Neidio i'r prif gynnwy

Mae’ch plentyn yn dod yn fwy annibynnol ac yn gallu gwneud rhagor o bethau ar ei ben ei hun.

Mae’ch plentyn yn dod yn fwy annibynnol ac yn gallu gwneud rhagor o bethau ar ei ben ei hun. Mae’n dechrau dysgu sut mae cyd-dynnu gydag eraill, ac mae’n gallu rheoli ei deimladau’n well (er ei fod yn cael ambell stranc o hyd o bosib). 

Mae’ch plentyn yn symud i blentyndod. Ceisiwch fod yn amyneddgar wrth i’ch plentyn fagu sgiliau newydd. Er bod eich plentyn yn dechrau mynd yn annibynnol iawn, mae e dal angen digon o gwtshus ac anogaeth gennych chi. Pan fyddwch chi’n canmol eich plentyn ac yn rhoi llawer o sylw cadarnhaol iddo, mae hyn yn hybu ei hunan-barch ac yn ei helpu i ddysgu.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn sôn am wahanol gamau datblygiad eich plentyn ac yn rhoi cyngor ar sut gallwch chi ei gynorthwyo. Hwyrach y bydd eich plentyn yn gwneud rhai pethau yn gynt neu’n hwyrach na’r hyn sydd yn y canllawiau.

Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd, Meddyg Teulu, Addysg Feithrin lleoliad neu ysgol. 

Rhwng 3 a 4 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn yn:

  • Hoffi chwarae gyda phlant eraill ac mae ffrindiau’n dod yn bwysicach.
  • Siarad yn dda mewn brawddegau ac yn siarad yn ddigon clir i gael ei ddeall (os yw hi’n anodd deall eich plentyn tair oed yn siarad, soniwch wrth eich meddyg teulu neu’ch ymwelydd iechyd).
  • Gofyn llawer o gwestiynau.
  • Siarad â phlant eraill wrth chwarae.
  • Tynnu llun clir o berson gydag wyneb, a breichiau a choesau efallai. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o ymarfer ac anogaeth gaiff e.
  • Bwyta’n annibynnol.
  • Gwisgo a dadwisgo.
  • Hoffi chwarae gemau dychmygus a deall rheolau syml mewn gemau fel chwarae cuddio.
  • Gallu adnabod a mynegi gwahanol emosiynau.

Rhwng 4 a 5 oed mae’n bosib y bydd eich plentyn yn:

  • Siarad yn dda a bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddeall.
  • Wedi datblygu sgiliau echddygol manwl fel defnyddio siswrn diogelwch plant a chau botymau bach. 
  • Gallu creu lluniau a symbolau.
  • Gwybod enwau’r prif liwiau a gallu eu paru.
  • Wedi datblygu sgiliau echddygol bras fel rhedeg, neidio, sgipio a dringo.
  • Chwarae gyda pheli’n hyderus a gallu taflu, cicio, bownsio a dal.
  • Chwarae’n gytûn gyda phlant eraill.

