Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhai plant yn 3-4 oed cyn y byddan nhw’n sych drwy’r nos. Bydd rhai plant yn dal i wlychu’r gwely pan fyddan nhw’n bump neu chwech oed. Mae hyn yn normal. Mae llawer o blant yn tyfu allan o wlychu’r gwely erbyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol, ond mae rhai plant oedran ysgol gynradd yn dal i wlychu’r gwely.

Efallai y bydd plant sy’n gwlychu’r gwely yn cysgu’n drymach ac yn anoddach eu deffro na phlant eraill. Fyddan nhw ddim yn gallu deffro’u hunain pan fyddan nhw angen gwneud pi pi. Efallai y bydd gan rai plant bledren sydd ddim yn gallu dal llawer o bi pi.

Efallai y bydd eich plentyn wedi bod yn sych drwy’r nos ond yna’n dechrau gwlychu’r gwely eto. Efallai y bydd hyn yn digwydd os yw’n poeni am rywbeth fel y teulu’n chwalu neu ddechrau yn yr ysgol. Neu efallai y bydd yn digwydd os yw’n teimlo’n sâl. Fel arfer, bydd y broblem yn diflannu pan fydd eich plentyn yn teimlo’n fwy diogel.

Efallai y bydd y canlynol yn help i chi:

  • Atgoffwch eich plentyn i ddefnyddio’r toiled cyn mynd i’r gwely. 

  • Dywedwch wrth eich plentyn y byddwch chi’n ei helpu yn y nos os bydd yn deffro a’i fod angen gwneud pi pi. 

  • Efallai y bydd golau nos neu boti yn ei ystafell yn helpu os oes arno ofn codi yn y nos. Neu gadewch olau ymlaen yn yr ystafell ymolchi. 

  • Rhowch bad neu orchudd gwrth-ddŵr dros y fatras. 

  • Gofalwch fod eich plentyn yn yfed digon o hylif (e.e. dŵr) yn ystod y dydd ac yn bwyta digon o ffibr (a geir mewn ffrwythau a llysiau) i’w atal rhag mynd yn rhwym. Os yw’ch plentyn yn rhwym, mae hyn yn gallu oeni ei bledren yn y nos a pheri iddo wlychu’r gwely. 

  • Atgoffwch eich plentyn fod gwlychu’r gwely yn normal, a bydd yn tyfu allan ohono.

Beth fydd ddim yn helpu:

  • Fydd annog eich plentyn i yfed llai ddim yn helpu. Os bydd eich plentyn yn yfed llai, bydd ei bledren yn addasu i ddal llai o hylif. Gadewch i’ch plentyn yfed chwe neu saith cwpan o ddŵr yn ystod y dydd.

  • Peidiwch â rhoi diodydd sy’n cynnwys caffein, fel te, cola a siocled i’ch plentyn cyn iddo fynd i’r gwely. Fe allan nhw achosi i’r arennau gynhyrchu mwy o wrin (pi pi).

  • Peidiwch â chosbi, beirniadu na thynnu coes eich plentyn os bydd yn gwlychu’r gwely. Dydy’ch plentyn ddim yn ei wneud yn fwriadol. Dydy e ddim yn digwydd am ei fod yn ddiog nac am ei fod eisiau sylw. Dydy rhai plant ddim yn deffro pan fydd eu pledren yn llawn neu os oes ganddyn nhw bledren sydd ddim yn gallu dal llawer o wrin.

  • Peidiwch â chynnig gwobrau gan na all eich plentyn reoli’r peth.

Os ydych chi’n poeni bod problem, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd neu’ch meddyg teulu.

Efallai y byddwch chi’n falch clywed bod gwlychu’r gwely yn gwbl normal ymhlith plant o dan 5 oed.