Cyngor ar frwsio dannedd (ar gyfer plant rhwng 6 mis a 5 oed)
Mae brwsio dannedd â phast dannedd fflworid yn helpu i atal dannedd rhag pydru ac i gadw gymiau'n iach. Bwyd a diod yn cynnwys siwgr sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o bydredd dannedd. Mae cyngor ynglŷn ag amser bwyd a bwyta'n iach ar ein tudalen amser bwyd.
Pryd dylwn i ddechrau brwsio dannedd fy mhlentyn?
-
Dechreuwch frwsio dannedd eich plentyn cyn gynted ag y byddan nhw'n ymddangos. Mae'r dannedd babi cyntaf yn ymddangos pan fydd plentyn tua 6 mis oed, ond gall ddigwydd rai misoedd yn hwyrach na hyn.
-
Ewch â'ch plentyn at y deintydd erbyn ei fod yn 1 oed - gall y tîm deintyddol roi help a chyngor i chi ar gadw dannedd yn iach.
Sut dylwn i frwsio dannedd fy mhlentyn?
-
Dewiswch frws meddal â phen bach.
-
Brwsiwch ddwywaith y dydd - yn y bore a chyn mynd i'r gwely bob nos.
-
Ar gyfer plant rhwng 6 mis a 3 mlwydd oed - defnyddiwch ddiferyn o bast dannedd fflworid sy'n cynnwys 1350 neu 1450 rhan fesul miliwn (ppm) o fflworid (bydd y manylion ar y pecyn).
-
Ar gyfer plant 3 oed a throsodd - defnyddiwch faint pysen o bast dannedd "teulu" sy'n cynnwys 1350 i 1500 ppm o fflworid.
Bydd angen i chi oruchwylio'ch plentyn yn brwsio'i ddanedd nes y bydd yn 7 oed o leiaf. Peidiwch byth â gadael plentyn ar ei ben ei hun gyda brws dannedd - mae'n bosibl iddo faglu a brifo'i geg - a pheidiwch â gadael i'ch plentyn fwyta past dannedd.
- Peidiwch byth â rhannu brwsys dannedd - gwnewch yn siŵr bod gan bawb ei frwsh ei hun.
Brwsio dannedd eich plentyn
-
Eisteddwch eich plentyn ar eich glin, gyda'i ben ar eich penelin - gallwch ddal ei ben a gweld ei ddannedd.
-
Glanhewch y dannedd yn dyner, yn un rhan o'r geg ar y tro - a chofiwch y dannedd cefn!
-
Sychwch unrhyw bast dannedd sydd dros ben i ffwrdd. Gall plant hŷn boeri past dannedd sydd dros ben allan, ond peidiwch â gadael iddyn nhw rinsio â dŵr. Mae hynny'n golchi'r past dannedd i ffwrdd ac yn ei atal rhag gweithio cystal.
Beth alla i wneud os nad yw fy mhlentyn yn gadael i mi frwsio ei ddannedd?
-
Gadewch i'ch plentyn eich gweld chi'n brwsio'ch dannedd. Mae plant bach wrth eu boddau'n dynwared.
-
Gwnewch gêm ohono - brwsiwch eich dannedd ac yna gadewch i'ch plentyn frwsio eich dannedd chi. Wedyn brwsiwch ddannedd eich plentyn.
-
Defnyddiwch ddrych a glanhau ei ddannedd o'r tu cefn i'ch plentyn fel ei fod yn gallu gwylio beth rydych chi'n ei wneud.
-
Gwnewch y broses o frwsio dannedd yn rhan o drefn amser mynd i'r gwely. Os yw eich plentyn wedi blino ar ôl cael bath, rhowch gynnig ar frwsio'i ddannedd cyn ei roi yn y bath neu hyd yn oed tra y mae'n cael bath.
-
Gadewch i'ch plentyn ddewis ei frws dannedd ei hun, ond gwnewch yn sicr ei fod yn addas i blant.
-
Os yw defnyddio brws dannedd yn anodd, rhowch gynnig ar ddefnyddio diferyn o bast dannedd ar gadach ymolch glân, sych wedi'i lapio o gwmpas eich bys. Cewch newid i frws dannedd pan fydd eich plentyn wedi magu mwy o hyder.
-
Gall defnyddio synau wneud brwsio dannedd yn hwyl. Gofynnwch i'ch plentyn wneud sŵn 'iiii' pan 'dych chi'n glanhau ei ddannedd blaen, a sŵn 'aaaa' ar gyfer y dannedd cefn.
-
Gall canu helpu hefyd. Gadewch i'ch plentyn ddewis cân i chi ei chanu wrth iddo frwsio'i ddannedd. Efallai yr hoffech chi ddefnyddio teclyn amseru brwsio dannedd sy'n helpu plant i weld a ydyn nhw'n brwsio'u dannedd yn ddigon hir i'w glanhau nhw (rhwng munud a dwy funud). Mae teclynnau amseru lliwgar gyda chymeriadau arnynt ar gael, i'w wneud yn fwy o hwyl.
-
Mae llyfrau am frwsio dannedd a mynd at y deintydd ar gael ac mae fideos o blant yn brwsio'u dannedd ar gael ar y we.
Os 'dych chi'n dal yn cael problemau, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu ewch i weld eich deintydd.
Cewch ddarllen rhagor am frwsio dannedd a sut i gadw dannedd eich plentyn yn iach ar wefan Cynllun Gwên (Dolen allanol).