Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i ddenu mwy o bobl i fod yn athrawon drwy ymgyrch recriwtio ddiweddaraf Addysgu Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ymgyrch ddigidol yn targedu’r graddedigion sydd fwyaf tebygol o fynd i addysgu, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, pobl sy'n ystyried newid gyrfa ac israddedigion sy'n siarad Cymraeg ac yn astudio pynciau blaenoriaeth. 

Fel rhan o fenter ehangach gan y Llywodraeth i ddenu a chadw athrawon, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mewn porth ar-lein ar gyfer hysbysebu swyddi addysgu yng Nghymru fydd yn arbed miliynau o bunnoedd i awdurdodau lleol ac ysgolion bob blwyddyn. Bydd y gwaith a wneir gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn canolbwyntio ar ddatblygu gwefan Darganfod Addysgu fel lle gall athrawon newydd a chyfredol ddod o hyd i swyddi a chael cymorth i ddatblygu eu gyrfa yn y tymor hir. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn datblygu gweithlu addysgu rhagorol, i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm ysgol newydd, sydd i'w gyflwyno mewn ysgolion o 2022. Mae hyn yn cynnwys recriwtio athrawon newydd a gwella datblygiad proffesiynol, gan weithio gydag undebau a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â llwyth gwaith athrawon. 

Bydd cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) newydd o fis Medi eleni yn golygu mwy o gydweithio rhwng prifysgolion ac ysgolion, gydag athrawon dan hyfforddiant yn treulio mwy o amser mewn ysgolion. Mae'r Brifysgol Agored wedi'i chomisiynu i ddatblygu cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) newydd a llwybrau i addysgu sy'n seiliedig ar gyflogaeth. Bydd y ddau gynllun yn ceisio gwella mynediad i hyfforddiant athrawon ledled Cymru, gan gynnwys mewn lleoliadau mwy anghysbell, yn ogystal â chynorthwyo pobl sydd â chyfrifoldebau gwaith a gofal neu ymrwymiadau eraill.   

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhellion ariannol i ddenu'r graddedigion gorau i'r byd addysgu, gyda hyd at £20,000 ar gael i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf, gradd Meistr neu PhD i hyfforddi i addysgu mathemateg, cemeg, ffiseg, Cymraeg neu TG. Mae hyd at £15,000 ar gael i astudio i addysgu ieithoedd tramor modern. 

Mae £3,000 ar gael i athrawon dan hyfforddiant sydd â gradd dosbarth cyntaf neu ôl-radd i addysgu pynciau uwchradd eraill neu ar lefel gynradd. Mae £3,000 hefyd ar gael i raddedigion sydd â gradd dosbarth cyntaf, gradd Meistr neu PhD sy'n dilyn cwrs TAR i addysgu Cymraeg, Saesneg, mathemateg neu wyddoniaeth lefel gynradd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn anelu at gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg. Mae hyd at £5,000 ar gael trwy Iaith Athrawon Yfory i fyfyrwyr sy'n mynd ymlaen i addysgu yn y Gymraeg, sy'n golygu y gallai myfyriwr AGA cymwys elwa ar gyfanswm cymhelliant o £25,000.

O fis Awst eleni, gall athrawon dan hyfforddiant o Gymru sy'n dilyn cwrs AGA gael hyd at £17,000 mewn grantiau a benthyciadau, sef y pecyn cyllid myfyrwyr mwyaf hael yn y DU. 

Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi bod yn teithio ar draws Cymru dros yr wythnosau diwethaf, gan glywed gan athrawon dan hyfforddiant beth oedd yn eu denu i yrfa o flaen y dosbarth. 

Meddai Kirsty Williams:

"Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn athro yng Nghymru. Rydym newydd gyhoeddi drafft o’r cwricwlwm newydd, sydd wedi'i gynllunio gan athrawon, ac yn eu galluogi i fod yn greadigol yn y ffordd maent yn darparu eu gwersi. 

