Marco Gil-Cervantes Aelod
Mae Marco wedi arwain ProMo-Cymru i fod yn fenter gymdeithasol flaenllaw gydag ethos cydweithredol.
Ei arbenigedd yw economeg gymdeithasol, democratiaeth ddiwylliannol, gwaith ieuenctid a grymuso lleisiau ymylol.
O dan arweinyddiaeth Marco, mae ProMo-Cymru wedi datblygu ystod amrywiol o brosiectau blaengar, trawsnewidiol ac arloesol, gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc a chymunedau.
Mae ProMo-Cymru wedi datblygu a darparu Llinell Gymorth Meic ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru ers dros 10 mlynedd, wedi achub ac ailagor Institiwt Glynebwy, yr hynaf yng Nghymru, fel canolfan ar gyfer gwybodaeth, addysg ac adloniant i ieuenctid a’r gymuned, a chwaraeodd ran bwysig hefyd mewn datblygiadau digidol o ran gwybodaeth ieuenctid yng Nghymru ac Ewrop.
Mae Marco yn aelod gweithredol hirsefydlog ac yn drysorydd i Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, mae’n Gadeirydd Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru, Cyd-gadeirydd y Grŵp Cynrychioli Strategol Gwaith Ieuenctid ar y cyd ac yn aelod o Grŵp Llywio Cynghrair Hil Cymru.
Cafodd Marco ei eni yn Andalwsïa yn Sbaen a daeth i Gymru yn 4 oed gyda'i rieni Andalwsaidd sy’n caru fflamenco.
Mae Marco’n chwarae Rygbi Cyffwrdd ac mae wedi chwarae dros Gymru mewn timau hŷn mewn un Cwpan y Byd a thri Thwrnamaint Cwpan Ewrop. Mae'n chwarae offerynnau taro mewn bandiau ac yn gwneud llawer iawn o feicio.