Ddim mor fach erbyn hyn
Mae fy nau blentyn wedi dechrau cyfnodau gwahanol yn yr ysgol ond hefyd cyfnodau gwahanol o fywyd.
Gwnaeth fy hynaf, Ayda, ddechrau yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi ac mae fy mab, George, wedi dechrau yn yr adran iau. Roedd y ddau beth yn sioc fawr i’r system i ddechrau, ond mae’r ddau wedi dod i arfer gydag amser ac maen nhw wedi bod yn gwneud yn dda.
Mae’r ddau wedi dod yn fwy annibynnol wrth iddyn nhw ddechrau eu cyfnodau newydd o fywyd ac wrth i Ayda ddechrau yn yr ysgol uwchradd, mae hi’n teimlo’n fwy aeddfed (yn llawer rhy aeddfed yn fy marn i). Yn ogystal â bod mewn cyfnodau newydd o’r ysgol, rwy’n credu bod y rhyddid, ar ôl covid, hefyd â rhan yn eu hannibyniaeth newydd. Yn ystod y cyfnod clo, bu’n rhaid iddyn nhw ddysgu i ddiddanu eu hunain a doedden nhw ddim yn cael gweld neb, a nawr maen nhw’n wrth eu bodd bod y pethau hynny yn y gorffennol ac yn cymryd mantais lawn o’r rhyddid newydd hwnnw. Mae George yn dal i fod yn swil iawn ac yn sensitif, felly gwnaeth y cyfnod clo a methu gweld ei deulu effeithio’n fawr arno. Mae’n braf i’w weld yn gwneud y mwyaf o’i ryddid newydd ac yn dod yn fwy annibynnol.
Rwy’n credu wrth i’r ddau fynd yn hŷn, ac efallai fel y mae plant yn ei wneud yn gyffredinol, maen nhw wedi dechrau herio yn fwy. Yn eu llygaid nhw, dyw “na” ddim o reidrwydd yn golygu “na” bellach. Mae cwestiynau fel ‘Gaf i aros lan yn hwyrach?’ a ‘Gaf i aros mas yn hwyrach?’ yn rhai rwy’n eu hateb yn rheolaidd erbyn hyn. Yr her yw gwybod lle i roi’r ffin-; mae’n gallu bod yn anodd gwybod p’un a dweud “na” drwy’r amser, fel y byddai Ayda yn dweud wrthych chi rwy’n ei wneud, neu efallai rhoi i mewn i’r cwestiynau hynny yn rhy aml. Mae'n ymwneud â cheisio dod o hyd i’r cydbwysedd iawn sy’n llawer haws ei ddweud na’i wneud. Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, rwy’n ceisio trafod pethau gyda nhw yn fwy yn hytrach na dweud y drefn a gwneud iddyn nhw deimlo fy mod yn bod yn negyddol.
Ymunodd Ayda â thîm pêl-droed merched tua blwyddyn yn ôl ac mae hi wrth ei bodd! Tyfais i fyny yn chwarae ac yn gwylio pêl-droed, felly mae hi wedi bod yn hyfryd gallu rhannu hynny gyda hi. Diolch i fy nhad, rwy’n gefnogwr mawr o Everton a gan fod dad wedi rhoi hyn yn anrheg/melltith i fi roeddwn i’n teimlo mai fy hawl i oedd trosglwyddo’r traddodiad teuluol. Mae Ayda wrth ei bodd yn gwylio gemau Everton gyda fi, un ai ar y teledu neu pan allwn ni fynd i’r stadiwm i weld gêm fyw. Gan ei bod hi’n tyfu i fyny mor gyflym ac eisiau treulio ei hamser gyda’i ffrindiau, mae’n wych ein bod ni wedi dod o hyd i angerdd y gallwn ni ei rannu, sy’n dod â ni at ein gilydd!
Beth bynnag fydd eu hoedrannau, fy nghyngor gorau iddyn nhw yw chwerthin! I mi, does dim byd yn well na chael hwyl gyda nhw a bod â dagrau yn ein llygaid o chwerthin yn wirion ar ein gilydd. Mae’n fy helpu i a nhw i anghofio am y pethau dibwys a mwynhau’r foment o hapusrwydd llwyr -; dim ond y tri ohonom ni, a dydw i byth yn diflasu ar hynny!