Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford yn cyfarfod â Banc Buddsoddi Ewrop i drafod cyfleoedd i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio'n agos gyda'r Banc er mwyn nodi cyfleoedd cyllido ar gyfer cynlluniau sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru; gan gynnwys buddsoddi yn adrannau pump a chwech o'r A465; ailddatblygu Canolfan Ganser Felindre;  band B o'r rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif a'r Grant Cyllid Tai 2 (HFG2).

Bydd yr Athro Drakeford ac Is-lywydd y Banc, Jonathan Taylor yn edrych ar opsiynau buddsoddi drwy Gynllun Buddsoddi Ewrop, gan gynnwys y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Strategol (EFSI) gwerth €315bn. Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd yn trafod perthynas Llywodraeth Cymru gyda'r Banc yn y dyfodol pan fydd y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod ei ymweliad â Chymru, bydd Mr Taylor yn cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, er mwyn trafod y potensial i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy. Bydd y rhaglen HFG2 yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy newydd yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Ac fe fydd yr Ysgrifennydd Cyllid, yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething a Mr Taylor yn ymweld ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre er mwyn gweld y cynlluniau ar gyfer Canolfan Ganser newydd Felindre - mae'r ganolfan yn rhan ganolog o gynllun gwerth £230m i drawsnewid y ddarpariaeth o wasanaethau gofal canser ar draws y de, ac mae'n un o'r cynlluniau y mae'r Banc wedi'u nodi fel blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi yng Nghymru.

Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn fuddsoddwr gweithredol yn economi Cymru, ac mae wedi buddsoddi bron i £2bn dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mewn amrywiol brosiectau sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys y diwydiannau dŵr, hedfan a moduro, a'r stoc dai. 

Dywedodd yr Athro Drakeford:  

"Rwy'n falch iawn o groesawu Jonathan Taylor i Gaerdydd i drafod y cynnydd a wnaed gyda'r cynlluniau hyn, sy'n cael eu datblygu ar draws Cymru. Mae hefyd yn gyfle i drafod sut mae Llywodraeth Cymru yn gweld ei pherthynas yn y dyfodol gyda'r Banc ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

"Rydyn ni'n wynebu newidiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen i gyllid cyhoeddus, felly mae'n hanfodol bwysig i ni fanteisio ar bob cyfle i roi hwb i fuddsoddiadau mewn seilwaith yng Nghymru. Fel llywodraeth, rydyn ni'n canolbwyntio ar ddenu buddsoddiad o'r Banc i'n cynlluniau ariannu blaengar gwerth £2.5bn, gan gynnwys prosiectau ar gyfer tai fforddiadwy, trafnidiaeth, iechyd a thwf gwyrdd. 

"Mae Cymru eisoes yn elwa'n sylweddol o'n perthynas hir gyda Banc Buddsoddi Ewrop, ac rydyn ni am weld hyn yn parhau ar ôl Brexit. Mae'n Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru yn gosod cynllun ymarferol ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar y Deyrnas Unedig i barhau i fod yn bartner i'r banc."

Dywedodd Jonathan Taylor, Is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop: 

"Mae gan Fanc Buddsoddi Ewrop brofiad cadarn o gefnogi buddsoddiadau tymor hir ar draws Cymru gan gynnwys cynlluniau trawsnewidiol ym maes addysg, dŵr, ynni, trafnidiaeth a thai cymdeithasol. 

"Mae'n hanfodol cydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid busnes ar draws Cymru er mwyn i’r gwaith gyda'r Banc gael yr effaith fwyaf bosib." 

Dywedodd Steve Ham, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth y GIG Felindre: 

"Mae'r Ymddiriedolaeth yn falch iawn o gael croesawu'r ddau Ysgrifennydd Cabinet a Jonathan Taylor.

"Bydd yr ymweliad yn gyfle ardderchog i dynnu sylw at y cynnydd a wnaed, gyda'n cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd, i ddatblygu cynlluniau ar gyfer Gwasanaethau Canser nad ydynt yn llawfeddygol ar draws y de-ddwyrain, a rôl allweddol y Ganolfan Ganser wrth ddarparu'n gwasanaethau yn y dyfodol."