Datblygiad eich plentyn
Bydd deall mwy am ddatblygiad eich plentyn yn eich helpu i ddeall ymddygiad eich plentyn yn well.
Y wen gyntaf, gafael mewn tegan, cropian, cymryd y cam cyntaf a dweud eu gair cyntaf - cerrig milltir datblygiadol yw’r enw ar y pethau hyn. Dyma’r pethau y bydd y rhan fwyaf o blant yn gallu eu gwneud erbyn oedran arbennig. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dilyn patrwm tebyg wrth ddatblygu, er y bydd yr oedran y mae pob plentyn yn cyrraedd cerrig milltir penodol yn amrywio. Hwyrach y bydd plant anabl neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cymryd mwy o amser i gyrraedd y gwahanol gamau.
Mae gwybodaeth fanylach am ddatblygiad eich plentyn yn y llyfr ‘Naw Mis a Mwy’. Mae’n cynnwys gwybodaeth am fwydo, torri dannedd, brechiadau, iechyd eich plentyn a gwneud eich cartref yn ddiogel hefyd. Os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.
Peidiwch â chymharu eich plentyn gyda phlant eraill. Bydd hyn yn rhoi pwysau arnoch chi a’ch plentyn. Mae pob plentyn yn unigryw. Bydd pob plentyn yn datblygu pan mae’n barod ac yn ei ffordd ei hun. Byddan nhw’n cyrraedd y camau datblygu gwahanol ar adegau gwahanol. Byddan nhw’n ymateb yn wahanol i’r pethau o’u cwmpas hefyd, yn dibynnu ar eu personoliaeth neu natur.
Mae’r ffordd y mae’ch plentyn yn ymddwyn yn rhan o dyfu i fyny. Bydd llawer o’r ymddygiad sy’n anodd i chi yn gwbl normal ar gyfer oedran a cham datblygu’ch plentyn. Ceisiwch fwynhau a dathlu newidiadau’ch plentyn ac addasu iddyn nhw.
Dyma wybodaeth gyffredinol am y gwahanol gamau datblygu a chyngor ar sut i annog a chynorthwyo’ch plentyn.