Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn ymweld â Brwsel i gyfarfod â Guy Verhofstadt, yr Aelod o Senedd Ewrop sy’n gweithredu fel negodydd Senedd Ewrop ar Brexit.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros ddau diwrnod, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyfarfod â Syr Tim Barrow, Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig (DU) yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ffigurau allweddol o Senedd Ewrop. Bydd hefyd yn cymryd rhan mewn panel ar gyfer y cenhedloedd ar Brexit, a fydd yn cael ei gynnal gan Ganolfan Bolisi Ewrop a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, ynghyd â Mike Russell, Gweinidog Brexit Llywodraeth yr Alban. 

Yn ystod y cyfarfodydd, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn tynnu sylw at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit – gan gynnwys pwysigrwydd cadw mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl, mabwysiadu agwedd synhwyrol tuag at fudo sy’n diogelu economi Cymru a chael cyfnod pontio er mwyn osgoi syrthio dros ymyl y dibyn.

Mae’r cyfarfodydd yn gyfle i feithrin perthynas uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru ac arweinwyr yr UE a meithrin dealltwriaeth well o safbwynt negodi’r UE.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mark Drakeford: 

“Ymadael â'r UE yw pwnc llosg ein cyfnod, ac yn haeddiannol felly, gan y bydd y penderfyniadau a wneir yn awr yn effeithio ar Gymru am ddegawdau i ddod.

“Gan ddod ar ddiwedd y cylch diweddaraf o drafodaethau Brexit, a chyn y penderfyniad tyngedfennol yr wythnos hon gan y Cyngor Ewropeaidd a fydd modd parhau i drafod trefniadau masnachu, mae’r ymweliad heddiw yn amserol iawn. 

“Mae hwn yn gyfle imi egluro ein blaenoriaethau ar gyfer bargen sy’n gweithio i Gymru, y DU a gweddill y 27 o wledydd sy’n rhan o negodiadau Brexit, sy’n cael eu hadnabod fel 27 yr UE.

“Rydyn ni’n clywed adroddiadau sy’n codi braw, yn awgrymu bod dim bargen yn opsiwn hyfyw. Camsyniad peryglus iawn yw hynny. Methiant trychinebus fyddai troi cefn ar y trafodaethau a byddai gwneud hynny yn cael yn cael effaith enbyd o safbwynt economaidd, cymdeithasol ac o ran diogelwch.

 “Mae’n bwysicach nawr nag erioed fod y trafodaethau pontio rhwng y DU a 27 yr UE yn dechrau cyn gynted ag y bo modd. Mae hyder ymhlith busnesau yn dioddef yn barod oherwydd yr ansicrwydd. 

“Mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i gymryd camau i weithredu ar y cyflwyniad cadarnhaol a gafwyd yn araith Fflorens gyda chynigion manwl ar y materion sy’n gysylltiedig ag ymadael. Er mwyn diogelu anghenion busnesau a dinasyddion ac osgoi syrthio oddi ar y dibyn, yr unig opsiwn hyfyw yw neilltuo dwy flynedd o leiaf ar gyfer datrys yr holl faterion sy’n weddill.

“Fel llywodraeth, byddwn bob amser eisiau gweld y canlyniad gorau i Gymru ac i economi Cymru. Yn y tymor byr, canolig a’r hirdymor, rydyn ni’n credu mai’r unig ffordd o gyflawni hyn yw drwy sicrhau bod gennym berthynas mor agos â phosibl â’r farchnad sengl.

“Rydyn ni’n dal i alw ar lywodraeth y DU i roi tystiolaeth gadarn pam y byddai’n fanteisiol yn y tymor hwy i’r DU fod y tu allan i undeb tollau gyda’r UE.

“Mae Ewrop yn un o’n partneriaid masnachu mwyaf, a’n cymydog agosaf ac rydyn ni’n rhannu ffin â nhw. Ni all ein rhwymau economaidd gael eu torri y diwrnod y byddwn ni’n ymadael â’r UE. Mae’n hanfodol bod pob rhan o’r DU a’r UE yn gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n diwallu ein hanghenion ni i gyd.”