Neidio i'r prif gynnwy

Dyma ddeg awgrym gwych i helpu â datblygiad eich plentyn.

1. Trefn arferol syml, reolaidd

Bydd hyn yn dy helpu di a dy blentyn i deimlo’n fwy diogel. Bydd trefn arferol yn helpu i roi strwythur i’r dydd o fore gwyn tan nos. Bydd angen cynllunio o flaen llaw ar gyfer y diwrnod a’r wythnos nesaf, ond ceisia gadw popeth yn syml ac yn ymarferol – amser codi, prydau bwyd, bath, ymarfer corff a mynd i’r gwely.

2. Siaradwch am beth rydych chi’n mynd i’w wneud

Siarada ac eglura i dy blentyn beth rydych chi’n mynd i’w wneud yn ystod y dydd. Dysga dy blentyn i siarad yn ei dro mewn sgwrs. Meddylia am beth mae dy blentyn yn ei wybod yn barod, ac ychwanega at hyn o fewn patrwm y dydd. Bydd yn “sylwebydd” parhaus gan gadw dy iaith yn syml. Tynna lun neu dangosa luniau, neu defnyddia bethau i ddangos beth rydych chi’n mynd i’w wneud, os oes angen mwy o help ar dy blentyn i ddeall. Os oes gen ti luniau o ffrindiau a/neu aelodau o’r teulu, beth am eu defnyddio i siarad am bobl sy’n bwysig i chi ond sy’n byw mewn cartref arall?

3. Mwynhewch eich amser gyda’ch gilydd

Mwynhewch, rydym yn dysgu orau pan fyddwn ni’n mwynhau beth rydym yn ei wneud. Os nad wyt ti neu dy blentyn yn mwynhau rhywbeth, gwnewch rywbeth arall. Ceisia wneud yn siŵr dy fod ti a dy blentyn yn cael hwyl wrth wneud rhywbeth gyda’ch gilydd bob dydd, mwy nag unwaith y dydd os gallwch chi!

4. Dewisa pryd yn union i ddefnyddio dyfeisiau

Defnyddia’r teledu a/neu ddyfeisiau eraill, ond dewisa pryd rydych chi’n mynd i wylio a beth rydych chi’n mynd i’w wneud. Mae gan Cyw ar S4C a CBeebies raglenni llawn hwyl. Defnyddia dy ffôn/dyfeisiau eraill i ffilmio beth rydych chi wedi’i wneud – cicio pêl, dysgu cân neu air newydd. Diffoddwch y teledu pan nad ydych yn ei wylio fel nad oes ffrwd ddi-baid o wybodaeth.

5. Defnyddia bethau sydd yn y cartref neu’n agos ato

Does dim rhaid prynu unrhyw beth ychwanegol. Gallwch chi fynd am dro yn eich gardd neu’n agos i’ch cartref, a thynnu sylw at flodau, adar a choed, adeiladau, a phethau cyffredin a’u henwi nhw. Beth am chwarae gemau cerdded, rhedeg a chwilio? Gwneud helfa drysor am bethau bob dydd yn eich tŷ/gardd? Dysgu cân neu rigwm newydd i dy blentyn? Chwarae gemau dal pêl neu rolio pêl yn ôl ac ymlaen? Defnyddio’r drychau yn yr ystafell ymolchi i annog dy blentyn i gopïo beth rwyt ti’n ei wneud a chymryd tro – tynnu ystumiau gwirion efallai? Mae plant yn hoffi gwneud gweithgareddau cyfarwydd dro ar ôl tro. Ti yw athro cyntaf dy blentyn, a’i athro gydol oes – galli di wneud cymaint i’w helpu i ddysgu a thyfu. Mae dy blentyn yn gallu dy addysgu di hefyd – edrycha ar sut mae dy blentyn yn dysgu orau.

6. Gad i dy blentyn gymryd rhan a helpu gyda’r gwaith tŷ gymaint â phosib

Glanhau, coginio, trwsio. Os nad yw’n gallu helpu, gad i dy blentyn wylio ac esbonia beth rwyt ti’n ei wneud. Os oes gennyt ti blant hŷn, efallai y byddan nhw’n gallu helpu drwy ddiddanu neu siarad â’u brawd neu chwaer fach.

7. Gwna man clyd a thawel i dy blentyn gael llonydd

Fel nyth. Gwna nyth i dy hun hefyd. Rho dy ffôn o’r golwg mewn drôr ac edrych arno ar adegau penodol yn unig (ddim yn rhy aml). Sylwa ar dy bryderon, gofynna am gyngor/cymorth os oes ei angen a gad i dy blentyn ofyn am gymorth hefyd. Gwna ymarferion anadlu’n ddwfn ac ymlacio.

8. Gad i dy blentyn siarad a gofyn cwestiynau am COVID 19 a phethau eraill sy’n ei boeni

Mae Covid 19 yn dal i fod o’n cwmpas ac os yw dy blentyn eisiau siarad amdano rho’r ffeithiau yn syml iawn. Efallai y bydd yn poeni am y rhyfel yn Wcráin hefyd neu am beidio â bod â digon o arian. Gad iddyn nhw siarad am eu pryderon, bach neu fawr.

9. Cadwa mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu

Gallai hyn fod bob dydd neu unwaith neu ddwy yr wythnos, wyneb yn wyneb neu drwy FaceTime/Skype/ WhatsApp os ydyn nhw’n byw ymhell i ffwrdd. Dechreua drwy ddweud “Helo” a gorffenna drwy ddweud “Hwyl fawr”. Sonia neu dangosa i dy deulu un peth mae dy blentyn wedi’i wneud yn dda neu wedi’i ddysgu. Penderfyna beth i’w rannu/wneud, canu cân neu ddawnsio. Os oes angen sgwrs hirach dy hun, ffonia eto yn hwyrach pan fydd dy blentyn yn cysgu, os nad wyt ti wedi blino gormod!

10. Dathla lwyddiannau

Ar ddiwedd pob dydd, meddylia am un peth arbennig o bositif rwyt ti a dy blentyn wedi llwyddo i’w wneud ac wedi’i fwynhau y diwrnod hwnnw. Dweda wrth dy blentyn, siaradwch amdano a’i gofnodi mewn rhyw ffordd a’i ddathlu.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar fagu plant, cer i

llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo

Cadwa mewn cysylltiad â dy Ymwelydd Iechyd. Mae yno i dy helpu di a dy deulu.

Ffynhonnell

Anne Marie McKigney, Seicolegydd Plant Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,

Dr Heather Payne, Paediatregydd Ymgynghorol, Uwch Swyddog Meddygol ar gyfer Mamolaeth ac Iechyd Plant, Llywodraeth Cymru.

Ebrill 2020 Diwygiwyd Mehefin 2022

Dysgwch beth allwch ei wneud fel rhiant i helpu eich plentyn i ddatblygu.