Cnoi / Brathu (addas ar gyfer 6 mis - 3 blynedd)
Wrth i blant bach ddatblygu, byddan nhw mwy na thebyg yn rhoi pethau yn eu cegau neu cnoi neu frathu pobl eraill.
Bydd y rhan fwyaf o blant yn mynd drwy gyfnod pan fyddan nhw’n cnoi neu frathu plentyn neu oedolyn arall. Dydyn nhw ddim yn deall y byddan nhw’n brifo rhywun os ydyn nhw’n cnoi neu frathu.
Fel arfer mae planty yn symud ymlaen o gnoi neu frathu. Wrth I’r plenty ddatblygu bydd yn dysgu’r geiriau a’r sgiliau I fynegi ei deimladau.
Efallai y bydd eich plentyn yn cnoi neu frathu oherwydd ei fod:
- yn torri dannedd;
- yn archwilio pethau a phobl – mae babanod a phlant bach yn defnyddio eu cegau i archwilio;
- yn rhwystredig, cyffrous neu wedi digio ond does ganddo ddim y geiriau i fynegi ei hun;
- eisiau cyswllt ag oedolyn;
- wedi gorflino;
- yn ymateb i ymddygiad ymosodol plentyn arall;
- yn copïo eraill;
- yn poeni neu’n bryderus am newid yn ei fywyd fel babi newydd neu symud tŷ; neu
- â diddordeb yn yr ymateb a gaiff a ddim yn deall y bydd yn brifo.
Gallwch ymateb drwy:
- Beidio â chynhyrfu. Peidiwch cnoi neu frathu eich plentyn bach yn ôl. Bydd hyn yn brifo eich plentyn ac yn rhoi’r neges anghywir iddo fod yr ymddygiad hwn yn dderbyniol.
- Peidiwch â smacio na chosbi’n gorfforol. Mae hyn yn anghyfreithlon yng Nghymru. Efallai eich bod chi’n meddwl y bydd yn atal yr ymddygiad, ond dydy hyn ddim yn ymateb i anghenion eich plentyn nac yn ei helpu i ddysgu sut i ddeall ei emosiynau a datblygu mwy o reolaeth dros ei ymddygiad.
- Bod yn chwilfrydig ynghylch pam mae’ch plentyn wedi cnoi neu frathu a gwneud cysylltiad gyda nhw.
- Cynnig rhywbeth arall i’w gnoi neu frathu - er enghraifft tegan torri dannedd.
- Cywiro'r ymddygiad. Rhowch wybod yn dawel i’ch plentyn nad yw’n iawn i gnoi neu frathu pobl.
- Ailgysylltu â’ch plentyn - er enghraifft, rhoi cwtsh neu ddarllen stori gyda’ch gilydd.
- Canmol eich plentyn pan fyddwch chi’n ei weld yn bod yn garedig i chi, plentyn arall neu oedolyn. Bydd yn dysgu mai dyma’r ymddygiad yr ydych chi eisiau’i weld.
Cyngor da i helpu gyda cnoi neu frathu:
- Cadwch ddigon o bethau diogel i’ch plentyn eu brathu neu gnoi - er enghraifft cylchau torri dannedd neu rywbeth crensiog i’w fwyta (fel cracyrs plaen, ffyn moron neu ddarnau o afal).
- Ceisiwch ragweld problemau - symudwch eich plentyn cyn iddo gnoi neu frathu.
- Rhowch ddewisiadau syml i’ch plentyn - er enghraifft "top coch neu dop glas?”, “afal neu fanana?” sy’n rhoi ymdeimlad o reolaeth iddyn nhw. Gall hyn helpu i leihau cnoi neu frathu.
- Helpwch eich plentyn i fynegi ei deimladau - enwch deimladau eich plentyn pan fyddwch yn sylwi arnyn nhw, er enghraifft pan welwch ei fod yn hapus, trist, crac, siomedig neu rwystredig. Bydd yn ei helpu i ddysgu’r gair am y teimlad neu’r emosiwn hwnnw fel y bydd, mewn amser, yn gallu dysgu mynegi sut maen teimlo.
- Trefnwch amser bob dydd i chwarae’n egnïol - mynd i’r parc, chwarae yn yr ardd neu roi cerddoriaeth ymlaen a dawnsio.
- Ceisiwch osgoi sefyllfaoedd sy’n achosi straen lle bydd llawer o blant eraill ar ddiwrnodau pan fydd eich plentyn yn flinedig iawn.
Gall cnoi neu frathu fod yn ofidus ac yn straen ar oedolion, ond i blant bach mae’n briodol fel arfer ar y cam hwn yn y datblygiad. Os ydych chi’n poeni mewn unrhyw ffordd siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd. Maen nhw yno i’ch cefnogi a gallan nhw roi cyngor a chymorth.
Ble i gael cyngor a chefnogaeth
Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.
Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (www.ggd.cymru) lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy'n digwydd yn dy ardal.