Neidio i'r prif gynnwy

Rhestru'r cwcis ar LLYW.CYMRU ac yn esbonio eu pwrpas.

Defnydd o gwcis gan LLYW.CYMRU

Ffeiliau testun bach yw cwcis y mae’r gwefannau rydych chi’n ymweld â nhw yn eu hanfon i’ch cyfrifiadur neu’ch dyfais symudol. Maen nhw’n helpu gwefannau i weithio’n well ac yn rhoi gwybodaeth i berchnogion gwefannau. Er enghraifft, rydym yn defnyddio cwcis iaith er mwyn gwybod ym mha iaith yr hoffech weld y wefan, rydym hefyd yn defnyddio cwcis YouTube i osod fideos ar dudalennau a chwcis Google Anaytics i olrhain ymddygiad defnyddwyr ar y wefan. Drwy ddeall sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan, gallwn ei gwneud yn haws i'w defnyddio a chynnig cynnwys sy’n diwallu anghenion pobl yn well. Mae’r wybodaeth y mae LLYW.CYMRU yn ei chasglu yn cynnwys cyfeiriad IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, y porwr a'r system weithredu. Ni chaiff y data eu defnyddio i adnabod unrhyw ddefnyddwyr yn bersonol. Dyma’r cwcis rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan:

CwciEnwDibenDod i ben
Language versionlangPrefWAGY system rheoli cynnwys sy’n creu’r cwci hwn ac mae’n hanfodol er mwyn i’r wefan ddangos yn yr iaith gywir.Pan fyddwch yn cau eich porwr
Session TrackingJSessionIDEr mwyn olrhain sesiwn pan fo'r cwcis wedi'u diffodd. Mae hyn yn caniatáu i'r porwr gadw eich sesiwn.Ar ddiwedd y sesiwn
GoogleAnalytics_gaCaiff y cwci hwn ei ddefnyddio i weld sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n gwefan. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r wefan. Mae'r cwci yn casglu gwybodaeth yn ddienw, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â'r wefan, a ydyn nhw wedi ymweld â'r wefan o'r blaen, a'r tudalennau y maen nhw'n ymweld â nhw.2 flynedd
CookieControlcivicAllowCookies
civicShowCookieIcon
Mae’r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein gwefan.10 awr
YouTube

VISITOR_INFO1_LIVE

PREF

Mae’r cwcis hyn yn hanfodol i ddangos fideos YouTube ar ein gwefan.8 mis
YouTubeuse_hitbox Ar ddiwedd y sesiwn
Tiktok_ttp Mesur a gwella perfformiad eich ymgyrchoedd hysbysebu ac i bersonoli profiad y defnyddiwr (gan gynnwys hysbysebion) ar TikTok13 mis
Facebook_fbpDefnyddir hwn i adnabod defnyddwyr ar draws tudalennau gwe lle mae picsel Facebook wedi'i osod. Mae'r picsel yn arbed dynodwr unigryw yn awtomatig i gwci _fbp ar gyfer parth y wefan os nad oes un yn bodoli eisoes.3 mis
Facebook_fbcDefnyddir hwn i adnabod y ddolen a gliciodd defnyddwyr i ddechrau ar draws tudalennau gwe lle mae picsel Facebook wedi'i osod. Mae'r ‘link ad’ ar Facebook weithiau'n cynnwys paramedr ymholiad fbclid. Pan fydd y defnyddiwr yn clicio bydd y picsel yn arbed y paramedr ymholiad fbclid yn awtomatig i gwci _fbc ar gyfer parth y wefan honno.3 mis

Mae modd rheoli rhywfaint ar gwcis drwy osodiadau eich porwr. I ddysgu rhagor am gwcis a sut i’w rheoli (ar all about cookies).

Pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennym?

Rydym yn defnyddio Google Analytics a thracio tudalennau gyda Crazy Egg i helpu monitro gweithgaredd defnyddwyr, ac i nodi ble gellid gwneud gwelliannau i'r safle. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol (fel eich enw neu'ch cyfeiriad) fyddai'n golygu ein bod yn gallu eich adnabod chi.

Mae cwcis Google Analytics yn wasanaeth ar y we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’) ac sy'n helpu casglu a dadansoddi gweithgarwch defnyddwyr. Byd y wybodaeth a gesglir am eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP dienw) yn cael eu trosglwyddo i, ac yn cael ei storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mholisi preifatrwydd Google, a Thelerau Gwasanaeth Google.

Bydd Google yn defnyddio'r wybodaeth hon i greu adroddiadau gweithgarwch defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo gofyn yn gyfreithiol, neu lle bod trydydd partïon yn prosesu'r wybodaeth hon ar ran Google.

Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a ddaliwyd yn flaenorol. Gallwch wrthod y defnydd o cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr. Nodwch, os caiff cwcis eu hanalluogi, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio'r wefan yn llawn. Drwy ddefnyddio'r wefan yma, rydych yn cydsynio gall Google brosesu data amdanoch chi yn y dull ac at y dibenion a nodir uchod.

Mae tudalen Crazy Egg  yn cadw cofnod o gliciau defnyddiwr drwy ein safle, gan nodi pa mor aml y caiff dolenni eu clicio ac os yw defnyddiwr yn sgrolio ar dudalennau, er mwyn i ni nodi a gwella lle bo angen. Gweler polisi preifatrwydd Crazy Egg am fyw o wybodaeth.

Mae Veritonic yn casglu cyfeiriad IP, asiant defnyddiwr a dynodwr hysbysebu symudol lle mae ar gael i helpu i nodi'r camau y mae defnyddiwr wedi'u cymryd ar dudalennau cymwys a mesur taith y defnyddiwr. Gweler polisi preifatrwydd Veritonig am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch privacy@veritonic.com

Picsel

Rydym wedi gosod cod tracio ar ambell tudalen o'r wefan hon i'n helpu i ddysgu mwy am ddiddordebau defnyddwyr y wefan. Rydym yn hysbysebu er mwyn codi ymwybyddiaeth o’n polisïau a thargedu pobl allai elwa ohonynt. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod unrhyw hysbysebion rydyn ni'n ei greu mor berthnasol ag sy'n bosibl i'n cynulleidfa. Mae picselau yn ein galluogi i greu 'cynulleidfaoedd personol' i dargedu hysbysebion i bobl sydd wedi ymweld â thudalennau penodol. Mae hefyd yn ein helpu i fesur pa mor effeithiol yw ein hysbysebion. Ni allwn adnabod ymwelwyr unigol i'n tudalennau gwe gyda’r picselau.

Cewch optio allan o dderbyn hysbysebion wedi’u targedu drwy atal cwcis ar ‘Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata’ neu drwy ddewisiadau hysbysebu eich cyfrif Facebook.