Neidio i'r prif gynnwy

Efallai na fyddwch gyda'ch gilydd fel rhieni o hyd: efallai bod un ohonoch yn byw i ffwrdd, neu'n gweithio i ffwrdd am gyfnodau, ond rydych yn parhau i fod yn rhieni i'ch plentyn. Beth bynnag eich sefyllfa, mae'n bwysig ichi weithio gyda'ch gilydd i benderfynu sut i fagu eich plentyn.

Pryderon rhieni sydd adref gyda'r plant: 

  • Gwneud penderfyniadau  Bod yr unig un i benderfynu ar drefn reolaidd y plant, a rheoli eu hymddygiad.
     
  • Teimlo'n unig – Gall fod yn unig bod yn rhiant sengl a magu plant a gwneud penderfyniadau heb gymorth.
     
  • Pryderu am bartner yn dychwelyd – Gall pobl boeni na fydd partner yn ffitio i'r drefn reolaidd ar gyrraedd yn ôl, gall hyn arwain at ddryswch a gwrthdaro. 
     
  • Teimladau negyddol – Teimlo'n anhapus eu bod yn cael eu gadael ar ôl i reoli'r teulu ar eu pen eu hunain; gall hyn arwain at deimlo'n grac gyda'r partner arall. 
     
  • Sefyllfaoedd brys – Poeni a fydd y partner yn gallu cyrraedd adref mewn achos brys.

Pryderon rhieni sydd oddi cartref: 

  • Methu pethau pwysig – Gall pobl fod yn drist iawn gan eu bod yn methu pethau pwysig e.e., digwyddiadau ym mywydau eu plant, fel penblwyddi, dramâu ysgol, neu fabolgampau.
     
  • Methu ffitio i mewn – Poeni na fyddant yn ffitio i’r drefn reolaidd y teulu ar ôl dychwelyd adref.
     
  • Ddim yn teimlo bod y teulu eu hangen – Teimlo nad yw'r teulu eu hangen, gan fod y plant yn tyfu lan hebddynt. 
     
  • Teimlo'n flinedig – Teimlo wedi ymlâdd ar ôl bod i ffwrdd, ond eto eisiau bod yn frwdfrydig am fod adref.
     
  • Teimladau negyddol – Teimlo'n genfigennus o'r partner sy'n gallu aros gartref. 
     
  • Sefyllfaoedd brys – Poeni am allu cyrraedd adref at y teulu mewn achos brys.

Gallwch weithio gyda'ch gilydd er budd eich plentyn drwy wneud y canlynol:

  • Glynu at drefn reolaidd  Bydd yn anodd i’ch plentyn fod i ffwrdd o riant, felly ceisiwch gadw pethau adref fel y maent wastad wedi bod e.e., yr un drefn reolaidd amser gwely, yr un bobl yn mynd â nhw i'r feithrinfa/ysgol, yr un tasgau a gweithgareddau. 
     
  • Trefnwch amserau 'cadw mewn cysylltiad'  Os bydd un rhiant i ffwrdd, byddwch oll yn teimlo'n well o drefnu diwrnod / amser bob wythnos i'ch plentyn gadw mewn cysylltiad yn iawn â'r rhiant sydd i ffwrdd, naill ai ar y ffôn neu dros alwad fideo. Gall y ddau riant drefnu gyda'ch plentyn beth yr hoffent siarad amdano.
     
  • Rhowch y newyddion diweddaraf i'ch gilydd  Gwnewch nodyn o wybodaeth am eich plentyn neu aelodau o'r teulu a threfnwch amser bob wythnos i roi'r diweddaraf i'ch partner. Ceisiwch lynu at y drefn hon.
     
  • Calendr – Gall cymorth gweledol, megis calendr, fod yn ddefnyddiol, fel bod eich plentyn yn gallu gweld pryd fydd y rhiant arall yn dod adref. Gall eich plentyn gael trafferth gyda'r cysyniad o amser, felly helpwch nhw drwy adael iddyn nhw groesi'r diwrnodau i ffwrdd bob bore a chyfrif y diwrnodau sydd ar ôl.
     
  • Rhannu tasgau, gweithgareddau a digwyddiadau – Rhaid sicrhau bod y ddau riant yn ymwybodol o ddyddiadau yng nghalendr eich plentyn, o bartïon a chyngherddau i apwyntiadau gyda'r doctor a'r deintydd. Efallai na fydd y ddau ohonoch yn gallu bod yno, ond rydych chi'ch dau'n rhan o'r teulu. Gallwch chi'ch dau siarad â'ch plentyn am ddigwyddiadau pwysig yn ei bywyd.
     
  • Beth am gadw blwch arbennig o bethau – Gallwch helpu'ch plentyn gan gadw blwch gyda phethau pwysig i'w dangos i'r rhiant sydd i ffwrdd pan fydd yn dychwelyd e.e., lluniau, adroddiadau ysgol, tystysgrifau.
     
  • Bwrdd lluniau – Os bydd rhiant i ffwrdd am gyfnodau hir gyda gwaith, gallwch greu bwrdd o luniau neu fap i helpu'ich plentyn i ddeall ble mae'r rhiant. Gadewch i'ch plentyn greu'r murlun/map gyda chi.
     
  • Gadewch bethau i atgoffa'ch plentyn amdanoch chi – Os bydd rhiant i ffwrdd am gyfnodau hir, gall recordio'i hun yn darllen stori amser gwely neu wneud albwm o luniau i'ch plentyn gael edrych arno i gael ei atgoffa am y rhiant. 
     
  • Rhowch wybod i'r feithrinfa/ysgol  Cofiwch ddweud wrth yr ysgol y bydd eich partner i ffwrdd ac y gallai hynny arwain at newid yn ymddygiad eich plentyn. 
     
  • Peidiwch â beirniadu'ch gilydd a byddwch yn amyneddgar – Pan fydd rhiant yn dychwelyd, gall gymryd ychydig o amser i ymgyfarwyddo  â'r drefn reolaidd ac addasu i'r ffordd o wneud pethau. Cofiwch ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol, mae'n well i bawb.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth 

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael. 

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy’n digwydd yn dy ardal.