Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford yn croesawu'r Gweinidog dros Drafodaethau’r DU ar Sefyllfa yr Alban yn Ewrop o Lywodraeth yr Alban, Mike Russell ASA i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y ddau weinidog yn trafod sut y bydd y ddwy wlad yn parhau i gydweithio i gael y fargen Brexit orau i Gymru a'r Alban wrth i'r DU negodi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod y cyfarfodydd, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn tanlinellu pwysigrwydd cronfeydd yr UE i Gymru a gweddill y DU a'r angen i sicrhau nad yw'r gweinyddiaethau datganoledig ar eu colled o ganlyniad i Brexit.

Bydd Grŵp Cynghori ar Ewrop Llywodraeth Cymru, sy'n dwyn ynghyd unigolion â phrofiad ac arbenigedd o ddelio â materion Ewropeaidd o'r sectorau gwleidyddol a chymdeithas ddinesig, yn cyfarfod yng Nghaerdydd yn ddiweddarach heddiw. Bydd Mr Russell yn mynd i'r cyfarfod ac yn ymweld â champws newydd y Bae ym Mhrifysgol Abertawe a ariannwyd gan yr UE.

Dywedodd yr Athro Drakeford: 

"Rwy'n falch iawn o groesawu Mike Russell i Gymru i drafod sut y gallwn ni barhau i gydweithio i gael y fargen Brexit orau i Gymru a'r Alban. Mae hefyd yn gyfle inni ddangos yn uniongyrchol sut y mae pobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru wedi elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd.

"Bydd Mike Russell yn ymweld â champws newydd y Bae ym Mhrifysgol Abertawe heddiw, a dyma enghraifft o'r gwahaniaeth y mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi'i wneud i'n sector addysg uwch, sef creu cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr a darparu hwb gwirioneddol i'r economi leol.

"Dyna pam rydyn ni wedi bod yn glir o'r dechrau bod yn rhaid inni gael y fargen Brexit orau i Gymru a sicrhau nad ydyn ni'n colli ceiniog o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd."