Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch beth allwch ei wneud fel rhiant i helpu eich plentyn i ddatblygu.

Dyma ddeg awgrym gwych i helpu

1. Gweithgareddau syml, rheolaidd

Bydd hyn yn eich helpu chi a’ch plentyn i deimlo’n fwy diogel. Bydd trefn ddyddiol arferol yn helpu i roi strwythur i’ch dydd o fore gwyn tan nos. Bydd angen i chi gynllunio o flaen llaw ar gyfer y diwrnod a’r wythnos nesaf, ond ceisiwch gadw bopeth yn syml ac yn ymarferol – amser codi, amser prydau bwyd, amser bath, amser ymarfer ac amser gwely.

2. Siaradwch am beth rydych chi’n mynd i’w wneud

Siaradwch ac egluro i’ch plentyn beth rydych chi’n mynd i’w wneud yn ystod y dydd. Helpwch nhw i ddysgu cynnal sgwrs drwy siarad yn eu tro. Meddyliwch beth mae’ch plentyn yn ei wybod yn barod, ac adeiladu ar hyn o fewn patrwm y dydd.

Byddwch fel sylwebydd chwaraeon, yn siarad am beth sy’n digwydd drwy’r amser ac yn cadw eich iaith yn syml. Gallwch dynnu neu ddangos lluniau, neu afael mewn offer/teclynnau i ddangos beth rydych chi’n mynd i’w wneud, os oes angen help ar eich plentyn i ddeall. Os oes gennych chi rai, beth am ddefnyddio lluniau o ffrindiau a/neu aelodau o’ch teulu i siarad am bobl sy’n bwysig i chi ond sy’n byw mewn cartref arall?

3. Mwynhewch eich amser gyda’ch gilydd

Mae’n bwysig eich bod yn cael hwyl, rydyn ni’n dysgu’n well pan fyddwn ni’n joio beth rydyn ni’n ei wneud. Os nad ydych chi neu’ch plentyn yn mwynhau rhywbeth, rhowch y gorau i’w wneud a gwnewch rywbeth arall. Ceisiwch wneud yn siwr eich bod chi a’ch plentyn yn cael hwyl wrth wneud rhywbeth gyda’ch gilydd bob dydd – gwnewch fwy nag un peth ‘dych chi’n ei fwynhau os gallwch chi!

4. Dewiswch pryd yn union i ddefnyddio dyfeisiau

Defnyddiwch y teledu a/neu ddyfeisiau eraill, ond dewiswch pryd rydych chi’n mynd i wylio a beth rydych chi’n mynd i’w wneud. Mae gan Cyw raglenni hwyliog ar S4/C ac ar wefan Cyw. Mae 11 o gemau ar gael yn Gymraeg ar Cbeebies. Defnyddiwch eich ffôn/dyfeisiau eraill i ffilmio beth rydych wedi’i wneud – cicio pêl, dysgu cân neu air newydd.

Diffoddwch y teledu pan nad ydych yn ei wylio fel nad oes ffrwd ddi-baid o wybodaeth – bydd plant yn ymwybodol o’ch ymateb i’r newyddion, boed yn dda neu’n ddrwg.

5. Defnyddiwch bethau sydd ar gael yn eich cartref neu’n agos iddo

Does dim rhaid ichi brynu nwyddau ychwanegol. Gallwch fynd am dro yn eich gardd neu’n agos i’ch cartref, a thynnu sylw’ch plentyn at flodau, adar a choed, adeiladau, a gwrthrychau cyffredin; enwch nhw. Beth am chwarae gemau cerdded, rhedeg a chwilio neu gael helfa drysor yn eich ty/gardd? Gallwch chi ddysgu cân neu rigwm newydd i’ch plentyn. Beth am chwarae gemau dal pêl neu rolio pêl yn ôl ac ymlaen?

Neu defnyddiwch ddrychau yn yr ystafell ymolchi i annog eich plentyn i ddynwared beth rydych yn ei wneud ac i gymryd eu tro – tynnu ystumiau gwirion efallai. Mae plant yn hoffi gwneud yr un gweithgareddau cyfarwydd dro ar ôl tro. Chi yw athro cyntaf eich plentyn, a’u hathro gydol oes – gallwch roi cymaint o help iddyn nhw ddysgu a thyfu. Mae’ch plentyn hefyd yn gallu eich addysgu chi – talwch sylw i’r ffordd mae’ch plentyn yn dysgu orau.

6. Gadewch i'ch plentyn ymuno a'r gwaith ty a gwaith o gympas y ty, ac i helpu gystal ag y gyll

Glanhau, coginio, trwsio. Os nad yw’n gallu helpu, gadewch i’ch plentyn wylio ac esboniwch beth rydych chi’n ei wneud a sut rydych chi’n mynd ati. Os oes gennych chi blant hyn, efallai y bydden nhw’n gallu helpu drwy ddiddanu neu siarad â’u brawd neu chwaer fach.

