Neidio i'r prif gynnwy

I bwy mae'r canllawiau hyn 

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer:

  • pob meddyg teulu sy'n ymarfer yng Nghymru o dan delerau contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol 
  • myfyrwyr meddygol a hyfforddeion sylfaen sy'n ystyried cychwyn mewn ymarfer cyffredinol 
  • y rhai sydd eisoes wedi dechrau hyfforddiant arbenigol meddygon teulu

Mae sawl rheswm pam y dylech ystyried gyrfa ym maes ymarfer cyffredinol:

  • amrywiaeth y gwaith 
  • y gallu i ddarparu dilyniant gofal i gleifion
  • patrymau gweithio hyblyg 
  • y gallu i weithio'n rhan-amser

Dod yn feddyg teulu (rcgp.org.uk)

Gweithio ym maes ymarfer cyffredinol

Cymhwyso fel meddyg teulu yn y GIG

Cyn y gallwch ymarfer fel meddyg teulu, rhaid ichi gael eich derbyn ar Gofrestr Meddygon Teulu y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Darganfod sut i gael eich cynnwys ar y gofrestr meddygon teulu (rcgp.org.uk)

Rhestr cyflawnwyr meddygol Cymru

Er mwyn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) eich cymeradwyo. Ar ôl cael eich cymeradwyo, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr cyflawnwyr meddygol Cymru (MPL). 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r MPL, cysylltwch â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Gwasanaethau Gofal Sylfaenol.

Ailddilysu ac arfarnu

Proses y mae meddygon yn ei dilyn i ddangos eu bod yn gyfredol ac yn gymwys i ymarfer yw ailddilysu. Mae gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ystod o adnoddau i gynorthwyo gyda’r broses arfarnu ac ailddilysu.

Mae eich swyddog cyfrifol fel arfer wedi’i leoli yn y Bwrdd Iechyd Lleol lle’r ydych yn gweithio.

I gael rhagor o wybodaeth am ailddilysu, ewch i wefan Coleg Brenhinol yr ymarferwyr cyffredinol (rcgp.org.uk)

Amodau a thelerau

Mae contractau'r Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cael eu cytuno yn flynyddol rhwng:

  • Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru 
  • Llywodraeth Cymru 
  • GIG Cymru

Rhaid i feddygon teulu cyflogedig fod â set o delerau ac amodau gofynnol (contract model Cymdeithas Feddygol Prydain). Mae’n bosibl hefyd i feddygon teulu cyflogedig gael eu recriwtio ar delerau ac amodau gwell.

Dylai meddygon teulu sesiynol (meddygon teulu locwm) gytuno ar delerau eu cyflogaeth â'r Practis neu'r Bwrdd Iechyd Lleol.

Mae aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain yn gallu cael gafael ar adnoddau a chael cyngor a gwybodaeth.

Tâl

Mae’r Corff Taliadau Meddygon a Deintyddion (DDRB) yn argymell codiadau cyflog ar gyfer: 

  • meddygon teulu sy’n gontractwyr annibynnol
  • meddygon teulu cyflogedig

Mae’r rhain yn cael eu negodi wedi hynny rhwng Llywodraeth Cymru a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol (Cymru) Cymdeithas Feddygol Prydain. 

Ystodau cyflog ar gyfer meddygon teulu cyflogedig (bma.org.uk)

Pensiwn

Gall meddygon teulu cymwys sy'n ymgymryd â gwaith gwasanaethau meddygol cyffredinol fod yn gymwys i ymuno â chynllun pensiwn y GIG.

Indemniadau practisiau meddygol

Cynllun indemniad ymarfer meddygol cyffredinol

Ers 1 Ebrill 2019, mae Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol dewisol y wladwriaeth wedi bod ar waith. 

Bydd y bwrdd iechyd lleol yn darparu’r trefniadau indemniad a’r bwrdd fydd y diffynnydd ar gyfer achosion esgeulustod clinigol cyfreithiol. Meini prawf y cynllun dewisol:

  • Bydd contractwyr meddygon teulu, eu holl staff cyflogedig sy'n gyflogedig yn unrhyw un o'r trefniadau gwasanaethau meddygol sylfaenol a restrir gan y Rheoliadau yn cael eu cynnwys yn awtomatig gan GMPI ac nid oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau pellach oni bai eu bod yn dymuno gweithio fel meddyg teulu locwm y tu allan i'w practis cofrestredig. 

