Neidio i'r prif gynnwy

"Roedd fy niweddar wraig a mi’n arfer rhannu baich y gwaith tŷ, gan ein bod ni’n dau’n gweithio. Roedd gennym drefn oedd yn gweithio i ni - er nad oeddwn i’n dda i ddim am smwddio, mae’n debyg, felly doeddwn i ddim yn cael mynd i’r afael â hwnnw. Trowch y cloc ymlaen rai blynyddoedd ac fe roeddwn i’n rhiant sengl gyda dau o blant saith mis oed a phedair oed, ynghyd â mynydd o waith tŷ.

"Roedd dod o hyd i’r amser, yr egni a’r ysgogiad i ymgymryd â’r holl waith yn anodd a dyna sut mae hi o hyd."

Felly, sut es i i’r afael â phethau?

Rwy’n gweithio’n galed er mwyn cadw fy nosweithiau’n rhydd. Ar ôl dyddiau prysur, y peth olaf dw i eisiau ei wneud yw rhoi’r plant yn y gwely a brysio fel dyn gwallgo’n tacluso ac yn glanhau’r tŷ. Dw i’n ceisio gwneud rhai pethau yn ystod y dydd felly, pan mae’r plant yn y gwely, dw i’n gwybod y galla’ i ddod 'nôl lawr, eistedd ac ymlacio. Er mwyn gwneud hynny, dw i angen i’r plant helpu ychydig bach.

Pan oedd George yn rhy ifanc i helpu, roedd fy merch Ayda’n wych. Fe fydden i wedi bod ar goll hebddi. Helpodd Ayda fi gyda’i brawd bach, roedd hi’n aml wrth ei bodd yn bod yn fam, ac roedd hi’n fy helpu o gwmpas y tŷ hefyd. Roedd hi fel pe bai hi’n mwynhau cael ychydig o gyfrifoldeb ac, er bod y drefn hon yn angenrheidiol i ddechrau, hoffwn feddwl y byddai Ayda a George wedi bod eisiau helpu beth bynnag.

"Dw i’n meddwl ei fod yn bwysig i bob rhiant fod eu plant yn gwerthfawrogi bod gwaith sydd angen ei wneud a bod unrhyw beth y gallan nhw ei wneud i ysgafnhau’r baich yn cael ei werthfawrogi’n fawr."

Dysgodd Ayda nad oes tylwyth teg yn dod yn y nos i wneud y gwaith a bod rhaid i Dad wneud y pethau yma, p’un a fyddai hi’n helpu neu beidio.

Nawr, peidiwch â’m camddeall, dw i ddim yn cynnal rhyw fath o wyrcws. Does gen i ddim rhestrau i’r plant ac nid yw hyn o anghenraid yn rhywbeth dyddiol. Y cwbl dw i’n ei ofyn yw eu bod nhw’n rhoi eu dillad brwnt yn y fasged, mynd â llestri brwnt allan i’r gegin, rhoi papurau a sbwriel yn y bin a thacluso’n gyffredinol ar eu holau.

Mae’n anodd ambell ddiwrnod, ond ar ddyddiau eraill fe fydd Ayda’n gwneud pethau heb i fi ofyn iddi. Fe wnaiff hi dacluso’r teganau neu’r cwpwrdd esgidiau ac mae hi wrth ei bodd yn rhoi sglein ar bethau. Weithiau, fe wnaiff hi rywbeth y mae hi’n meddwl sydd angen ei wneud - ond byth yn ei hystafell ei hunan.

"Rwy’n teimlo’n falch iawn, ac weithiau ychydig yn emosiynol, pan fydd Ayda’n rhedeg mewn i ystafell yn gwenu, yn ysu i ddweud rhywbeth y mae hi wedi ei wneud i ysgafnhau’r baich."

Yn ychwanegol at yr help mae hi’n e roi i mi bob hyn a hyn, yw’r ffaith fod George yn gweld ei chwaer fawr wrthi a chymaint dw i’n gwerthfawrogi’r pethau hyn.

Yn amlwg, rydym ni gyd yn agos iawn ac yn mwynhau gwneud pethau gyda’n gilydd. Dw i wir yn gwerthfawrogi eu help a dw i ddim eisiau gwneud iddo deimlo fel gwaith diflas. Byddwn yn rhoi cerddoriaeth ymlaen neu’n rasio i weld pwy yw’r cyflymaf i wneud rhywbeth - gosod sanau mewn parau neu roi’r smwddio heibio. Rydym yn treulio'r hyn y byddwn i’n ei ddweud sy’n amser gwerth chweil gyda’n gilydd - yn siarad, gwenu a chwerthin, ond yn cyflawni pethau o gwmpas y tŷ ar yr un pryd, cyn i ni droi at rywbeth sy’n fwy o hwyl.

"Mae trefn pawb yn wahanol ac, yn y pendraw, yr hyn sy’n bwysig yw beth sy’n gweithio i chi a’ch plant."

Yn bersonol, alla’ i ddim ymlacio tan fy mod yn gwybod fy mod wedi cyflawni’r holl waith tŷ ac yn barod ar gyfer y diwrnod canlynol. Yn ystod yr wythnos, dw i’n paratoi dillad y plant erbyn y diwrnod wedyn, er enghraifft, gan ei fod yn un peth yn llai i mi boeni amdano. Mae boreau yn brysur ac yn wallgo’, does dim ots pryd fyddwn ni’n codi.

Ers i ni golli fy ngwraig, a mam y plant , ddwy flynedd a hanner yn ôl, yr enw y mae pobl wedi ei roi arnon ni yw ‘y tri mysgedwr’. Rydym yn dîm, yn uned, ac rwy’n benderfynol o sicrhau ein bod yn aros yn agos ac yn gwneud pethau gyda’n gilydd gan wenu - boed hynny’n chwarae, gwylio ffilm gyda’n gilydd neu wneud gwaith o gwmpas y tŷ."