Cyfres o fapiau sy'n dangos nifer a chanran yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru
Y prif ffynonellau o ddata a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r mapiau hyn oedd Arolwg Byw yng Nghymru 2004 a Chyfrifiad 2001. Roedd Arolwg Byw yng Nghymru 2004 yn nodi nodweddion yr aelwydydd oedd yn fwyaf tebygol o ddioddef tlodi tanwydd. Defnyddiwyd Cyfrifiad 2001 i roi’r aelwydydd hyn sy’n dioddef o dlodi tanwydd mewn trefn yn ôl ardaloedd daearyddol.
Mae’r mapiau hyn yn annhebygol o adlewyrchu’n gywir lefel tlodi tanwydd heddiw ond mae’n annhebygol bod crynhoad y gymhariaeth o aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd rhwng y gwahanol ardaloedd wedi newid yn sylweddol.