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019 (legislation.gov.uk)

  • Mae'n rhaid i feddygon teulu locwm ymuno â Chofrestr Locwm Cymru Gyfan a naill ai archebu eu sifftiau gan ddefnyddio Locum Hub Wales (LHW) neu gofnodi'r sifftiau a weithiwyd yn LHW. Daw shifftiau locwm a weithir mewn practisau a reolir o dan gontract y bwrdd iechyd. Nid ydynt yn dod o dan y Cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol.

Ymarferwyr cyffredinol Cymru

Mae'r cynllun Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol yn dileu cost indemniad ar gyfer practisau a Meddygon Locwm. Mae hefyd yn sicrhau y gall ymarferwyr meddygol fod yn hyderus wrth dderbyn yr amddiffyniad sydd ei angen arnynt os bydd unrhyw hawliadau indemniad. 

Cynaliadwyedd Gofal Sylfaenol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Manteision i feddygon teulu parhaol

Gwyliau blynyddol

Ar gyfer meddygon teulu partner, ceir o leiaf 6 wythnos o wyliau blynyddol fel arfer. Dylai’r cytundeb partneriaeth gynnwys y manylion hyn.

Mae gwyliau blynyddol meddygon teulu cyflogedig wedi'u diffinio yn eu contract gyda'r practis neu'r awdurdod cyflogi. Mae hyn yn chwe wythnos fel arfer.

Hawliau gwyliau blynyddol meddygon (bma.org.uk)

Absenoldeb tadolaeth

Mae unrhyw staff practis cymwys yn gallu cymryd pythefnos o absenoldeb tadolaeth ar ôl genedigaeth neu fabwysiadu. Mae'r contract cyflogaeth, a’r telerau ac amodau yn parhau. Byddwch yn cael tâl tadolaeth statudol.

Mae tâl tadolaeth uwch ar gael i feddygon cymwys sy'n gweithio o dan gontract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. O dan y trefniant hwn bydd y meddyg yn derbyn tâl llawn yn hytrach na thâl tadolaeth statudol.

Absenoldeb tadolaeth i feddygon (bma.org.uk)

Absenoldeb mamolaeth

Bydd meddyg teulu sy'n cael ei gyflogi o dan y contract model meddygon teulu cyflogedig, neu gontract sy'n cynnwys yr un telerau, yn cael tâl mamolaeth. Mae hyn ar yr amod bod ganddi 12 mis o wasanaeth parhaus yn y GIG ar ddechrau'r 11eg wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig geni’r plentyn.

Efallai y bydd gan feddygon teulu cyflogedig sy'n feichiog neu sydd wedi rhoi genedigaeth hawl i dderbyn tâl mamolaeth statudol gan eu cyflogwr am hyd at 39 wythnos.

Ewch i wefan y BMA i gael canllawiau ar absenoldeb mamolaeth a mathau eraill o absenoldeb rhiant.

Absenoldeb rhiant a rennir

Mae trefniadau absenoldeb rhiant a rennir gwell ar gael i bob meddyg teulu cyflogedig.

Amser dysgu a ddiogelir

Weithiau, gall practisau meddygon teulu gau i'r cyhoedd er mwyn galluogi staff i ddysgu a hyfforddi.

Rhaglen Arweinyddiaeth i Gymru, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymarferwyr cyffredinol uchelgeisiol sydd eisiau cymryd rhan weithredol wrth hyrwyddo gwaith ymarferydd cyffredinol. Gall hyn gynnwys meysydd fel:  

  • adnoddau
  • addysg
  • hyfforddiant
  • ymchwil
  • safonau clinigol

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (rcgp.org.uk)

Adnoddau DPP

Mae DPP ar alw AaGIC yn cynnig hyblygrwydd i wylio pob digwyddiad DPP byw. Mae'r ffocws ar feddygon teulu, ond maent yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.

DPP ar gael ar unrhyw adeg i feddygon teulu.

Manteision ariannol i feddygon teulu parhaol

Premiwm partneriaeth

Rhoddir taliad i feddygon teulu sy’n ymgymryd â sesiynau clinigol drwy’r cynllun premiwm partneriaeth.