Sut i annog a chynorthwyo datblygiad eich plentyn

  • Rhowch lawer o gwtshus, sylw a chlod i’ch plentyn. Rhowch sylw unigol iddo pryd bynnag y gallwch chi 
  • Ceisiwch gadw pethau'r un fath gymaint â phosibl. Bydd cael trefn reolaidd yn helpu’ch plentyn bach i gael teimlad o sicrwydd. Ceisiwch fwyta, ymolchi a rhoi’ch plentyn i’w wely tua’r un amser bob dydd.
  • Rhowch ddigon o rybudd i’ch plentyn am beth fydd yn digwydd nesaf. “Pan fyddi di wedi bwyta dy frecwast, byddwn ni’n gwisgo”. Bydd eich plentyn yn dod i ddisgwyl a derbyn newid yn well os yw’n gwybod ei fod yn dod.
  • Ceisiwch gael ambell reol glir a syml y gall eich plentyn ei deall a’i dilyn. Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi eisiau iddo ei wneud, nid beth dydych chi ddim eisiau iddo ei wneud.
  • Sylwi ar y math o ymddygiad yr ydych chi eisiau ei weld yn eich plant, fel eu bod nhw’n gwybod i ailadrodd y rhain. Rhowch lawer o ganmoliaeth a sylw i’ch plentyn pan fydd yn gwneud rhywbeth cadarnhaol. 
  • Ceisiwch osgoi gormod o deledu a theclynnau eraill fel llechi neu ffonau deallus. Gallan nhw ddiddanu’ch plentyn ond peidiwch â’u defnyddio am fwy nag awr bob dydd. 
  • Rhowch ddewisiadau syml. “Hoffet ti afal neu fanana?” “Wyt ti eisiau gwisgo crys coch neu un glas?”
  • Dangoswch ddiddordeb yn yr hyn sydd gan eich plentyn i’w ddweud. Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn mae’n ei ddweud. Bydd hyn yn dangos i’ch plentyn ei fod yn bwysig i chi. Anogwch eich plentyn i siarad drwy ofyn cwestiynau penagored fel “Beth wnes ti fwynhau orau heddi?”
  • Gwnewch brydau bwyd yn bleserus. Eisteddwch a siaradwch am bethau a cheisiwch fwyta gyda’ch gilydd. Mae mwy o wybodaeth am ba fwyd i’w roi i’ch plant a syniadau ar gyfer prydau bwyd ar wefan Healthier Families website.
  • Rhannwch lyf. Bydd eich plentyn yn dwlu ar yr amser arbennig hwn gyda chi a gall ei helpu i dawelu cyn amser gwely. Siaradwch am yr hyn sy’n digwydd yn y stori ac yn y lluniau. Gallwch ofyn am lyfrau addas yn eich llyfrgell leol.
  • Byddwch yn greadigolRhowch ddigon o gyfleoedd iddo dynnu llun, peintio a modelu gyda chlai neu does chwarae.
  • Cofiwch Chwarae. Bydd chwarae egnïol yn helpu’ch plentyn i ddatblygu ei sgiliau corfforol fel rhedeg, neidio, taflu a dringo. Mae chwarae dychmygus yn rhoi cyfle i’ch plentyn ddefnyddio’i ddychymyg a datblygu ei sgiliau siarad a gwrando. Bydd gemau bwrdd, gemau cofio a gemau dyfalu yn annog sgiliau meddwl eich plentyn.

Mae syniadau ar gyfer caneuon, llyfrau a gweithgareddau chwarae yn Siarad gyda Fi, thudalen Facebook Education Begins at Home (Dolen allanol), Plentyndod Chwareus (Dolen allanol), Book Trust Cymru (Colen allanol), a Words for Life (Dolen allanol).

Mae gan eich plentyn yr hawl i Addysg Feithrin cyn-ysgol ran-amser am ddim (o leiaf 10 awr yr wythnos), fel rhan o’r cynnig gofal plant 30 awr, yr wythnos yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed gan ganolbwyntio ar alluogi plant i ddysgu trwy chwarae ac fe’i cynhelir dan do ac yn yr awyr agored. Mae’r cwricwlwm yn sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i fod yn ganolog i’w ddysgu.

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd roi gwybodaeth i chi am y lleoliad gofal plant yn eich ardal chi. 

Peidio â smacio dy blentyn na’i gosbi’n gorfforol. Mae’n anghyfreithlon yng Nghymru. Mae angen i blant deimlo’n ddiogel yn eu teulu ac yn eu cartref er mwyn gallu bod ar eu gorau.

Mae’r rhan fwyaf o rieni yn wynebu adegau pan fyddan nhw’n teimlo eu bod wedi cael eu profi i’r eithaf. Nid oes neb yn berffaith. Mae pawb yn colli ei dymer weithiau, ac yn dweud pethau sy’n gwneud iddyn nhw ddifaru wedyn. Mae’n iawn dweud sori wrth eich plentyn os ydych chi wedi bod yn flin ag ef. Drwy ymddiheuro wrthyn nhw, mae’n eu helpu nhw i weld yr hyn y gallan nhw ei wneud er mwyn gwneud pethau’n iawn pan fyddan nhw’n colli eu tymer. 

Mae’n iawn gofyn am help. Os ydych chi’n poeni am deimlo dan bwysau neu’n isel, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg teulu. 

Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn o ddefnydd i chi hefyd:

  • Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (C.A.L.L.) - ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr), neu decstio ‘help’ i 81066. Mae hon yn linell gymorth gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
  • Y Samariaid ar 116 123 (gwasanaeth cyfrinachol 24 awr). Gallwch gysylltu am unrhyw beth sy’n eich poeni chi, waeth pa mor fawr neu fach yw’r mater

Mae gweithgareddau fel chwarae, canu, tynnu lluniau neu daflu pêl yn achosi gwahanol ardaloedd o ymennydd eich plentyn i dyfu cysylltiadau newydd neu ddatblygu cysylltiadau cryfach. Mae profiadau dysgu newydd yn helpu ymennydd eich plentyn i dyfu.