Creu cydbwysedd rhwng 'Amser Teulu' ac 'Amser Sgrin'
Felly, sut allwch sicrhau bod eich plentyn yn cael digon o amser gyda theulu ac i ryngweithio yn ogystal â defnyddio technoleg.
Mae amser sgrin yn golygu amser a dreulir yn gwylio'r teledu, yn chwarae gemau fideo neu’n defnyddio teclynnau llaw fel ffôn neu lechen.
Canllawiau ar amser sgrin
Nid oes modd i unrhyw un ddiddanu plentyn ifanc drwy'r dydd ar eu pennau eu hunain neu gadw i fyny gyda'u hegni! Yn aml, bydd rhieni'n ystyried technoleg fel ffordd o roi 'egwyl' neu 'gyfnod tawel' i blant er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar ychydig o waith tŷ. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn argymell cyfyngu ar amser sgrin plant ifanc oherwydd yr effaith y gall ei chael ar eu hiechyd corfforol, yn enwedig eu golwg a'u hosgo a hefyd eu hiaith a'u sgiliau cymdeithasol. Maen nhw'n argymell y canlynol:
-
ni ddylai plant bach 18 mis ac iau ddefnyddio unrhyw ddyfeisiau digidol
-
dylid cyfyngu amser sgrin plant dwy i bump oed i awr y dydd
-
dylai plant o bob oed (ac oedolion!) osgoi defnyddio dyfeisiau digidol cyn mynd i'r gwely gan fod y golau sy'n cael eu ollwng ganddyn nhw yn gallu ei gwneud yn anodd mynd i gysgu.
Mae tynnu sylw plentyn oddi wrth rywbeth yn dechneg rhianta llwyddiannus i helpu plentyn i symud ymlaen. Gellir gwneud hyn drwy annog mathau eraill o chwarae neu weithgareddau, yn hytrach na llechen neu deledu yn unig.
Gwneud y mwyaf o dechnoleg
Yn ogystal ag annog mathau eraill o chwarae, gall rhieni ddefnyddio technoleg gyda'u plentyn sy'n gyfle i dreulio amser gyda'ch gilydd, a gallwch hefyd osod cyfyngiadau amser a bod yn esiampl o sut a phryd i'w defnyddio.
-
Meddyliwch am ddiogelwch ar-lein - lleihau’r risgiau drwy gymryd rhai rhagofalon fel gwirio'r gosodiadau preifatrwydd ar yr apiau y mae eich plentyn yn eu defnyddio.
-
Byddwch yn esiampl dda - mae'n hawdd anghofio pa mor aml rydyn ni'n edrych ar ein ffonau, ond gallai ein plant sylwi ar hyn ac ymddwyn yr un peth. Ceisiwch greu lle yn eich cartref i gadw ffonau symudol, a pheidiwch â mynd i nôl eich ffôn oni bai eich bod angen ei ddefnyddio am reswm penodol.
-
Meddyliwch am osgo - dylech geisio gwneud yn siŵr nad yw eich plentyn yn straenio ei wddf wrth edrych lawr ar lechen. Anogwch eich plentyn i edrych ar y sgrin ar fwrdd a chymryd egwyl yn rheolaidd drwy edrych i ffwrdd o'r sgrin. Gallech roi sticer ar y wal o'i hoff gymeriad a gofyn iddo edrych arno bob hyn a hyn.
-
Mwynhewch gwmni eich gilydd - y ffordd orau i'ch plentyn ddatblygu ei sgiliau ieithyddol yw gwrando ar 'iaith fyw' y bobl sydd o'i gwmpas. Eisteddwch gyda'ch plentyn pan fydd yn chwarae ar lechen a thrafod beth y mae'n ei weld a beth sy'n digwydd.
-
Defnyddiwch dechnoleg i wneud mwy o weithgarwch corfforol - mae nifer o adnoddau fel rhestrau gwirio a helfeydd ar gael i'w lawrlwytho o wahanol apiau a gwefannau. Gallech drafod y gweithgaredd y mae eich plentyn am ei wneud ac wedyn mynd allan i'r awyr agored i chwilio am yr eitemau ar y rhestr.
Dewis apiau
Mae digon o apiau a gemau ar gael i bob oedran. Ceisiwch ddewis apiau neu gemau addas y bydd eich plentyn yn eu mwynhau. Dewiswch apiau a fydd yn ei helpu i ddysgu rhywbeth, er enghraifft apiau sy'n hybu:
-
creadigrwydd (ee. tynnu lluniau, creu storïau)
-
datrys problemau (ee. gofyn i blant baru eitemau yn ôl siâp neu liw)
-
datblygu iaith (ee. dysgu ei eiriau Cymraeg cyntaf)
-
sgiliau cymdeithasol (ee. cymryd tro wrth chwarae gemau)
-
negeseuon positif am berthnasau, teulu a bywyd - dylech osgoi'r rheini sy'n dreisgar neu'n cynnwys stereoteipio ar sail rhyw neu hil.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol (dolen allanol) awgrymiadau ac argymhellion ar eu gwefan ar gyfer dewis apiau.
Pan fyddwch yn defnyddio technoleg gyda'ch plentyn, bydd yn cael yr hyn sydd fwyaf buddiol iddo - cyfle i ryngweithio â chi.