Pan mae plentyn yn strancio, mae’n ysgogi ymateb cyntefig ynom ni (nod crio yw mynnu ein sylw), sy’n golygu ein bod ni eisiau helpu’r plentyn a gwneud iddo stopio. O ganlyniad, rydym ni’n creu ffws, yn mynnu eu sylw, yn llwrgwobrwyo neu’n bygwth cosbi ein plant.

Yn lle gwneud y pethau hyn, rwy’n ceisio gweld y byd o safbwynt y plentyn. Ar yr un pryd, rwy’n atgoffa fy hun bod ymennydd y plentyn yn dal i ddatblygu ac, o ganlyniad, nid yw’n gallu ymdopi â phopeth mae’r byd yn ei daflu ato, sydd wrth gwrs yn golygu nad yw’n gallu meddwl yn rhesymol fel oedolyn. Mae nifer o bethau yn gallu achosi fy mhlentyn i strancio – blinder, chwant bwyd neu ddigwyddiad arall sydd wedi achosi iddo ymateb mewn ffordd emosiynol. Os yn bosibl, rwy’n trefnu gweithgareddau o amgylch amser bwyd ac amser cysgu, mewn ymdrech i osgoi gorflinder, tra fy mod yn cario byrbrydau gyda fi i bob man er mwyn osgoi strancio oherwydd eisiau bwyd.

Nid ydw i’n gofyn “beth sy’n bod?” neu “pam wyt ti’n crio?” achos, yn aml, nid yw’r plentyn yn gallu ateb. Rwy’n penglinio wrth ochr y plentyn, yn edrych i fyw ei lygaid os yn bosibl, ac yn gadael iddo strancio. Wedyn, rwy’n tueddu dweud rhywbeth fel “ti wedi ypsetio yn dwyt ti” neu “rwy’n deall dy fod ti wedi ypsetio”. Os ydw i’n gwybod pam fod y plentyn wedi ypsetio, rwy’n ailadrodd beth ddigwyddodd wrtho – “ti eisiau’r losin yma ond nid yw mami’n fodlon. Dyna pam ti wedi ypsetio”.

Er ei bod hi’n dda cydymdeimlo gyda’r plentyn, mae hi hefyd yn bwysig peidio â rhoi mewn a rhoi’r losin iddo. Yn fy mhrofiad i gyda phlant, maen nhw fel arfer yn tawelu’n weddol gyflym ac yn dod am gwtsh. Os gallwch ddatblygu agwedd fwy cadarnhaol am strancio, byddwch yn fwy parod i ddelio gyda nhw. Nid yw’r plentyn yn strancio er mwyn eich rhwystro, eich gwneud i deimlo’n chwithig nac i ddifetha eich diwrnod; maen nhw’n strancio oherwydd nid ydynt yn gwybod beth arall i’w wneud gyda’r holl emosiynau y maen nhw’n eu teimlo.

Dyma fy nghyngor gorau ar gyfer deilio â strancio:

  • Siaradwch gyda’r plentyn – hyd yn oed os nad yw eich plentyn yn gallu siarad. Mae babanod yn gallu deall llawer o’r pethau rydym ni’n ei ddweud ac mae’n gallu helpu o ran pontio: “Mae hi bron yn amser tacluso’r teganau er mwyn i ni gael rhywbeth i’w fwyta. Wyt ti’n mynd i roi’r teganau yn y fasged neu wyt ti eisiau i fi helpu?”

  • Rhowch ddewis i’r plentyn – gyda phlant bach sydd ychydig yn hŷn, rhowch ddewisiadau cyfyng iddynt a gadewch iddyn nhw gael ychydig o reolaeth dros y sefyllfa. Ond peidiwch â rhoi gormod o ddewisiadau iddynt, yn enwedig os ydynt wedi blino: “Wyt ti eisiau tacluso dy esgidiau neu wyt ti eisiau help?” neu “Pa siwmper wyt ti eisiau gwisgo, yr un goch neu’r un las?”

  • Byddwch yn gyson - mae’r rhan fwyaf o blant yn hoffi trefn, felly os yw’r teganau yn cael eu tacluso cyn amser bwyd, nid yw’n syndod pan mae hynny’n digwydd y diwrnod wedyn. Mae plant yn dysgu rhagweld gweithgareddau a, phwy a ŵyr, efallai byddant hyd yn oed yn penderfynu eich helpu.

  • Cynlluniwch o flaen llaw – ceisiwch atal eich plentyn rhag gorflino a sicrhewch fod rhywbeth i’w fwyta wrth law bob amser. Yn aml, mae chwant bwyd yn creu plentyn anhapus.

  • Peidiwch â rhoi mewn iddynt – ar ôl i’ch plentyn stopio strancio, mae’n bwysig i chi beidio â rhoi mewn i’r dymuniad gwreiddiol. Efallai y gallwch gyfaddawdu gyda’r plentyn, ond bydd rhoi mewn i’r dymuniad gwreiddiol yn annog y plentyn i ailadrodd yr ymddygiad.

  • Peidiwch â chynhyrfu – mae eich agwedd chi’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Trwy beidio â chynhyrfu, ni fydd eich plentyn yn strancio’n hir. Trwy ailadrodd yr hyn mae eich plentyn yn ei ddweud wrthoch chi, byddwch yn dangos iddo eich bod wedi ei glywed ac eich bod yn ei ddeall. Cofiwch roi cwtsh fawr i’ch plentyn ar ôl iddo stopio strancio, cyn parhau â gweddill y dydd yng nghwmni eich gilydd.