Y taliad blynyddol yw £1,000 fesul sesiwn glinigol. Gallwch wneud hyd at uchafswm o 8 sesiwn yr wythnos. Mae hefyd uwch bremiwm o £200 fesul sesiwn glinigol ar gyfer partneriaid meddygon teulu sydd ag 16 mlynedd neu fwy o wasanaeth.

Gall meddygon teulu cymwys hawlio hyd at £9,600 y flwyddyn am gyfartaledd o 8 sesiwn a weithir yr wythnos.

Y contract GMS: cynllun premiwm partneriaeth

Canllawiau Cynllun Premiwm Partneriaeth nad yw ar gyfer meddygon teulu ar gyfer Contract GMS 2021/2022

Cynllun ar sail profiad

Nid yw’r cynllun ar sail profiad yn derbyn unrhyw geisiadau newydd bellach. Bydd taliadau’n parhau i gael eu gwneud i’r meddygon teulu sydd ar y cynllun ar hyn o bryd. 

Gall meddygon teulu ddewis symud i'r Cynllun Premiwm Partneriaeth newydd. Ni fyddant yn gallu symud yn ôl i’r cynllun ar sail profiad.

Ymarferydd cyffredinol wrth gefn

Mae’r cynllun yn rhoi cymorth addysgol, mentora a phecyn ariannol i feddygon teulu. Mae’n helpu i gadw meddygon yn gweithio ym maes ymarfer cyffredinol ac mae'n opsiwn ar gyfer:

  • meddygon teulu sy'n nesáu at oedran ymddeol
  • meddygon teulu sy'n dymuno lleihau eu horiau dan gontract 
  • amgylchiadau personol y mae'r BILl o'r farn eu bod yn rhesymau derbyniol at ddibenion y cynllun

Gall ymarferydd cyffredinol wrth gefn weithio hyd at bedair sesiwn glinigol yr wythnos. Daw hyn o dan delerau contract cyflogaeth model Cymdeithas Feddygol Prydain. Mae gan bob ymarferydd cyffredinol wrth gefn hawl i gael ychwanegiad treuliau proffesiynol blynyddol o rhwng £1000 a £4000. Mae hyn yn ddibynnol ar nifer y sesiynau a weithir yr wythnos.

Taliadau capasiti ychwanegol

Ers mis Ebrill 2022, bydd y cynllun hwn yn cynnig cyllid cyfatebol o hyd at 50% o’r gost. Bydd hyn naill ai ar gyfer swyddi ychwanegol, neu oriau ychwanegol a weithiwyd gan staff presennol. Bydd hyn yn galluogi practisau meddygon teulu i ymgymryd ag adnodd gweinyddol a chlinigol ychwanegol.

Y contract GMS: canllawiau ar gapasiti ychwanegol 2022 i 2023.

Cymorth i ddod o hyd i swyddi parhaol a gwaith sesiynol

Locum Hub Wales (LHW) a GP Wales

Mae LHW yn cefnogi anghenion sesiynol dros dro practisau. Bydd yn galluogi practisau meddygon teulu i archebu locwm yn seiliedig ar eu hanghenion. Mae LHW hefyd wedi cynyddu’r gronfa o feddygon locwm sydd ar gael ac yn hygyrch i’r practis.

Ar gyfer swyddi parhaol, mae GPWales yn cynnig ffordd hawdd o hysbysebu unrhyw swyddi practisau meddyg teulu. Bydd swyddi a hysbysebir ar GPWales hefyd yn ymddangos ar wefan swyddi'r GIG.

Meddygon teulu sy'n dychwelyd a meddygon teulu sydd wedi cymhwyso dramor

Canllaw Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i fyw a gweithio yn y DU fel meddyg teulu

Nod y canllaw ar gyfer meddygon tramor yw cefnogi meddygon teulu nad ydynt erioed wedi gweithio fel meddygon teulu yn y DU. Mae hyn yn cynnwys meddygon o’r DU sydd wedi ymgymryd â’u hyfforddiant arbenigol dramor.

Fisa gweithiwr iechyd a gofal

Bydd pob gwladolyn o'r AEE (ac eithrio dinasyddion Iwerddon) a meddygon rhyngwladol angen fisa Gweithiwr Medrus i weithio yn y DU.

Bydd cyflwyno fisa Iechyd a Gofal yn galluogi gweithwyr mewn rhai proffesiynau gofal iechyd i weithio yn y GIG. Bydd hyn yn golygu llai o gostau ymgeisio ac amseroedd penderfynu cyflymach ar eu ceisiadau. Ymgeisiwch am fisa Geithwyr Iechyd a Gofal.

