Neidio i'r prif gynnwy

Gellir defnyddio siartiau gwobrwyo i annog a chanmol ymddygiad cadarnhaol plentyn ac mae’n ffordd o ddechrau ei helpu i ddilyn cyfarwyddiadau syml. Bydd yn casglu sticeri neu docynnau bob tro y bydd yn ymddwyn yn gadarnhaol ac yna’n cyfnewid y sticeri neu’r tocynnau am wobr yn nes ymlaen.

Dewis yr ymddygiad y mae angen ei newid neu ei annog

Mae’n well canolbwyntio ar un ymddygiad ar y tro, er enghraifft tacluso teganau bob dydd cyn mynd i’r gwely.

Gall y plentyn gymryd rhan 

Beth am greu’r siart gyda dy blentyn gan ddefnyddio paent a phapur lliwgar a gadael iddo benderfynu beth ddylai ei wobr fod? Beth am roi lluniau o’r gwobrau ar y siart i’w helpu i gofio? Neu beth am ddefnyddio pos fel siart a rhoi un darn ar y tro i’r plentyn ei greu. Gallwch lawrlwytho ein Rhiant. Rhowch amser iddo Siart Seren neu mae yna hefyd lawer o siartiau gwobrwyo i’w lawrlwytho am ddim ar-lein (Saesneg).

Meddwl beth fydd y gwobrau a gwneud yn siwr eu bod yn hawdd eu cyflawni 

Er enghraifft, os yw’n cyflawni 8 sticer erbyn diwedd yr wythnos, gall gael ffrind draw am de neu fynd i’w hoff barc. Mae’n well peidio â defnyddio danteithion melys fel gwobr a meddwl yn lle hynny am weithgareddau am ddim ac sy’n hwyl y mae dy blentyn yn hoffi eu gwneud, fel neidio mewn pyllau neu chwythu swigod.

Egluro yn union beth y mae eisiau i’r plentyn ei wneud yn glir ac yn syml 

Er enghraifft, mae “Coda’r holl geir bach a’u rhoi yn y fasged” yn gliriach na “Taclusa dy deganau”.

Rhoi’r siart lle gall y plentyn ei weld 

Efallai y byddai’n well gan blant hyn ei bod yn eu hystafell wely.

Rhoi sticer ar unwaith i’r plentyn ar ôl i’r ymddygiad da ddigwydd 

Rho ganmoliaeth benodol i dy blentyn fel ei fod yn gwybod pam ei fod yn cael y sticer neu’r tocyn. Er enghraifft, “Roeddwn i’n hoff’r ffordd y gwnes ti rannu dy deganau gyda Tom y bore yma. Dyma sticer ar gyfer dy siart”.

Ceisio bod yn gadarnhaol ac yn rhesymol 

Canmol dy blentyn am ei ymddygiad da waeth pa mor fawr neu fach. Cofa, does dim angen aros i’r plentyn wneud rhywbeth yn berffaith, penderfyna beth sy’n bosibl. Paid â bygwth tynnu sticeri a paid â thynnu sticeri am ymddygiad trafferthus oherwydd byddai angen ymdrin â chanlyniadau ar gyfer hyn ar wahân.

Gwobrau bach, aml

Does dim angen i’r rhain fod yn anrhegion drud. Os oes gormod o amser rhwng y sticer a’r wobr, efallai y bydd y plentyn yn colli diddordeb neu gymhelliant. Os nad yw’r siart yn gweithio, paid â phoeni, rho gynnig ar rywbeth arall.