Galar a Phrofedigaeth: 8 i 12 oed
Helpu plant yn eu harddegau i ymdopi â galar a phrofedigaeth.
Mae marwolaeth rhiant neu berthynas agos yn ergyd drom beth bynnag yw'ch oed, ond mae colli mam neu dad yn un o'r profedigaethau dwysaf y gall plentyn ifanc eu hwynebu.
Gall rhoi'r gefnogaeth gywir i blentyn sy'n galaru gyfrannu'n helaeth at sicrhau ei fod yn parhau i ffynnu ac i deimlo'n gadarnhaol ynghylch ei ddyfodol.
Yma, mae cyngor i rieni neu ofalwyr sy'n ceisio helpu plentyn sy'n galaru.
-
Byddwch yn onest - Pan ydych chi'n wynebu salwch sy'n byrhau oes, mae'n well bob amser bod yn onest â phlant ynghylch beth sy'n digwydd cyn gynted â phosibl. Pan fydd angen, gall gofyn am gymorth gan arbenigwyr sydd wedi'u hyfforddi i gwnsela helpu. Mae'n bosibl na fydd plant sydd wedi cael profiad o gwnsela cyn marwolaeth rhiant neu frawd neu chwaer angen unrhyw gefnogaeth o ran cwnsela, neu ychydig iawn, yn y tymor hirach.
-
Siaradwch amdano - Mae'n bosibl fod llawer o bobl yn osgoi siarad am farwolaeth â phlant sy'n galaru, a hynny gyda'r bwriadau gorau ac er mwyn peidio ag achosi rhagor o loes. Ni allwch wneud y sefyllfa'n waeth, a bydd dangos eich bod yn malio amdanynt yn golygu llawer iawn i'r plentyn. Hefyd, drwy siarad â phlant am farwolaeth, rydych chi'n rhoi 'caniatâd' iddyn nhw siarad yn agored amdano â chi pryd bynnag y mynnant. Mae'n bwysig gadael iddyn nhw ofyn cwestiynau, gwrando ar eu hymateb a pheidio â bod ofn dangos eich teimladau a siarad am sut y mae marwolaeth yn gwneud i chi deimlo.
-
Cadwch bethau'n syml - Mae oedolion yn aml yn defnyddio ymadroddion fel 'wedi mynd', 'wedi'n gadael ni' neu 'colli' pan fydd rhywun wedi marw ac efallai y byddant yn osgoi'r gair 'marw' - yn enwedig wrth siarad â phlant sydd wedi dioddef profedigaeth. Ond, yn gyffredinol, nid oes gan blant yr un pryderon ac mae'n bosibl y bydd ymadroddion felly'n eu drysu'n waeth. Yn yr un modd, mae rhai pobl yn creu straeon cymhleth i blant sy'n galaru i esbonio i lle'r aeth rhiant neu frawd neu chwaer. Eto, mae hyn yn aml yn fwy tebygol o ddrysu plentyn nag yw'r gwir.
-
Sboncio i mewn ac allan o sgyrsiau emosiynol - Mae plant yn gallu sboncio i mewn ac allan o sgyrsiau emosiynol wedi profedigaeth. Tra bo oedolion yn dueddol i gael eu trechu gan eu galar, mae'n gyffredin gweld plant mewn trallod un funud ac yna'n gofyn beth sydd i ginio'r funud nesaf. Mae hyn yn berffaith normal ac nid yw'n unrhyw arwydd o'r ffordd y mae beth sydd wedi digwydd wedi effeithio arnyn nhw. Ceisiwch fynd ati i drafod marwolaeth rhiant neu frawd neu chwaer yn yr un dull. Anogwch blant i siarad am eu hatgofion o'u perthynas, a faint roedden nhw'n ei g/charu, ac yna awgrymwch weithgaredd sydd â chysylltiad â hynny, fel chwilio am lun da ohono/i, neu dynnu llun o amser hapus a gawsant gyda'i gilydd.