I fod yn gymwys ar gyfer fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, rhaid i'r unigolyn:

  • fod yn feddyg, nyrs, gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal cymdeithasol i oedolion cymwysedig
  • gweithio mewn swydd iechyd neu ofal cymdeithasol gymwys
  • gweithio i gyflogwr yn y DU sydd wedi'i gymeradwyo gan y swyddfa gartref
  • cael 'tystysgrif nawdd' gan eich cyflogwr gyda gwybodaeth am y swydd a gynigiwyd i chi yn y DU
  • cael isafswm cyflog – mae faint yn dibynnu ar y math o waith rydych chi'n ei wneud
  • gallu profi y gallwch ddarllen, ysgrifennu, siarad a deall Saesneg

Tystysgrif Nawdd Gweithiwr Medrus - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Dychwelyd i ymarfer cyffredinol

Mae rhaglen Dychwelyd i Ymarfer Cyffredinol y GIG yn rhoi cymorth i ymarferwyr cyffredinol sy’n dymuno dychwelyd i ymarfer cyffredinol ar ôl absenoldeb o fwy na 2 flynedd. Rhaid i ymarferwyr cyffredinol fod yn gymwys a rhaid iddynt fod wedi bod ar Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol y GMC a Rhestr o Berfformwyr Meddygol y DU.

Mae gan y rhaglen dychwelyd i ymarfer ddau lwybr:

1.    Dychwelyd drwy asesiad o anghenion dysgu ar gyfer ymarferwyr cyffredinol sydd wedi gweithio yn y GIG o’r blaen fel ymarferydd cyffredinol ond heb weithio ers dwy flynedd neu fwy.

  • Mae’n ofynnol ymgymryd â’r asesiad o anghenion dysgu
  • Yna lleoliad clinigol wedi’i deilwra am hyd at 6 mis

2.    Dychwelyd drwy lwybr portffolio ar gyfer ymarferwyr cyffredinol sydd wedi gweithio yn y GIG fel ymarferydd cyffredinol o’r blaen ond heb weithio yn y DU ers 2 i 10 mlynedd. Fodd bynnag, efallai eu bod wedi bod yn gweithio mewn swydd gofal sylfaenol gyfwerth yn rhywle arall

  • Cyflwyno tystiolaeth o waith clinigol cyfredol mewn portffolio i banel Coleg Brenhinol yr Ymarfer Cyffredinol ei adolygu
  • Lleoliad ailsefydlu o hyd at 3 mis

Rhaglen dychwelyd i ymarfer meddygon teulu (rcgp.org.uk)

Dychwelyd i ymarfer cyffredinol (rcgp.org.uk)

Rhaglen sefydlu ryngwladol meddygon teulu

Mae’r Rhaglen Sefydlu Ryngwladol Meddygon Teulu ar gyfer meddygon teulu â chymwysterau tramor nad ydynt wedi gweithio'n flaenorol ym maes ymarfer cyffredinol yn y GIG o’r blaen. Rhaid cwblhau'r rhaglen cyn y gellir cymeradwyo meddygon teulu i'w cynnwys yn llawn ar Restr Cyflawnwyr Meddygol Cymru fel ymarferydd cyffredinol annibynnol y GIG.

Mae gan y rhaglen ddau lwybr:

1.    Sefydlu fel cais annibynnol drwy asesiad anghenion dysgu. Mae hyn ar gyfer meddygon a  gymhwysodd fel meddyg teulu dramor neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ond nad ydynt erioed wedi gweithio yn y GIG fel meddyg teulu o'r blaen:

  • rhaid cwblhau’r asesiadau anghenion dysgu
  • dilynir hyn gan leoliad clinigol wedi'i deilwra o hyd at 6 mis (cyfwerth ag amser llawn)

Sefydlu drwy Asesiad Proses CEGPR wedi’i symleiddio ar gyfer meddygon teulu. Mae hyn ar gyfer y rheini sydd wedi cymhwyso yn Awstralia, Canada, Seland Newydd a De Affrica o raglenni hyfforddi cymeradwy dynodedig y Cyngor Meddygol Cyffredinol

  • cyflwyno portffolio o waith clinigol cyfredol i banel Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol i'w werthuso a'i gymeradwyo gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • dilynir hyn gan leoliad clinigol wedi'i deilwra o hyd at 6 mis (cyfwerth ag amser llawn)