"Mae angen mwy o athrawon mewn ardaloedd penodol, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd ac mewn pynciau fel mathemateg, gwyddoniaeth, Cymraeg, TG ac ieithoedd tramor modern. Yn 2019, mae mwy o opsiynau gyrfa nag erioed ar gael i raddedigion a gweithwyr proffesiynol, felly mae'r farchnad lafur wedi dod yn fwyfwy cystadleuol. 

"Fel Gweinidog Addysg, byddaf yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru ac yn cwrdd ag athrawon bob wythnos. Mae gennym weithlu amrywiol ac mae plant ledled Cymru ar eu hennill o ddydd i ddydd yn sgil ymrwymiad ein hathrawon ymroddedig.

"Nid un model penodol sydd yna o’r hyn a ddylai fod yn wir am athro, ac ni ddylai fod model o’r fath. Rydym yn chwilio am bobl o bob cefndir sydd â'r ddawn a'r dyhead, sy'n barod i ymuno â'n gweithlu sy’n perfformio i lefel uchel, gan godi safonau ar gyfer ein holl ddisgyblion. "

"’Rwy’n annog unrhyw un sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael, i weld a oes gennych yr hyn sydd ei angen i lwyddo yn yr yrfa yma sy’n dod â chymaint o foddhad."

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn athro yng Nghymru, ewch i: https://www.darganfodaddysgu.cymru/

Astudiaethau achos

O gynorthwyydd addysgu i athrawes - Olivia

Ar ôl cwblhau ei gradd mewn Saesneg a Chelf Gain ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, doedd Olivia Davies ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf. Roedd yn gwybod ei bod am weithio gyda phlant, ond ddim yn siŵr sut na ble i ddechrau. Cyn hyfforddi i fod yn athrawes, bu Olivia’n gweithio fel cynorthwyydd dosbarth am ddwy flynedd.  

Dywedodd Olivia: 

"Siaradodd fy mhennaeth â mi am fy mhotensial a chefais fy annog i hyfforddi i fod yn athro fy hun. Gallwn ennill cyflog tra’n hyfforddi yn yr un ysgol. A chan fod gen i radd eisoes, byddai ond yn cymryd blwyddyn."

"Rwy'n hoff iawn o'r cyfrifoldeb o fod yn athro! Rwy'n gallu bod yn gyfrifol am fy ngwersi a chynllunio'r hyn rwy'n mynd i’w addysgu. Galla’i hyd yn oed weithio gyda'r plant i gael gwybod beth hoffen nhw ddysgu amdano hefyd. Cael yr annibyniaeth honno a'r gallu i fod mor greadigol yw un o fy hoff bethau am fod yn athro."

"Mae addysgu’n broffesiwn sydd wir yn dod â phobl at ei gilydd. Mae pawb yn y swydd oherwydd maent wrth eu bodd yn helpu plant ac yn gweithio'n greadigol gyda phobl eraill. Rydych chi'n cael cymaint o brofiad a chyfleoedd – nid yw'r un diwrnod yn un peth a’r llall ac mae cymaint o amrywiaeth fel na allech chi fyth ddiflasu.

"Alla’i ddim meddwl am swydd arall lle mae cymaint o deimlad da am yr hyn rydych yn ei wneud. Mae'n gwbl bosib – peidiwch â bod ofn rhoi cynnig arni, achos rydych chi wir yn gallu’i wneud!"

O'r swyddfa i'r ystafell ddosbarth – Ceri

Wedi ei eni a'i fagu yn Aberystwyth, cychwynnodd Ceri John ar yrfa eang a oedd yn cynnwys amrywiaeth o swyddi. Ond roedd wastad ganddo’r awydd i addysgu, a diolch i gymhellion Llywodraeth Cymru a'i gariad at Ffrangeg, mae bellach yn athro. Pwnc Ceri yw Ieithoedd Tramor Modern, yn arbenigo mewn Ffrangeg. 

