Gwnewch amser ar gyfer cariad ac anwyldeb (addas o enedigaeth)
Mae cariad ac anwyldeb yn hollbwysig i ddatblygiad ymennydd eich plentyn.
Mae teimladau eich plentyn am ei hun, pa mor hyderus maen nhw a pha mor dda maen nhw’n ymdopi â straen, yn cael eu heffeithio gan y ffordd rydych chi’n ymateb iddyn nhw.
Os oes gennych chi berthynas agos, gariadus ac annwyl gyda’ch plentyn, bydd yn helpu’ch plentyn i deimlo’n saff a diogel. Gelwir y teimlad hwn o ddiogelwch yn fondio neu ymlyniad. Pan mae’ch plentyn yn teimlo’n ddiogel maen nhw’n fwy tebygol o fod yn hapus a hyderus, ac yn gallu ymdopi â gwrthdaro a dicter. Os yw’ch plentyn yn teimlo’n ddiogel, mae’n fwy tebygol o fod yn chwilfrydig a dechrau archwilio, a fydd yn ei helpu i ddatblygu’n dda.
Gwnewch amser ar gyfer cofleidio a chwtshus
Bydd rhoi llawer o gariad a sylw i’ch babi neu’ch plentyn yn eich helpu i glosio. Mae dod o hyd i amser i’w cofleidio bob diwrnod yn:
- gwneud iddyn nhw deimlo’n dawel eu meddwl a diogel
- eu helpu deimlo’n ddigynnwrf ac yn gyfforddus
- gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy diogel a hyderus
- eu helpu i ymdopi â phethau sy’n eu brifo a phroblemau yn y dyfodol
- cryfhau eu perthynas â chi
Mae llawer o gyswllt corfforol fel cwtshus, eu cario, eu hanwesu, dal dwylo a’u cosi yn helpu eich babi neu blentyn i ryddhau cemegau naturiol yn eu corff. Mae hyn yn gwneud iddyn nhw deimlo’n dda, ac mae’r cemegau yn helpu eu hymennydd i dyfu. Ni fyddwch yn sbwylio nhw gyda gormod o gariad neu ormod o cwtshus.
Gwnewch amser i chwarae
Mae chwarae gyda’ch gilydd yn ffordd bwysig o ddangos i’ch babi neu’ch blentyn eich bod yn eu caru ac yn meddwl y byd ohonyn nhw. Rydych chi'n rhoi sylw iddyn nhw ac yn gwneud iddyn nhw deimlo'n arbennig. Mae’r amser rydych chi’n ei dreulio’n chwarae gyda’ch gilydd yn rhoi cant a mil o wahanol ffyrdd ac amseroedd i’ch plentyn ddysgu. Bydd eich plentyn yn hapus os oes ganddo ddigon o amser a gofod i chwarae. Dyw chwarae gyda’ch gilydd ddim yn gorfod costio llawer. Mae’ch amser a’ch sylw yn bwysicach na theganau drud.
Gwneud y gorau o weithgareddau bob dydd
Mae gweithgareddau bob dydd fel amser bath, newid cewyn, amser prydau a gwisgo yn gyfleoedd i gysylltu gyda’ch plentyn mewn ffordd ystyrlon. Beth am roi cwtsh, cofleidio a gogleisio eich babi neu’ch plentyn ar adegau newid cewyn neu fath. Ar eich ffordd i’r siopau neu’r ysgol, gallech gymryd munud neu ddau i bwyntio at rywbeth a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw. Does dim rhaid i’r ymwneud hyn â’ch plentyn gymryd llawer o amser a gall wneud gwahaniaeth go iawn.
Amser Arbennig
Gall fod yn ddefnyddiol iawn neilltuo rhywfaint o amser i dreulio amser arbennig gyda’ch plentyn. Gofynnwch i’ch plentyn beth mae am ei wneud ac yna ymunwch yn yr hwyl. Gallai fod yn chwarae gêm, ymweld â’r parc neu ddarllen gyda’ch gilydd. Drwy dreulio amser arbennig gyda’ch plentyn bydd eich plentyn yn dysgu pa mor bwysig yw ei gwmni i chi. Bydd yn dysgu bod ei ddiddordebau’n bwysig a bydd hyn yn ei helpu i fod yn fwy hyderus.
Canmolwch eich plentyn a rhowch wybod eich bod yn ei garu, hyd yn oed pan nad ydych, weithiau, yn hoffi’r hyn y mae’n ei wneud.
Mae’r rhan fwyaf o’r ymddygiad rydych chi’n ystyried yn annerbyniol yn hollol arferol ar gyfer oedran a cham datblygu eich blentyn. Gofalwch fod eich plentyn yn gwybod mai’r ymddygiad – nid ef neu hi - sy’n peri gofid i chi. Defnyddiwch iaith gadarnhaol, rhowch gwybod iddynt beth yw eich disgwyliadau e.e., “Rydyn ni’n defnyddio dwylo caredig” yn hytrach na “Dim bwrw.”
Mae’n iawn gofyn am help
Chi yw rhan bwysicaf bywyd eich plentyn. Os ydych chi’n cael anhawster ymdopi neu os ydych chi’n poeni am eich perthynas â’ch plentyn, gofynnwch am help. Gall cael cymorth wneud gwahaniaeth mawr i chi’ch dau.
Efallai y bydd y llinellau cymorth hyn o ddefnydd i chi hefyd:
- Llinell Gyngor a Gwrando’r Gymuned (C.A.L.L.) – callhelpline.org.uk ar 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr), neu decstio ‘help’ i 81066. Mae hon yn linell gymorth gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.
- Samaritans yng Nghymru ar 0808 164 0123. Gallwch gysylltu am unrhyw beth sy’n eich poeni chi, waeth pa mor fawr neu fach yw’r mater.
Mae’r cyfnod rhwng genedigaeth a chwech oed yn gyfnod pwysig iawn ar gyfer datblygiad ymennydd eich plentyn. Mae eich ymwneud cariadus â’ch plentyn yn hollbwysig i hapusrwydd, datblygiad iach a dysgu eich plentyn.
Ble i gael cyngor a chefnogaeth
Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.
Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy’n digwydd yn dy ardal.