Neidio i'r prif gynnwy

Cyfres o fapiau sy'n dangos nifer a chanran yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru.

Y prif ffynonellau o ddata a ddefnyddiwyd i gynhyrchu’r mapiau hyn oedd Arolwg Byw yng Nghymru 2004 a Chyfrifiad 2001.  Roedd Arolwg Byw yng Nghymru 2004 yn nodi nodweddion yr aelwydydd oedd yn fwyaf tebygol o ddioddef tlodi tanwydd.  Defnyddiwyd Cyfrifiad 2001 i roi’r aelwydydd hyn sy’n dioddef o dlodi tanwydd mewn trefn yn ôl ardaloedd daearyddol.

Mae’r mapiau hyn yn annhebygol o adlewyrchu’n gywir lefel tlodi tanwydd heddiw ond mae’n annhebygol bod crynhoad y gymhariaeth o aelwydydd sy’n dioddef o dlodi tanwydd rhwng y gwahanol ardaloedd wedi newid yn sylweddol.

Adroddiadau

Dangosydd tlodi tanwydd ardal fach ar gyfer Cymru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.