael ei ariannu'n llawn. 

“Mae’r Gyllideb heddiw wedi colli cyfle i wneud hyn dros yr holl weithwyr sector cyhoeddus. Dros staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n aros am gasgliad y corff adolygu cyflogau annibynnol. Rwy’n disgwyl i’r Canghellor anrhydeddu ei ymrwymiad i ariannu unrhyw argymhellion cyflog yn llawn, a ddarparu cyllid canlyniadol llawn i Gymru yn ôl fformiwla Barnett.” 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fod angen trafodaethau rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ynghylch bwriad Llywodraeth y DU i ystyried treth ar blastig - mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar dreth ar ddeunyddiau plastig untro fel un o bedwar syniad am drethi newydd.

"Rwy'n falch iawn o weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dilyn ein hesiampl wrth ystyried sut i ddefnyddio trethi i newid ymddygiad mewn meysydd fel deunydd plastig untro. 

"Cyhoeddais dreth ar ddeunydd plastig untro fel rhan o restr fer o drethi posib ym mis Hydref. Rwy'n disgwyl trafod hyn yn fanwl gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig fel rhan o'r broses o gasglu tystiolaeth."