Ardaloedd chwarae meddal i blant ac ardaloedd chwarae dan do, gan gynnwys partïon: y coronafeirws
Canllawiau i ganolfannau chwarae dan do i ddiogelu plant, eu rhieni neu ofalwyr a gweithwyr yn ystod y pandemig coronafeirws.
Maint Ffeil 84 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cynnwys
Cynnwys
Cyflwyniad
Diben y canllawiau hyn yw hysbysu perchenogion a gweithredwyr canolfannau chwarae dan do yng Nghymru am y cyfyngiadau a’r gofynion cyfreithiol parhaus sy’n gysylltiedig â chyfyngu lledaeniad y coronafeirws ar Lefel 4. Gweler Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd yng Nghymru i gael rhagor o fanylion.
Mae mannau chwarae dan do, sydd hefyd yn cael eu galw weithiau’n ganolfannau chwarae dan do neu’n ganolfannau chwarae meddal, wedi’u cynllunio i blant chwarae ynddynt, gyda strwythurau ac offer chwarae’n aml wedi’u padio er mwyn gwrthsefyll y pwysau pan fo plant yn cwympo neu’n bownsio o amgylch. Yn ogystal â chanolfannau penodol a grëwyd at ddibenion chwarae dan do, mae cyfleusterau fel hyn yn aml i’w cael mewn ystod o adeiladau a gwasanaethau a ddefnyddir gan rieni, gan gynnwys tafarndai, canolfannau siopa a rhai atyniadau mwy o faint i dwristiaid.
Lefel 4
Ar lefel 4, rhaid i fannau chwarae dan do gau. Gweler y canllawiau ar Gau Busnesau ar lefel 4.