Adnoddau: 4 i 7 oed
Rydym wedi datblygu ystod o adnoddau i gefnogi rhieni a’r rheini sy’n gofalu am blant.
Rydym wedi creu taflenni gweithgareddau a gemau y gellir eu lawrlwytho a mynd â nhw gyda chi i bobman, taflenni gwybodaeth i’ch helpu ag ymddygiadau penodol neu bryderon a chyngor cyffredinol wrth i’ch plant ddatblygu .
Mae modd lawrlwytho’r ystod o weithgareddau hwyliog sydd wedi cael eu creu gennym, a hynny’n rhad ac am ddim. Byddant yn help i chi ddiddanu’ch plant. Maent yn amrywio o daflenni i osgoi strancio wrth siopa neu deithio yn y car i helfeydd sborion a thaflenni caneuon. Hefyd mae gennym adnoddau ar gyfer digwyddiadau penodol fel Sul y Mamau a’r Nadolig.
Hefyd, rydym wedi cynnwys nifer o ganllawiau defnyddiol i roi help llaw i chi gyda’r heriau ehangach sydd ynghlwm â bod yn rhiant, o gostau gofal plant i bryderon am ddatblygiad iaith a lleferydd.
Mae’n hadnoddau wedi eu creu ar y cyd â gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr sy’n gweithio â phlant. Maent yn ffynonellau syml a chlir sy’n rhoi cyngor ar sut i fynd i’r afael â’r cyfnodau hynny sy’n gallu bod yn heriol, o strancio a brathu i ddefnyddio’r poti a bwyta’n ffyslyd.
Tips defnyddiol ar ddefnyddio siartiau gwobrwyo
Gellir defnyddio siartiau gwobrwyo i annog a chanmol ymddygiad cadarnhaol plenty.
Carol Nadolig: Deuddeg diwrnod y Nadolig
Dyma ffordd syml i helpu'ch plant gyda'u sgiliau cyfrif tra hefyd yn mwynhau ysbryd yr ŵyl.
Llythyr at Siôn Corn
Templed i helpu'ch rhai bach i ysgrifennu eu llythyrau pwysig iawn at Siôn Corn.
Cymorth llaw
Canllaw syml i gefnogi'ch plentyn os yw'n cael ei fwlio.
Canllaw adnabod dail
Canllaw diddorol i helpu i adnabod dail yr hydref a ffordd i wneud taith prynhawn yn fwy o antur.
Fy restr wirio foreol ar ddiwrnod ysgol
Rhestr wirio foreol a all eich helpu chi i ddechrau’r dydd heb straen.
Fy Rhestr wirio bag Ysgol
Rhestr wirio y gallwch chi ei argraffu AM DDIM a'i gludo i'r wal i helpu'ch plant i ddysgu sut i bacio eu bag ysgol.
Cynllunydd wythnos Gwyliau'r Haf
Helpwch i drefnu eich dyddiau gyda'n cynllunydd wythnosol.
Siart gwobrwyo am baratoi ar gyfer yr ysgol
Annog eich plant bach i ddod yn gyfarwydd â'r drefn ysgol yn y bore gyda'r siart gwobrwyo defnyddiol yma.
Pa siâp ydw i?
Taflen lliwio i'w cadw'n ddifyr a helpu gyda'u siapiau.
Fy restr wirio am y prynhawn
Canllaw I helpu eich plentyn i ddeall sut y gall helpu bob dydd
Fy siart brwsio dannedd
Dyma siart hwylus i helpu'ch rhai bach i gofio brwsio eu dannedd bob dydd.
Taflen lliwio Hâf
Gofynnwch i'ch rhai bach i liwio nhw mewn gyda lliwiau llachar yr Hâf.
Teuluoedd Anifeiliaid
Bydd eich plant bach wrth eu bodd â’n taflen gweithgaredd Teuluoedd Anifeiliaid i’w lawrlwytho, sy’n gofyn iddynt baru’r anifeiliaid gyda’u rhai ifanc. Lawrlwythwch am ddim yma.
Anrheg ar gyfer Sul y Mamau!
Dyma dempled o gerdyn gyda blodau hardd y gellir eu hargraffu a'u lliwio i helpu eich rhai bach i ddangos faint y maent yn eich caru ar y diwrnod arbennig yma.
7 ffordd wych i blesio plant bach ar Ddydd Sant Ffolant eleni
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu chi i fwynhau Dydd Sant Ffolant gyda'ch rhai bach
Fy helfa sborion
Dyma restr wirio o'r holl bethau y gallech eu gweld ar ymweliad i'r parc. Rhowch gynnig arni!
Fy nhaith
Dyma gêm ddefnyddiol i chwarae pan fyddwch yn mynd o gwmpas yn y car. Rhowch gynnig arni!
Wyddor Cymraeg
Poster syml y gellir ei lawrlwytho i annog plant i ddysgu Cymraeg o oed ifanc.
Taflen lliwio amser gwely
Taflen lliwio y gellir eu defnyddio i helpu rhai bach ymlacio cyn mynd i'r gwely.
Mat bwyd
Mat bwyd defnyddiol i wneud hwyl o amser bwyd.
Rhestr siopa
Mae yna lawer o bethau diddorol yn y siopau, gwelwch faint allwch chi eu gweld.
Matiau bwrdd Nadolig Siôn Corn a Rudolph
Dyma fat bwrdd arbennig y gellir ei lawr lwytho ai personoli gyda mannau i roi moron i Rudolph a mins pei a gwydraid o laeth ar gyfer Siôn Corn.