Dywedodd Ceri: 

"Fe wnes i fwynhau fy swyddi yn y gorffennol yn fawr iawn, ond roeddwn i wastad yn  teimlo fy mod i wir eisiau addysgu – y cwestiwn mawr oedd sut i fynd ati. Dysgais y gallwn hyfforddi wrth gael fy nghyflogi, felly byddwn yn cael cyflog - ffactor pwysig o ystyried bod gennyf deulu ifanc ar y pryd.

"Rwy'n credu bod gen i fantais achos fy mod i'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae fy myfyrwyr yn gallu sgwrsio mewn mwy nag un iaith yn barod. Un iaith arall yw Ffrangeg iddyn nhw – dydy’r peth ddim yn codi ofn arnyn nhw.

"Mae'n rhaid i mi ddweud bod y teithiau dramor yn wych hefyd, er yn gyfrifoldeb mawr. Mae'n gymaint o gyffro gweld eich myfyrwyr yn cynnal sgwrs gyda pherson lleol ar stryd ym Mharis, neu'n archebu pryd o fwyd mewn bwyty. 

"Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried bod yn athro fyddai iddyn nhw wneud eu gwaith ymchwil. Mae amryw o gymhellion ar gael, felly edrychwch beth sy'n gweithio i chi. Ond gallaf ddweud yn onest na fyddwch yn difaru – mae’n gymaint o yrfa werth chweil. Mae wedi bod yn un o benderfyniadau gorau fy mywyd."

O fyfyriwr i athro – Vicky

Mae Vicky Williams yn hyfforddi i fod yn athrawes ym Mhrifysgol Bangor ac yn gobeithio trosglwyddo ei hangerdd am Fioleg i fyfyrwyr yng Nghymru. Yn wreiddiol o Durham ac yn aelod o gymuned y teithwyr, mae bellach yn siarad Cymraeg yn hyderus ac yn edrych ymlaen at sefyll o flaen dosbarth o fyfyrwyr.

Dywedodd Vicky:

"Fe ddes i i Fangor yn wreiddiol i astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol. Nid yw'n arferol i aelodau o deuluoedd sy'n deithwyr ddilyn gyrfa academaidd, felly mae'n debyg fy mod yn hollol unigryw yn yr ystyr fy mod wedi dod mor bell â hyn, ond rwy'n ei fwynhau gymaint. "

"Ar ôl i mi raddio, doeddwn i ddim yn rhy siŵr beth roeddwn i eisiau ei wneud nesaf. Gweithiais am gyfnod fel ymgynghorydd colli pwysau yn rhan amser, a roddodd fwy o hyder imi gan fod rhaid imi sefyll o flaen pobl a chyflwyno gwybodaeth a'u helpu. Rwy'n credu bod hynny wedi fy helpu i benderfynu bod yn athro, achos roeddwn wrth fy modd yn defnyddio'r sgiliau hynny."

"Es i nôl i'r brifysgol, ond y tro hwn i wneud cwrs TAR. Rwy'n ffodus i allu gwneud fy nghwrs hyfforddi ym Mhrifysgol Bangor am fy mod eisoes wedi syrthio mewn cariad gyda'r ardal fel myfyriwr y tro cyntaf, felly roeddwn yn gwybod mai dyna lle byddwn am ddechrau fy ngyrfa fel athro. "

"Rwy'n teimlo'n gryf y dylai plant a phobl ifanc gael y profiad gorau posibl yn yr ysgol, i'w helpu nhw yn nes ymlaen yn eu bywydau, ac rwyf am drosglwyddo fy angerdd dros fy mhwnc iddyn nhw, yn enwedig myfyrwyr benywaidd eraill. Mae ymchwil yn dangos bod cysylltiad rhwng plant sy'n astudio pynciau gwyddonol ac aelwydydd lle mae'r fam yn ymddiddori mewn gwyddoniaeth. Ac mae gen i ddyhead i annog teuluoedd i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth er mwyn i’r peth ddod yn fwy o ddatblygiad naturiol i bobl ifanc, yn lle bod yn bwnc 'brawychus'."