Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Mawrth 2014.

Cyfnod ymgynghori:
17 Rhagfyr 2013 i 28 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Yn dilyn yr ymgynghoriad rydym wedi bod yn gweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu dull a ffefrir ar gyfer Cymru.  Cafodd ein polisi manwl ynghylch rheoli dŵr yn y dyfodol yng Nghymru ei ddisgrifio yn ein Strategaeth Ddŵr ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mai 2015.  Ar 15 Ionawr 2016 cyhoeddwyd ein hymateb i’r ymgynghoriad a nawr byddwn yn gweithio â rhanddeiliad yng Nghymru i ddatblygu’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen er mwyn cyflawni ein hamcanion.

Daeth dros 300 o ymatebion i law. Mae crynodeb o'r ymatebion ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (dolen allanol Saesneg yn unig).

Manylion am y canlyniad

Ymateb i'r ymgynghoriad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 704 KB

PDF
704 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn cydymgynghori ar gynigion i ddiwygio'r system tynnu dŵr o afonydd a dŵr daear ledled Cymru a Lloegr.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein dŵr yng Nghymru un cael ei reoli’n gynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys ystyried a oes angen newid y system reoli ar gyfer tynnu dŵr yng Nghymru (tynnu dŵr o afonydd ac ati). Mae’r ymgynghoriad hwn yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer diwygio’r system bresennol. Mae croeso i chi roi eich barn.

Mae effaith tynnu dŵr yn uniongyrchol o afonydd neu ddŵr daear yn gallu bod yn bellgyrhaeddol. Gall effeithio ar yr amgylchedd gan gynnwys safleoedd cadwraeth natur pwysig ac ar y defnydd o afonydd at ddibenion hamdden. Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer yr economi i gynhyrchu pŵer i redeg diwydiannau a thyfu bwyd. Mae cyflenwad digonol o ddŵr glân a diogel yn hanfodol i gymdeithas. Dyma pam y caiff gweithgareddau tynnu dŵr eu trwyddedu a’u rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ein nod yw sicrhau bod gennym system reoli ar gyfer tynnu dŵr yng Nghymru sy’n gynaliadwy a dibynadwy ac sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.

Manteisio i’r eithaf ar bob diferyn – Ymgynghoriad ar ddiwygio’r system rheoli tynnu dŵr (dolen allanol, Saesneg yn unig).