Rhaglen sefydlu ryngwladol meddygon teulu - AaGIC (nhs.wales)

Lleoliadau clinigol wedi'u teilwra

Mae'r rhaglenni sefydlu rhyngwladol a dychwelyd i ymarfer yn cynnwys lleoliad clinigol wedi'i deilwra. Yn ystod y lleoliad, mae'r unigolyn yn cwblhau amrywiaeth o asesiadau yn y gweithle. Gall hyn fod ar ffurf: 

  • ymgynghoriadau a arsylwyd
  • trafodaethau ar sail achosion
  • adborth aml-ffynhonnell 

ynghyd ag:

  • adolygiad o anghenion gyrfa ac addysgol – a gynhelir gan ddeon cyswllt meddygon teulu lleol
  • mynediad at adnoddau ar-lein – bydd AaGIC yn trefnu mynediad i adnoddau ar-lein 
  • sesiynau blasu ymarfer; mae'r rhain yn lleoliadau 1-5 diwrnod byr mewn practis hyfforddi pellach meddygon teulu cymeradwy

Bydd yr hyfforddwyr strwythuredig yn cofnodi’r holl ganlyniadau yn y llyfr log.

Bydd hwn yn cael ei gyflwyno i'r cyfarwyddwr meddygol ar ôl cwblhau’r lleoliad clinigol. Bydd y cyfarwyddwr yn penderfynu a roddir cynhwysiant diamod ar y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol.

Hyfforddiant meddygon teulu

Hyfforddi Gweithio Byw

Mae Hyfforddi Gweithio Byw yn ymgyrch sy’n hyrwyddo Cymru fel lle rhagorol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, gan gynnwys meddygon teulu, i hyfforddi, gweithio a byw.

Mae’r ymgyrch yn ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud eisoes gan fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i recriwtio staff. Mae’n cefnogi meddygon teulu sy’n mynegi diddordeb mewn gweithio yng Nghymru, ac yn helpu gydag adleoli.

Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am yr hyn y gallant ei ddisgwyl wrth ddod i Gymru. 

Mae’r ymgyrch wedi’i hanelu at: 

  • fyfyrwyr meddygol 
  • meddygon sydd heb ddewis arbenigedd hyd yma
  • hyfforddeion sy’n dod i ddiwedd eu hyfforddiant 
  • meddygon teulu sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar
  • y rheini sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd
  • meddygon teulu profiadol sydd o bosibl yn dymuno gweithio mewn amgylchedd gwahanol neu ddychwelyd i’r gweithlu yng Nghymru. 

Ewch i wefan Hyfforddi Gweithio Byw

Hyfforddiant arbenigedd meddyg teulu – y cymhelliad targed

Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, bydd hyfforddeion meddygon teulu sy'n dechrau hyfforddi yng Nghymru (rhwng 2017 hyd at a chan gynnwys Chwefror 2024) yn gymwys i dderbyn cymhelliad targed. Bydd hyn yn daliad o hyd at £20,000. Mae’n rhaid iddynt aros mewn ardal darged am yr amser y maent yn hyfforddi ac am flwyddyn o ymarfer ar ôl cymhwyso. Mae'r ardaloedd hyfforddi targed yn cynnwys: 

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cymelliadau Ariannol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru    

Absenoldeb astudio

Mae gan hyfforddeion meddygon teulu hawl i 15 diwrnod (30 sesiwn) fesul swydd ymarfer cyffredinol chwe mis. Mae'r hawliau’r un fath boed yr hyfforddai'n llawn amser neu'n rhan-amser.

Absenoldeb astudio - AaGIC (nhs.wales)

Cymdeithasau a rhwydweithiau

Gallwch ymuno â Chymdeithas Meddygon Teulu sy’n cael ei harwain gan fyfyrwyr a gefnogir gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Rhwydwaith Partneriaeth y Cymdeithasau.

Dod o hyd i'ch cymdeithas meddygon teulu leol (rcgp.org.uk)

Swyddogaethau estynedig

Gall meddygon teulu cymwysedig benderfynu ymgymryd â rhagor o hyfforddiant i ddod yn feddyg teulu â swyddogaethau estynedig. Mae hyn yn ychwanegol at eu gwaith ymarfer cyffredinol craidd.