Neidio i'r prif gynnwy

Bydd datganoli pwerau trethu yn allweddol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol dywedodd Mark Drakeford, wrth iddo amlinellu ei weledigaeth ar gyfer datganoli cyllidol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O 2018 ymlaen, bydd Cymru yn codi ei harian ei hun i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus, a hynny am y tro cyntaf mewn bron 800 mlynedd, wrth i dreth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi gael eu datganoli.  

Fel rhan o raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru am y flwyddyn i ddod, bydd dau Fil – Treth Trafodiadau Tir (LTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) – yn cael eu cyflwyno er mwyn gwireddu potensial llawn y trethi datganoledig hyn. 
Yn ei ddatganiad cyntaf i’r Cynulliad Cenedlaethol ar ddatganoli cyllidol, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu’r camau nesaf yn y broses o ddatganoli pwerau trethu. Bydd y rhain yn cynnwys:
  • Cyhoeddi fersiwn ddrafft o Fil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) cyn iddo gael ei gyflwyno yn yr hydref;
  • Cyhoeddi ymgynghoriad technegol buan ar y gyfradd ychwanegol ar ail dai yn y Dreth Trafodiadau Tir. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad i ymgyngynghori'n eang yn ystod y misoedd nesaf ar y meysydd polisi allweddol sy’n gysylltiedig â’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi;
  • Arwain trafodaethau â Thrysorlys y DU er mwyn sicrhau fframwaith cyllidol teg i Gymru;
  • Bwrw ymlaen â’r gwaith o sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, gan gynnwys penodi cadeirydd yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd Mark Drakeford yn dweud: 
“Pan fydd treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi yn cael eu datganoli i Gymru yn 2018, bydd Llywodraeth Cymru yn codi ei harian ei hunan i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus, a hynny am y tro cyntaf mewn bron 800 mlynedd.
“Mae hon yn garreg filltir bwysig yn ein taith ar hyd llwybr datganoli, ac yn newid arwyddocaol yn y ffordd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu hariannu.
“Mae gwaith mawr ar y gweill yn barod i baratoi ar gyfer y pwerau trethu hyn. Bydd trethi Cymru yn deg ac mor syml â phosib; byddant yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr ac yn hybu twf a swyddi. Mae ein cynigion wedi’u cynllunio i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ac, yn bwysicaf oll, i adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau Cymru.” 

Bydd datganoli pwerau trethu yn golygu y bydd gostyngiad cyfatebol yng ngrant bloc Cymru, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau fframwaith cyllidol teg i Gymru.
Bydd yn dweud: 

“Rwyf eisoes yn trafod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys fel bod modd cael fframwaith cyllido a fydd yn sicrhau na fydd Cymru ar ei cholled.
“Byddaf hefyd yn gofyn am eglurhad manwl ynglŷn â’r modd y bydd llawr cyllido yn gweithio – mater sy’n cael ei godi’n rheolaidd gan Aelodau ar draws Siambr y Cynulliad. Bydd fframwaith cyllidol synhwyrol yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno cyfraddau treth incwm Cymreig - penderfyniad a ddylai barhau i fod yn gyfrifoldeb i’r Cynulliad.“Bydd datganoli trethi yn rhoi’r cyfle i Gymru edrych ar ei chyllid mewn modd mwy cyfannol, integredig a hirdymor. Bydd yn gyfle i gynnwys pobl mewn penderfyniadau am lefelau a graddau’r broses o godi refeniw, ac yn gyfle hefyd iddynt gyfrannu at benderfyniadau ynghylch sut y dylid gwario’r arian.”