Neidio i'r prif gynnwy

Mae mynd i siopa yn gallu bod yn brofiad cyffrous i blant, ac yn gyfle iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau siarad trwy bwyntio at bethau newydd a diddorol.

Weithiau, mae plant ifanc yn gallu mynd yn rhwystredig, sy’n gallu gwneud pethau’n anodd i chi.

Dyma rai syniadau ar sut i wneud siopa’n fwy pleserus.

Gallwch gynllunio ymlaen llaw drwy:

  • Ceisio peidio â mynd i siopa yn agos at amser bwyd neu amser cysgu, neu pan fyddwch chi ar frys.
     
  • Osgoi siopa ar adegau prysur, er mwyn osgoi disgwyl mewn ciwiau.
     
  • Mynd â diod a byrbryd iach gyda chi, a thegan bach neu lyfr i ddiddanu’ch plentyn.
     
  • Ceisiwch cynnwys eich plentyn wrth paratoi’r rhestr siopa. Efallai y bydd yn hoffi dod a’i restr ei hun o bethau i chwilio amdanyn nhw.
     
  • Meddwl pa siop a pha eiliau mae angen i chi fynd iddynt, er mwyn osgoi temtasiwn.

Yn y siop

  • Pwyntiwch at bethau rydych chi’n eu gweld yn y siop – siaradwch am liwiau, meintiau a siapiau a beth mae eich plentyn yn ei brofi, e.e. os yw’n oer yn yr eil rhewgelloedd.
     
  • Gadewch i’ch plentyn ddal y restr siopa ac edrych am yr eitemau hynny.
     
  • Gadewch i’ch plentyn roi pethau yn y troli, rhowch bethau iddo i’w rhoi ar y cownter neu yn eich bag siopa.
     
  • Chwaraewch gemau fel ‘Mi wela i gyda’m llygad fach i’ neu canwch gân fel ’Mae olwynion y bws yn mynd rownd a rownd.’
     
  • Canmolwch eich plentyn am ddod o hyd i bethau ar y rhestr siopa neu am fod yn amyneddgar tra’ch bod chi’n siopa.
     
  • Ceisiwch gadw teithiau siopa yn fyr. Mae’n gallu bod yn anodd i blant fod yn amyneddgar am gyfnodau hir.
     
  • Rhowch rywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato ar ôl i chi orffen siopa fel mynd am dro i’r parc.

Gallwch ymateb i ymddygiad anodd drwy:

  • Peidiwch ag ildio os bydd eich plentyn yn mynnu cael teganau a losin. Byddwch yn gyson, yn enwedig wrth ddweud ‘na’. Os byddwch chi’n dweud ‘na’ ac yna’n ildio, efallai y bydd eich plentyn yn cael y neges bod poeni a chwyno yn gallu gweithio. Yn hytrach, ceisiwch dynnu sylw’ch plentyn.
     
  • Byddwch yn esiampl dda drwy beidio â gwylltio os bydd pethau’n mynd yn anodd. Bydd hyn yn annog eich plentyn i wneud yr un peth.
     
  • Meddyliwch beth achosodd y broblem. Efallai y gallwch chi osgoi’r sefyllfa honno y tro nesaf.

Peidiwch â phoeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl. Gall fod yn anodd os bydd eich plentyn yn strancio. Peidiwch â chynhyrfu os bydd pobl eraill yn eich gwylio – dylech barhau i ganolbwyntio ar eich plentyn.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (www.ggd.cymru) lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy’n digwydd yn dy ardal.