Neidio i'r prif gynnwy

Weithiau, gall yr holl gyffro, ymwelwyr, bwyd arbennig ac anrhegion beri tipyn o straen i chi a'ch plentyn.

Gyda holl brysurdeb y cyfnod yn arwain at y Nadolig a holl bwysau cynllunio'r diwrnod ei hun, y gost a'r disgwyliadau uchel, mae'n naturiol i deuluoedd deimlo rhywfaint o straen neu bryder.

Dyma’n cyngor ni i’ch helpu i gael Nadolig braf a dibryder:

  • Rhowch lawer o fwythau, sylw a chanmoliaeth i’ch plentyn. Yn ystod tymor prysur y Nadolig ceisiwch roi sylw unigol iddynt pryd bynnag y gallwch. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo'n ddibryder a diogel yn ystod yr holl brysurdeb.

  • Dilynwch eich patrwm dyddiol arferol, cyn belled ag y bo modd. Bydd ceisio cadw at amser arferol prydau bwyd arferol a’r amser gwely arferol yn gwneud i’ch plentyn deimlo’n fwy bodlon ei fyd. Dydy rhai plant ddim yn ymateb yn dda i newid. Gallai egluro pa bethau fydd yn wahanol yn ystod eich dathliadau Nadolig fod o gymorth, er enghraifft, pwy fydd yn ymweld a phryd fyddwch chi’n agor anrhegion. Gall cadw at eich patrwm amser gwely arferol helpu i sicrhau bod eich plentyn yn cael digon o gwsg. Gall diffyg cwsg effeithio ar hwyliau ac ymddygiad plentyn.

  • Siopa Nadolig. Ceisiwch osgoi siopa ar adegau prysur, ac ewch â diod a byrbryd iach gyda chi. Cadwch eich babi neu blentyn yn ddiddan gyda thegan bach neu lyfr, trwy dynnu sylw at bethau a welwch chi yn y siopau, chwarae gemau fel ‘Beth wela’ i' neu ganu cân fel “Mi welais jac-y-do.” Ceisiwch gadw tripiau siopa’n fyr. Mae'n anodd i blant i fod yn amyneddgar am gyfnodau hir.

  • Trefnu ymlaen llaw. Ceisiwch osgoi trefnu ymweliadau cymdeithasol ac ymwelwyr un ar ôl y llall. Pan fyddwch yn mynd allan cofiwch fynd ag ychydig o deganau bach, diod a byrbryd iachus gyda chi. Os ydych yn aros gyda pherthnasau neu ffrindiau mae'n werth cadw mewn cof nad yw’r eitemau diogelwch sydd gennych gartref, fel giatiau grisiau, ganddyn nhw o reidrwydd. 

  • Ceisiwch gael cydbwysedd rhwng amser llawn hwyl ac amser tawel. Dydy babanod a phlant ddim yn ymdopi â gormod o brofiadau, teimladau, sŵn a gweithgarwch newydd yr un pryd bob amser, a gall hynny fod yn ormod o gyffro neu beri straen iddyn nhw. Gall hyn arwain at fwy o ddagrau a gwneud babanod a phlant yn fwy anodd eu rheoli. Mae rhai plant yn ymdopi â llawer o gyffro a chynnwrf yn well nag eraill. Gall rhoi rhywfaint o amser i'ch plentyn chwarae neu orffwys yn dawel bob dydd helpu dros gyfnod y Nadolig.

  • Anrhegion. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gallu fforddio'r teganau diweddaraf. Bydd eich plentyn bach yn cael cymaint o hwyl yn chwarae gyda'r bocsys a’r papur beth bynnag! Gallech benderfynu ar gyllideb a chyfyngu eich plentyn i dri neu bedwar o bethau ar eu rhestr o ddymuniadau. Gall fod yn anodd gwybod pa anrhegion i’w dewis ar gyfer eich plentyn sy'n ddiogel ac yn briodol ar gyfer eu hoedran. Peidiwch â gorfodi neu ddisgwyl i’ch plentyn bach rannu’i anrhegion gyda phlant eraill gan nad yw’n barod yn ddatblygiadol i wneud hynny. Bydd yn cymryd amser i’ch plentyn bach ddysgu i rannu ac mae hyn yn normal.

