Neidio i'r prif gynnwy

Bydd plant yn profi'r terfynau, dyna sut y byddant yn dysgu beth sy'n iawn ac yn anghywir.

Peidiwch â phoeni pan fydd plant ifanc yn profi'r terfynau. Dyna sut maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn ac yn anghywir. Mae’n gwbl naturiol ond gall drethu’ch amynedd. Gall helpu os ydych chi’n dilyn trefn reolaidd ac ambell reol fel teulu.

Gallwch helpu i roi trefn a phatrwm i’ch diwrnod gyda threfn gyson a rheolau teulu. Mae pethau’n fwy tebygol o fynd yn ddiffwdan pan fyddwch chi a’ch plentyn yn gwybod beth i’w ddisgwyl. 

  • Bydd trefn yn helpu’ch plentyn i deimlo’n ddiogel a gwybod beth i’w ddisgwyl. Bydd eich plentyn yn hoffi dilyn patrwm rheolaidd a gwybod beth sy’n digwydd nesaf. Gallwch sefydlu trefn ar gyfer plant o gwmpas prydau, byrbrydau ac amseroedd cysgu. Gall trefn amser gwely gynnwys mynd am fath, mynd i’r gwely, darllen stori ac yn diffodd y golau (neu eu pylu). Ar gyfer plant hŷn, gallech egluro’r noson gynt eu bod yn mynd i’r ysgol neu’r feithrinfa y diwrnod wedyn; pwy fydd yn mynd â nhw ac yn eu casglu; a beth fydd yn digwydd ar ôl iddynt gyrraedd adref. Ceisiwch ddod o hyd i’r drefn sy’n gweithio orau i chi.
     
  • Gallwch gynnwys hyblygrwydd o fewn y drefn. Os yw’n heulog, beth am fynd am dro neu gael eich cinio fel picnic? Os yw rhywun yn galw heibio am sgwrs, cymerwch amser i ffwrdd o’r drefn i fwynhau eu cwmni.
     
  • Rhowch wybod i’ch plentyn am unrhyw newid sydd ar fin digwydd. Mae rhai plant yn teimlo rhwystredigaeth os ydyn nhw’n gorfod newid o un gweithgarwch i un arall yn ddirybudd. Bydd eich plentyn yn dod i ddisgwyl a derbyn newid yn well os ydyn nhw’n gwybod ei fod ar fin digwydd. Er enghraifft, “Ar ôl brecwast, rydym ni am fynd i’r siopau”, “Ar ôl i ti orffen dy ginio bydd yn amser i gael cwsg bach”, “Ar ôl cael bath bydd yn amser gwely”.
     
  • Mae rheolau teulu’n dysgu’ch plentyn pa ymddygiad sy’n dderbyniol. Mae dilyn trefn yn cefnogi’r dysgu hwn.
     
  • Cadwch y rheolau’n glir a syml, a gwnewch yn siŵr eu bod yn addas i oedran a gallu’ch plentyn. Bydd nifer y rheolau sydd gennych chi’n dibynnu ar allu’ch plentyn i ddeall a chofio. Gyda phlant ifanc, ceisiwch ganolbwyntio ar ddwy neu dair rheol ar y tro. Ar gyfer plant hŷn, gallwch ofyn iddynt ailadrodd y rheolau i chi er mwyn i chi allu gwneud yn siwr nad ydynt wedi drysu a’u helpu i deimlo wedi’u cefnogi. 
     
  • Siaradwch â’ch plentyn am beth yn union rydych chi’n ei ddisgwyl ganddo. Dywedwch a dangoswch i’ch plentyn yr hyn rydych chi am iddo ei wneud yn hytrach na’r hyn nad ydych chi am iddo ei wneud. Er enghraifft, dywedwch “Rho dy deganau yn y bocs os gweli di’n dda” a dangoswch iddo beth i’w wneud, yn hytrach na “Paid â gadael dy deganau allan”.
     
  • Ceisiwch annog pawb sy’n agos i’ch plentyn i ddilyn y rheolau yn yr un ffordd. Gall problemau godi pan mae rhieni, neiniau a theidiau ac eraill sy’n agos i’ch plentyn yn dilyn gwahanol reolau. Gall hyn ddrysu’ch plentyn os yw’n cael gwneud rhywbeth un diwrnod ac yna’n cael cerydd am wneud yr un peth drannoeth. 
     
  • Gosodwch reolau sy’n gweithio ar gyfer oedran eich plentyn. Gofalwch fod eich plentyn yn gallu gwneud yr hyn rydych chi’n ei ddisgwyl. Os yw’ch plentyn yn ifanc, fydd e ddim yn gallu eistedd yn llonydd am gyfnodau maith neu beidio â thywallt diod. Mae’n naturiol i blant bach fod yn swnllyd a blêr ac mae’n naturiol iddynt geisio gwthio’r ffiniau a chwestiynu beth sy’n digwydd. Gallwch addasu’ch rheolau wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn a chanddo’r ddealltwriaeth a’r gallu i’w dilyn.
     
  • Rhowch wobrau a chanmoliaeth i’ch plentyn am ddilyn trefn a rheolau. Mae hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eich plentyn yn dilyn y drefn a’r rheolau yn y dyfodol.