Neidio i'r prif gynnwy

Mae strancio yn gyffredin iawn ymhlith plant bach a phlant iau. Mae'n rhan arferol o'r broses dyfu wrth i'r ymennydd ddatblygu. Yn aml bydd plant ifanc yn cyfleu eu teimladau a’u hanghenion drwy eu hymddygiad gan nad oes ganddynt y geiriau na’r ddealltwriaeth eto i gyfathrebu ar lafar.

Peidiwch â digalonni – mae plant yn strancio llai ar ôl iddynt droi'n bedair oed. Gall plant hŷn strancio weithiau hefyd, felly efallai y bydd y cyngor isod o ddefnydd i blant o bob oedran.

Beth i'w wneud pan fydd eich plentyn yn strancio

  • Gwnewch yn siŵr ei fod yn ddiogel. Allwch chi ddim atal stranc. Arhoswch gerllaw ac os oes angen symudwch eich plentyn i rywle diogel, tawel a digynnwrf.
     
  • Arhoswch yn agos a pheidiwch â chynhyrfu. Mae'n bwysig bod eich plentyn yn gwybod eich bod yno o hyd a'ch bod gydag ef – efallai drwy ddweud rhywbeth i dawelu ei feddwl neu drwy gadw cyswllt llygad ag ef.
     
  • Cofiwch beidio â dangos dicter. Efallai y byddai'n ddefnyddiol cyfrif i ddeg ac anadlu'n ddwfn sawl gwaith. Peidiwch â cheisio dadlau ag ef a pheidiwch â gweiddi. Mae'n anodd iawn meddwl pan fyddwch chi'n teimlo ar ben eich digon.
     
  • Peidiwch â smacio eich plentyn na'i gosbi'n gorfforol. Mae hyn yn anghyfreithlon yng Nghymru. Ni fydd yn eich helpu i ddeall yr hyn sy'n gyfrifol am y strancio.
     
  • Ar ôl i’ch plentyn dawelu, rhowch gysur iddo a ailgysylltwch ag ef. Dywedwch wrtho eich bod yn falch ohono am dawelu.
     
  • Peidiwch â phoeni am beth mae pobl eraill yn ei feddwl! Gall fod yn anodd os bydd eich plentyn yn strancio. Peidiwch â chynhyrfu os bydd pobl eraill yn eich gwylio – dylech barhau I ganolbwyntio ar eich plentyn.

Ffyrdd o osgoi strancio

  • Meddyliwch am bryd mae eich plentyn yn strancio. Ceisiwch ddeall pam y gallai eich plentyn ymddwyn fel hyn. Acronym Saesneg defnyddiol i’w gofio yw HALT. Ydy eich plentyn yn llwglyd (Hungry), dig (Angry), unig (Lonely), blinedig (Tired).
     
  • Ydy eich plentyn yn poeni neu'n pryderu am rywbeth? Gallwch roi sicrwydd i’ch plentyn drwy ddangos cariad a rhoi cwtchys iddo.
     
  • Rhowch ddewisiadau syml i'ch plentyn. Mae plant bach a phlant ifanc yn ysu am fod yn annibynnol. Gallan nhw fynd yn ddig a chrio os nad ydyn nhw byth yn cael dewis nac yn cael rheoli ei hunain. Mae modd i chi gynnig dewisiadau syml er enghraifft ‘afal neu fanana?’.
     
  • Cynlluniwch ymlaen llaw. Ewch â byrbrydau a theganau bach gyda chi pan fyddwch chi allan.
     
  • Helpwch eich plentyn i fynegi ei deimladau. Dywedwch wrtho beth mae’n ei deimlo er enghraifft pan fyddwch chi'n gweld ei fod yn hapus, yn drist, yn grac, yn siomedig neu'n rhwystredig. Bydd hyn yn ei helpu i ddysgu'r gair am y teimlad neu'r emosiwn hwnnw fel y bydd modd iddo ddysgu sut i fynegi sut mae'n teimlo y tro nesa. Drwy hyn, gall ddod i ddeall a rheoli ei deimladau yn well.
     
  • Gwnewch amser ar gyfer chwarae egnïol bob dydd i roi cyfle i'ch plentyn “gollwng stêm”. Beth am fynd i'r parc, chwarae yn yr ardd neu roi cerddoriaeth ymlaen a dawnsio?
     
  • Dangoswch esiampl dda drwy beidio â chynhyrfu pan fydd pethau'n anodd. Bydd hyn yn annog eich plentyn i wneud yr un peth.
     
  • Os byddwch chi’n poeni am unrhywbeth, siaradwch gyda’ch Ymwelydd Iechyd. Mae eich Ymwelydd Iechyd yno i'ch helpu. Mae’n gallu rhoi cyngor a chymorth chymorth ar bob agwedd ar ddatblygiad eich plentyn.

Mae gan ein hadnodd ‘Deall ac Ymateb i Ymddygiad Plant yn y Blynyddoedd Cynnar’ fwy o wybodaeth am ffyrdd o helpu’ch plenty i ddatblygu sgiliau hunanreoleiddio i reoli ei deimladau wrth iddo dyfu.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy'n digwydd yn dy ardal.