  • Osgoi bygythiadau’n ymwneud â Siôn Corn. Gall defnyddio Siôn Corn fel ffordd o annog ymddygiad da neu gosbi ymddygiad drwg fod yn demtasiwn. Da o beth yw osgoi gwneud hyn. Does gan blant ifanc ddim sgiliau meddwl aeddfed ac mae angen iddyn nhw fod yn gallu cysylltu eu hymddygiad yn uniongyrchol â'r canlyniad. Mae sôn am Siôn Corn a'r Nadolig yn rhy haniaethol iddyn nhw a gall defnyddio’r bygythiadau hyn wneud iddyn nhw deimlo'n bryderus.

Os bydd pethau'n achosi straen

I chi

Ceisiwch beidio â chynhyrfu - gall cyfrif i ddeg ac anadlu'n ddwfn ychydig o weithiau helpu. Os ydych chi’n teimlo'n rhwystredig neu'n ddig, rhowch eich plentyn bach neu fabi rhywle diogel am gyfnod byr (cot, er enghraifft). Rhowch gyfle i chi’ch hun deimlo'n dawelach a llai cythryblus. Neu rhowch eich plentyn bach yn ei gadair gwthio a mynd am dro i ollwng stêm.

Gall siarad â rhywun helpu hefyd. Mae Family Lives (dolen allanol) yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol am ddim (o linellau tir a'r rhan fwyaf o ffonau symudol). Gallwch ffonio 0808 800 2222 i gael gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar unrhyw agwedd ar fagu plant a bywyd teuluol. Mae’r llinell gymorth (Saesneg yn unig) ar agor rhwng  9am a 9pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Os ydych chi’n poeni am anawsterau ariannol, mae llawer o wybodaeth a chyngor diduedd am ddim ar wefan Money Made Clear Wales (dolen allanol).

Weithiau gall cyfnod y Nadolig yn rhoi pwysau ar eich perthynas ag eraill. Mae gwybodaeth a chefnogaeth i’w cael ar wefannau Couple Connection (dolen allanol) neu Relate (dolen allanol). Gall rhieni sydd wedi gwahanu wynebu nifer o heriau dros y Nadolig. Mae gwybodaeth a chyngor ar wefan Parent Connection (dolen allanol).

I’ch babi

Ceisiwch fynd i rywle tawel gyda’ch babi am gyfnod, er enghraifft, ei got neu allan yn ei bram. Mae rhai babanod yn mwynhau cael eu lapio neu eu cario neu eu siglo neu fod mewn ystafell dawel heb lawer o olau.

I’ch plentyn neu blentyn bachCeisiwch leihau sŵn a gweithgarwch a rhoi cyfle i’ch plentyn ddiddanu ei hun yn dawel, yn ei ffordd ei hun ac wrth ei bwysau. Dewiswch weithgaredd sy’n tawelu eich plentyn fel darllen llyfr, gwneud pos, cael bath neu ganu cân. Gall mynd allan i'r awyr iach a chael seibiant oddi wrth fwrlwm y Nadolig helpu.

Gall portreadau'r cyfryngau o deuluoedd yn mwynhau Nadolig “perffaith” wneud i chi deimlo dan bwysau i sicrhau bod popeth yn union fel y dylai fod. Yr anrheg gorau y gallwch ei roi i’ch plentyn yw eich amser, felly peidiwch â phoeni am dreulio gormod o amser yn paratoi gwledd, prynu llond trol o anrhegion neu wneud i bopeth edrych yn gwbl berffaith.