Map yn dangos y potensial gwres o ddŵr glofeydd i fod yn rhan o’n hamcanion sero net.
Mae pyllau glo yn etifeddiaeth o hanes glofaol Cymru. Efallai y byddant nawr yn cynnig ffynhonnell gwres posibl i gefnogi datblygiad rhwydweithiau gwres dŵr newydd o byllau glo.
Fe wnaethom gomisiynu map cyfleoedd am ddŵr wedi’i wresogi o byllau glo yng Nghymru. Mae hyn yn dangos safleoedd posibl ar gyfer cynllun dŵr wedi’i wresogi o byllau glo.
Mae'r map yn cynnwys nifer o ffactorau a ystyriwyd gan arbenigwyr technegol, gan gynnwys:
- dyfnderoedd gwaith tanddaearol
- lefelau dŵr pwll hysbys
- statws adfer lefel dŵr pwll glo
- tystiolaeth o waith cloddio glo brig
Mae tair lefel o gyfleoedd ar gyfer datblygiadau dŵr wedi’i wresogi o bwll glo:
Cyfleoedd Da (ardaloedd lle mae'n ymddangos bod amodau delfrydol ar gyfer cynllun dŵr wedi’i wresogi o byllau glo heb fawr o heriau).
Cyfleoedd Posibl (ardaloedd lle mae'n ymddangos bod heriau ar gyfer datblygu dŵr wedi’i wresogi o byllau glo).
Cyfleoedd Heriol (ardaloedd lle nad yw'r amodau'n ymddangos yn ddelfrydol ar gyfer datblygu cynllun dŵr wedi’i wresogi o byllau glo).
Mae'r ddogfen ganllaw Cyfleoedd ar gyfer dŵr wedi’i wresogi o byllau glo: canllawiau yn cynnwys manylion llawn y meini prawf ar gyfer pob lefel.
Gollyngiadau
Mae'r rhain yn lleoliadau hysbys lle mae dŵr pwll glo ar yr wyneb. Mae angen caniatâd ac arfarniad perthnasol i gefnogi cynlluniau ar y safle hwn.
Cafeatau
Nid yw'r lleoliadau a ddangosir ar y map hwn yn warant o unrhyw gynlluniau dŵr wedi’i wresogi o bwll glo yn y dyfodol. Mae'n rhaid i'r cynlluniau fod yn destun:
- astudiaethau dichonoldeb manwl
- trwyddedau, caniatadau a chytundebau gan yr holl gyrff perthnasol.
Gall y map cyfleoedd i ddŵr wedi’i wresogi o bwll glo newid. Mae lefelau dŵr pwll yn newid, yn enwedig lle maent yn adfer ôl cau pwll glo.