Mark Drakeford wedi pennu amserlen ar gyfer sgyrsiau ar ddiwygio llywodraeth leol i gynghorau ddefnyddio i baratoi ar gyfer y dewisiadau caletach sydd o'n blaenau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mewn araith i gynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, galwodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol ar gynghorau i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac i gynnal y momentwm ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol newydd. 

Dywedodd Mark Drakeford:

"Rwyf wedi clywed am effaith andwyol yr ansicrwydd hwnnw ar ein cynghorau ac rwyf yn ymwybodol o'r ffaith nad ydym wedi llwyddo i gytuno ar ffordd ymlaen yn y gorffennol. 

"Rwyf bellach wedi nodi set newydd o gynigion yn seiliedig ar lefel uwch o weithio rhanbarthol systematig a gorfodol. Credaf ein bod i gyd yn ymwybodol bod risg gwirioneddol i enw da llywodraeth leol os na allwn fwrw ymlaen â’r cynigion hyn. Ni allwn fforddio camu'n ôl. Dyna pam y byddaf yn cyfarfod â chi i gyd dros yr wythnosau nesaf er mwyn inni ddod i gonsensws erbyn diwedd y flwyddyn galendr.

"Caiff hyn ei ddilyn hyn gan ymgynghoriad ffurfiol ym mis Ionawr, a ddaw i ben cyn etholiadau Llywodraeth Leol y flwyddyn nesaf. Os cawn y broses yn iawn, yna byddwn yn gallu symud yn gyflym tuag at Fil Llywodraeth Leol newydd a fydd yn galluogi Llywodraeth Leol i fynd i'r afael â heriau sylweddol sydd o'n blaenau sef cyni parhaus, galw cynyddol am rai gwasanaethau, disgwyliadau uwch o du’r cyhoedd a Brexit.

“O edrych ar y darlun ehangach, mae angen inni gofio pam mae diwygio mor bwysig a'r rheswm yw hyn: mae llywodraeth leol yn gwneud gwahaniaeth o bwys. Mae cynghorau’n darparu’r gwasanaethau sy'n cyffwrdd â bywydau pawb bob dydd: sef addysgu ein plant, gofalu am ein pobl oedrannus, gwaredu ein gwastraff neu oleuo ein strydoedd. Dyna pam mae angen inni greu perthynas newydd rhwng y cyhoedd a'u cynghorau lleol.

"Os ydym am wneud hyn, yna mae angen newid diwylliannol. Diwygiadau digon heriol yw’r diwygiadau sydd gennym mewn golwg rwy’n siŵr, ond os ydym yn edrych yn ôl ar fywyd gwaith y bobl yn yr ystafell hon yn y gorffennol, rydym wedi gweld newidiadau diwylliannol enfawr yn y ffordd y mae ein cynghorau’n gweithio. Er enghraifft, dri deg o flynyddoedd yn ôl fyddai neb wedi meddwl y byddem yn ailgylchu yng Nghymru ar y raddfa sy’n digwydd heddiw. Os llwyddwn i wneud i’r trefniadau rhanbarthol hyn weithio, bydd hynny nid yn unig yn gwneud gwasanaethau yn fwy cynaliadwy ond hefyd yn gosod cynsail at y dyfodol ar gyfer gwneud pethau mewn ffordd wahanol ac yn well.

"Yn y cyfamser, rwyf am i’r awdurdodau lleol ddefnyddio’r deunaw mis nesaf i feddwl am y pwysau y byddant yn eu hwynebu yn y dyfodol. Nod setliad llywodraeth leol y mis diwethaf oedd rhoi rhywfaint o’r sefydlogrwydd y mae ei angen mewn cyfnod heriol; man cychwyn ar gyfer cynllunio am y dewisiadau anodd sydd o'n blaenau. Dyna pam cafwyd y cynnydd cyntaf yn setliad llywodraeth leol ers 2013-14. O dan yr arian gwaelodol a gyflwynwyd gennym, ni fydd rhaid i unrhyw gyngor ymdopi â llai na 99.5% o'r arian parod a roddwyd iddynt y llynedd. 

"Hoffwn ddiolch i arweinwyr yr awdurdodau lleol am y sgyrsiau adeiladol a gawsom dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Rwyf am weld dechrau newydd yn ein perthynas â llywodraeth leol ac rwyf yn awyddus inni symud ymlaen gyda'n gilydd. Er mwyn gwneud hyn rhaid inni ddatblygu ymddiriedaeth, parodrwydd i weithio gyda'i gilydd ac i gyfaddawdu, yn ogystal â pharchu ein priod rolau neilltuol iawn wrth wella canlyniadau i bobl Cymru."