Margaret Ogunbanwo Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Maggie’s An African Twist to Your Everyday Dish®
Margaret Ogunbanwo yw Prif Swyddog Gweithredol Maggie’s An African Twist to Your Everyday Dish®.
Graddiodd Margaret o Brifysgol Lagos yn Nigeria gyda Bsc (Anrh) mewn Microbioleg. Dilynodd Diploma Ôl-raddedig mewn Rheoli Lletygarwch, yn ogystal â TAR yn ei Harbenigedd Bwyd.
Mae hi wedi dal sawl swydd reoli yn y diwydiant bwyd a'r tu allan iddo. Wedyn symudodd hi ymlaen i sefydlu a rhedeg ei busnesau ei hun.
Ers hynny mae hi wedi bod yn gysylltiedig â maes arlwyo a hyfforddi. Sefydlodd hi Maggie’s Exotic Foods yn 1997 ac mae hi wedi bod yn rhedeg y cwmni ers hynny. Mae ganddi brofiad yn y meysydd canlynol:
- manwerthu
- dosbarthu
- hyfforddiant ar gyfer Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH)
- logisteg
- arlwyo bwyd ethnig
Mae Margaret hefyd wedi cyfrannu at:
- helpu
- cefnogi
- datblygu
busnesau bach a phrosiectau, yn benodol gyda’r gymuned ddu a lleiafrif ethnig.
Ers symud i ogledd Cymru mae hi wedi bod yn rhedeg sefydliad arlwyo. Sefydlodd Margaret Maggie’s An African Twist to Your Everyday Dish®, ac ar hyn o bryd hi yw’r Prif Swyddog Gweithredol.
Mae Margaret wedi dysgu Cymraeg i safon dderbyniol. Hi hefyd yw awdur “100 Things I Wish My Mother Had Told Me”.