7. Neilltuwch fan clyd a thawel i’ch plentyn gael heddwch

Fel nyth. Gwnewch nyth i chi’ch hun hefyd – rhowch eich ffôn o’r golwg mewn drôr ac edrych arno ar adegau penodol yn unig (heb fod yn rhy aml). Os ydych chi’n poeni am rywbeth, gofynnwch am gyngor/help os oes ei angen arnoch a gadewch i’ch plentyn ofyn am help hefyd. Beth am wneud ymarferion anadlu’n ddwfn a rhai sy’n eich helpu i ymlacio?

8. Gadewch i’ch plentyn siarad am COVID 19 ac i holi cwestiynau amdano

Os yw eich plentyn yn deall ychydig am COVID 19, rhowch y ffeithiau iddyn nhw yn syml iawn. Dangoswch sut i olchi dwylo ac ymarfer hynny gyda’ch gilydd.

Dewiswch gân mae’ch plentyn yn ei hoffi a’i chanu wrth olchi dwylo neu defnyddiwch amserydd i fesur 20 eiliad.

Gallwch hefyd addysgu sgiliau eraill am sut i gadw’n lân ac i ofalu am eich hunan, fel gwisgo, dadwisgo, glanhau dannedd a defnyddio’r ty bach, os ydych chi’ch dau’n barod am hynny. Gwnewch y cwbl yn gymaint o hwyl â phosibl.

9. Cadwch mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau

Gallai hyn ddigwydd bob diwrnod neu ambell waith yr wythnos. Dewiswch amser rheolaidd a dull o gyfathrebu (FaceTime/Skype/WhatsApp). Os ydych chi’n defnyddio ffôn, beth am ddangos lluniau o’r person sydd ar ben arall yr alwad, os yw hynny’n bosibl? Penderfynwch pa mor hir y bydd y galwadau. Dechreuwch drwy ddweud “Sut mae/Shw’mae” a gorffennwch drwy ddweud “Hwyl/Hwyl fawr”.

Soniwch wrth eich teulu am rywbeth mae eich plentyn wedi’i wneud yn dda neu wedi’i ddysgu, neu dangoswch iddyn nhw. Penderfynwch gyda’ch plentyn o flaen llaw beth y byddwch chi’n ei wneud neu rannu, neu a fyddwch yn canu neu’n dawnsio. Os oes arnoch angen sgwrs hirach i chi’ch hunan, fel oedolyn, ffoniwch yn ôl pan fydd eich plentyn wedi mynd i gysgu, os nad ydych chi wedi blino gormod wrth gwrs!

10. Dathlwch eich llwyddiannau

Ar ddiwedd pob dydd, meddyliwch am un peth arbennig o bositif rydych chi a’ch plentyn wedi llwyddo i’w wneud ac wedi’i fwynhau y diwrnod hwnnw. Dywedwch wrth eich plentyn, siaradwch amdano a’i gofnodi mewn rhyw ffordd a’i ddathlu.

Ffynhonnell

Anne Marie McKigney, Ymgynghorydd Seicolegydd Plant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dr Heather Payne, Ymgynghorydd Paediatregydd, Uwch Swyddog Meddygol ar gyfer Mamolaeth ac Iechyd Plant, Llywodraeth Cymru (Ebrill 2020).

Dysgwch beth allwch ei wneud fel rhiant i helpu eich plentyn i ddatblygu.

Dulliau rhianta
Dulliau rhianta
Deall pa fath o riant ydych chi er mwyn i chi allu cael y berthynas orau â'ch plentyn
Gwnewch amser i ganmol
Gwnewch amser i ganmol
Sut allwch roi amser i ganmol eich plentyn i ddatblygu ei hyder a'i hunan-barch
Trefn a phatrwm
Trefn a phatrwm
Help i osod trefn a phatrwm a deall sut all eich plentyn elwa ar hyn
Siarad a chwarae
Siarad a chwarae
Ffyrdd y gallwch siarad, gwrando a chwarae gyda'ch plentyn i'w helpu i ddatblygu'n dda
Cariad ac anwyldeb
Cariad ac anwyldeb
Deall pwysigrwydd dangos cariad ac anwyldeb i'ch plentyn o enedigaeth
Tips Defnyddiol Y Teulu Cyfan ar Drefn Reolaidd
Tips Defnyddiol Y Teulu Cyfan ar Drefn Reolaidd
Dyma ein tips defnyddiol ar gyfer gwneud trefn reolaidd yn hwyl ac yn effeithiol.
Tips Defnyddiol Y Teulu Cyfan ar Damser Sgrin
Tips Defnyddiol Y Teulu Cyfan ar Damser Sgrin
Dyma rai o’n tips gorau ar sut i gyfyngu ar amser sgrin, gyda chyn lleied o straen â phosibl.