Ni fydd pobl sy’n prynu tŷ am lai na £180,000 yng Nghymru yn gorfod talu treth o gwbl. Daw hynny yn sgil newidiadau i’r dreth trafodiadau tir a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cyllid.
Bydd trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir yn codi o £150,000 i £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018.
Bydd y cynnydd yn y trothwy cychwynnol yn helpu pawb yng Nghymru sydd am brynu tŷ yn y rhan hon o’r farchnad, gan gynnwys y rhai sy’n prynu am y tro cyntaf.
Mae’r trothwy newydd £55,000 yn uwch na’r trothwy cychwynnol ar gyfer treth dir y dreth stamp yn Lloegr, a bydd yn lleihau’r baich treth ar tua 24,000 o brynwyr tai – gan gynnwys prynwyr tro cyntaf – yng Nghymru.
Daw pendefyniad yr Athro Drakeford i newid trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno rhyddhad ar y dreth stamp i brynwyr tro cyntaf yng Nghyllideb yr Hydref fis diwethaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid ei fod wedi ystyried yn ofalus cyn penderfynu ar y dull gweithredu gorau ar gyfer marchnad dai Cymru, yn ogystal ag ar gyfer pobl yng Nghymru sy’n prynu tai.
Dyma y mae cyfraddau newydd y dreth trafodiadau tir ar gyfer eiddo preswyl yn ei olygu:
- ni fydd neb yn talu mwy o dreth yn sgil y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw nag y byddent o dan y cyfraddau a gyhoeddwyd adeg y Gyllideb ddrafft ym mis Hydref;
- ar gyfartaledd, bydd person sy’n prynu tŷ yng Nghymru yn talu dros £500 yn llai o dreth nag y byddai o dan y dreth stamp;
- bydd oddeutu 90% o brynwyr tai yng Nghymru naill ai’n talu’r un faint o dreth, neu lai o dreth, nag y byddent o dan y dreth stamp;
- ni fydd oddeutu 80% o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu treth o gwbl – yr un gyfran ag a fydd yn elwa ar ryddhad y Canghellor ar y dreth stamp i brynwyr tro cyntaf yn Lloegr.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Bydd y newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw i brif gyfraddau’r dreth trafodiadau tir yn golygu na fydd gofyn talu treth ar oddeutu 65% o’r gwerthiannau tai hyn.
“Bydd mwy o brynwyr yn elwa ar y newidiadau hyn nag a fydd yn elwa ar y rhyddhad y mae’r Canghellor yn ei dargedu at brynwyr tro cyntaf – bydd mwy na hanner y rhai sy’n prynu tai yn manteisio ar ostyngiad treth o ran y dreth trafodiadau tir.
“Mae hyn yn gyson â’m nod o sicrhau bod trethi’n decach ac yn cyfrannu at greu Cymru fwy cyfartal. Bydd y cyfraddau gwell hyn yn helpu i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”