-
Casglu blwch atgofion - Mae dal eu gafael mewn atgofion am rywun sydd wedi marw, neu sy'n derbyn gofal diwedd oes yn gallu bod yn arbennig o anodd i blant ifanc. Anogwch nhw i lenwi blwch atgofion â phethau sy'n eu hatgoffa nhw o'r person hwnnw. Efallai y byddant yn dewis carreg glan môr roedden nhw wedi ei chasglu ar wyliau gyda'r teulu, neu bersawr Mam, yn ogystal â'u hoff luniau o achlysuron hapus. Byddant yn gallu troi at y blwch ac ychwanegu ato unrhyw adeg, ac mae hefyd yn adnodd defnyddiol iddyn nhw pan fyddant eisiau siarad am y person hwnnw â rhywun y maen nhw'n ymddiried ynddo.
-
Paratowch nhw - Drwy siarad â phlant am yr hyn y maen nhw'n debygol o'i weld pan fydd rhywun yn sal neu ynghylch beth i'w ddisgwyl mewn angladd, neu drwy roi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn rhyw ffordd, gallwch eu helpu nhw i fynegi eu teimladau mewn ffordd lesol. Er enghraifft, os yw perthynas yn debygol o golli'i (g) wallt oherwydd triniaeth, gallwch egluro ymlaen llaw bod hyn yn debygol o ddigwydd, ac awgrymu gwneud anrheg o ryw fath i godi calon y claf. Gall cynnwys plant yn y gwasanaeth angladd hefyd fod yn ddefnyddiol - efallai drwy ddewis cân neu ddewis rhywbeth i'w roi yn arch Dad. Pan fo'n bosibl, gall mynd â phlant i'r fynwent neu'r amlosgfa o flaen llaw fod yn ddefnyddiol, fel bod y lleoliad yn gyfarwydd iddyn nhw.
-
Does dim byd o’i le ar lefain - Mae llawer o bobl yn gofyn a yw hi'n iawn i wylo o flaen plentyn sy'n galaru. Gan amlaf, 'ydy' yw'r ateb. Drwy ddangos eich teimladau, rydych chi'n dangos i blant ei bod hi'n dderbyniol iddyn nhw wneud yr un fath.
-
Cadwch at y drefn arferol fel bod pethau’n aros yn gyfarwydd – Mae dull tawel a chadarnhaol o rianta a chadw patrwm arferol eich plentyn mor sefydlog â phosibl yn ystod cyfnodau anodWW fel yn sgil profedigaeth, yn gallu helpu plant i deimlo’n fwy diogel. Os ydyn nhw’n cael bath, ac wedyn stori a mynd i’r gwely am 7pm, yna ceisiwch gadw at y drefn honno os yw hynny’n bosibl. Bydd hynny’n eich helpu chi a’ch plentyn i deimlo’n hyderus am sut y bydd y diwrnod yn dechrau ac yn dod i ben, ac yn gwneud ichi deimlo’n ddiogel yn eich amgylchfyd.
-
Chwiliwch am help ychwanegol - Mae adnoddau gwych ar gael i helpu plant a theuluoedd drwy'r broses alaru. Mae llyfrau stori ar gael sydd wedi'u hysgrifennu'n benodol i helpu plant ifanc ymdrin â'r teimladau sydd ganddyn nhw pan fo rhywun y maen nhw'n ei garu'n marw. Mae'r llyfrau hyn yn cynnwys darluniau a gweithgareddau, ac maen nhw'n gallu bod yn ffordd ardderchog i ysgogi sgyrsiau o fewn teuluoedd. Mae llyfrau Saesneg ar gael i'w prynu yn Winston’s Wish (dolen allanol), elusen sy'n ymwneud â phlant sydd wedi cael profedigaeth ac mae llawer o gyngor ar gael ar y wefan hefyd ar gyfer teuluoedd sy'n galaru. Rhai ffynonellau gwybodaeth defnyddiol eraill sydd ar gael yn Saesneg yw Childhood Bereavement UK (dolen allanol) a City Hospice (dolen allanol). Hefyd mae Tîm Cwnsela Tŷ Gobaith (Hope House) yn cynnig cefnogaeth yn rhad ac am ddim i deuluoedd yn y Gogledd a'r Canolbarth: Hope House: Cefnogaeth mewn Profedigaeth (dolen allanol).
Aymarferol a chyngor arbenigol
Cyngor ategol
- Child Bereavement UK
- Winston's Wish
- Cruse – Children, Young People and Grief
- Young Minds – Grief and Loss
- Family Lives – Coping with Bereavement
- UK Trauma Council – Traumatic Bereavement
- Care for the Family – Top Tips for Supporting Bereaved People
- Cruse Bereavement Support - Helping teenagers cope with death