"Er nad yw cyhoeddiad heddiw yn mynd mor bell ag oeddem yn ei ddymuno, mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn gwneud rhywfaint i adfer y toriadau a welwyd i’n cyllideb cyfalaf."

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Roedd Datganiad yr Hydref yn cynnwys dros £400m o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gymru rhwng 2016-17 a 2020-21 a £35.8m o gyllid refeniw rhwng 2016-17 a 2019-20 – mae hyn yn cynnwys £20m o gyllid a gyhoeddwyd yn flaenorol o ganlyniad i’r ardoll brentisiaethau.    

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:  

“Rydyn ni fel Llywodraeth wedi bod yn gwbl glir am bwysigrwydd buddsoddi yn seilwaith Cymru – yn y cyfnod ansicr sydd ohoni, mae hyn yn bwysicach nag erioed. Dyma pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi hwb i fuddsoddiad er mwyn cefnogi twf economaidd.  

“Er nad yw cyhoeddiad heddiw yn mynd mor bell ag oeddem yn ei ddymuno, mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn gwneud rhywfaint i adfer y toriadau a welwyd i’n cyllideb cyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf.

“Y mis diwethaf, cyhoeddwyd ein cynlluniau gwariant cyfalaf pedair blynedd i roi sylfaen gadarn i economi Cymru ac i baratoi ar gyfer y blynyddoedd anodd o’n blaen. Bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol yn darparu adnoddau ychwanegol i’n galluogi i barhau i fuddsoddi mewn seilwaith newydd, creu swyddi a sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol.

“Byddwn yn ystyried sut i ddefnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i gefnogi’n blaenoriaethau o ran buddsoddi, sydd wedi’u gosod yn Symud Cymru Ymlaen, ac fe fyddwn yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos.”

Ychwanegodd yr Athro Drakeford:

“Mae’r newidiadau refeniw yn rai mân iawn, a rhaid eu hystyried yng nghyd-destun gostyngiad o 8% mewn termau real i’n Cyllideb ers 2010. Mae’n siomedig nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymryd y cyfle hwn i roi diwedd ar y polisi o gyni, sydd mor niweidiol, a rhoi hwb y mae dirfawr ei angen i wasanaethau cyhoeddus sydd mor brin o arian.

“Mae Cymru wedi dangos bod dewis arall yn lle cyni. Yn ein Cyllideb ddrafft fis diwethaf, darparwyd sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan barhau i’w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf agenda cyni parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni wedi pwysleisio droeon bwysigrwydd Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe a bargen dwf Gogledd Cymru. Mae trafodaethau’n parhau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y ddwy. Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig symud ymlaen gyda’r bargeinion pwysig hyn nawr i fanteisio’n llawn ar eu potensial.”